Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 02 Awst 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf, sy'n cynnwys: Uwchradd Willows yw'r ysgol uwchradd gyntaf yng Nghaerdydd i dderbyn dyfarniad pwysig UNICEF UK; arolygiad yn cymeradwyo Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd; a grantiau ar gael nawr i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa gwaith cymdeithasol.

 

Uwchradd Willows yw'r ysgol uwchradd gyntaf yng Nghaerdydd i dderbyn dyfarniad pwysig UNICEF UK

Mae Ysgol Uwchradd Willows wedi derbyn Dyfarniad Arian Ysgolion sy'n Parchu Hawliau (DYPH) gan Bwyllgor UNICEF yn y DU, am ei hymrwymiad at hyrwyddo a gwireddu hawliau plant ac annog oedolion, plant a phobl ifanc i barchu hawliau pobl eraill yn yr ysgol.

Mae'r dyfarniad yn cydnabod yr ysgolion hynny sy'n gwneud cynnydd rhagorol tuag at wreiddio egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn eu hethos a'u cwricwlwm ac wrth galon eu cynllunio, eu polisïau a'u harferion.  Mae Ysgol sy'n Parchu Hawliau yn gymuned lle mae hawliau plant yn cael eu dysgu, eu haddysgu, eu hymarfer, eu parchu, eu diogelu a'u hyrwyddo.

Yn eu hadroddiad, nododd UNICEF DU fod gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Willows ddealltwriaeth dda iawn o hawliau a'u bod yn gallu rhestru detholiad o erthyglau a'u cysylltu â phrofiadau bywyd, gan ddeall bod hawliau nid yn unig yn gyffredinol a diamod, ond yn anwahanadwy, yn anaralladwy ac yn gynhenid.

Roedd y canlynol ymhlith uchafbwyntiau eraill yr adroddiad:

  • Roedd staff a disgyblion yn dweud fod perthnasoedd drwy'r ysgol gyfan yn gadarnhaol ac wedi'u sylfaenu ar urddas a pharch at ei gilydd a bod diwylliant cadarnhaol yn cael ei atgyfnerthu o ran caredigrwydd, dyheadau a gwydnwch.
  • Mae'r rhain yn cael eu dysgu drwy wasanaethau, trefniadau dyddiol ac ymdrech fwriadol gan staff a disgyblion i fodelu enghreifftiau cadarnhaol i gymuned Willows.
  • Mae'r ysgol yn gosod lles cymdeithasol ac emosiynol plant yn uchel ar ei agenda, ac fe wnaeth disgyblion drafod yr effaith gadarnhaol y mae Swyddogion Lles yn yr ysgol yn ei gael. Mae'r disgyblion yn rhydd i drafod eu hiechyd meddwl ac os ydyn nhw'n cael trafferth gydag unrhyw beth.
  • Roedd y disgyblion yn teimlo'n hyderus bod ganddyn nhw lais yn yr ysgol, a bod eu barn yn cael ei gymryd o ddifrif. Trafodwyd sut mae'r grŵp Arweinyddiaeth gan Ddisgyblion wedi cael ei greu.
  • Mae rhieni'n cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gylchlythyr yr ysgol a'r cyfryngau cymdeithasol ac mae swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd a Chymunedau'n cynorthwyo'r ysgol a'r gymuned i ddatblygu perthynas gref.

 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29584.html

 

Arolygiad yn cymeradwyo Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd

Mae adroddiad swyddogol newydd ar safonau yng Ngwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd wedi nodi gwelliannau sylweddol mewn sawl maes.

Ymhlith y gwelliannau sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad mae:

  • Gostyngiad mawr yn y rhai sy'n dod i'r system gyfiawnder wrth i'r GCI ganfod ffyrdd gwell o atal risg a darparu her a chefnogaeth
  • Gostyngiad yn nifer yr aildroseddu gan blant
  • Mae gostyngiad yn y defnydd o ddedfrydau carchar gan fod gan y farnwriaeth nawr hyder yng ngallu'r gwasanaethau lleol i oruchwylio gorchmynion cymunedol

 

Heddiw cyhoeddwyd yr adroddiad, gan Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi (HMIP), a daw ar ôl adolygiad tair wythnos o'r GCI, sy'n gweithio gyda phlant rhwng 10-18 oed yng Nghaerdydd i helpu i atal troseddu, lleihau troseddu gan y plant hynny yn y system a sicrhau mai dim ond pan fo angen y defnyddir y ddalfa.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29582.html

 

£10 mewn grantiau ar gael nawr i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa gwaith cymdeithasol

Mae Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo pecyn cymorth gwerth £3.5m a gynlluniwyd i roi hwb ariannol i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol yn ystod ac ar ôl eu hastudiaethau.

Bydd Bwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol ychwanegol Llywodraeth Cymru - cynnydd o 50% ar y fwrsariaeth bresennol - ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yng Nghymru ac mae'n werth bron i £10m dros y tair blynedd nesaf.

O fis Medi ymlaen, bydd graddedigion cymwys sy'n astudio ar gyfer gradd gwaith cymdeithasol yn gallu cael hyd at £3,750 y flwyddyn dros y cwrs tair blynedd, yn ogystal â'r cyllid sydd eisoes ar gael drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru.

A bydd ôl-raddedigion yn gallu cael £12,715 y flwyddyn ar eu cwrs dwy flynedd, gan leihau'r benthyciad y mae angen i fyfyrwyr ei ad-dalu wedi eu hastudiaethau.

Mewn datganiad ar y cyd dwedodd aelodau'r Cabinet, y Cynghorydd Ash Lister a'r Cynghorydd Norma Mackie, sy'n rhannu'r portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae gweithwyr cymdeithasol yn rhan allweddol o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud yn y cyngor, gan gefnogi pobl i fod yn gyfrifol am eu bywydau eu hunain a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymunedau ar draws y ddinas.

"Mae'r pandemig wedi ychwanegu pwysau at yr hyn sydd eisoes yn broffesiwn heriol a bydd y bwrsariaethau ychwanegol yn rhoi cymorth ariannol y mae mawr ei angen ar fyfyrwyr gwaith cymdeithasol.

Rydym yn croesawu'r cyllid ychwanegol a byddem yn annog unrhyw un sy'n ystyried gyrfa mewn Gwaith Cymdeithasol i ymchwilio i'r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael."

I gael rhagor o fanylion ynghylch sut i gael gafael ar y cyllid, ewch i:
https://gofalcymdeithasol.cymru/dysgu-a-datblygu/ariannu-gradd-gwaith-cymdeithasol