Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 05 Awst 2022

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: angen Gwarcheidwaid Coed i helpu i ofalu am goed sychedig Caerdydd; dros 40 mlynedd o gyfnewid ieuenctid gyda Stuttgart; mae Canolfan Microsoft Llundain yn cynnal ymweliad gan bobl ifanc Caerdydd; a y Grŵp Effaith Gofalwyr

 

Angen Gwarcheidwaid Coed i helpu i ofalu am goed sychedig Caerdydd

Diolch i'r llu o wirfoddolwyr parod, mae 20,000 o goed newydd wedi cael eu plannu yng Nghaerdydd ers yr hydref diwethaf fel rhan o raglen eang iawn i blannu coed gyda'r nod o gefnogi bioamrywiaeth a chynyddu canopi coed y ddinas o 18.9% i 25%.

Ond mae angen tipyn o ddŵr ar goed newydd i oroesi ac mae'r tywydd poeth diweddar wedi arwain Cyngor Caerdydd i ofyn i fwy o drigolion ddod yn 'Warcheidwaid Coed' i helpu i ofalu am y coed, a gofalu am y miloedd ohonynt sydd ar ochrau strydoedd y ddinas.

Meddai Chris Engel, Rheolwr Prosiect Coed Caerdydd: "Ar y cyfan fe allwch chi weld pan mae coeden wedi'i dadhydradu drwy edrych ar ei dail - os ydyn nhw'n dechrau gwywo, os yw'r dail yn felyn, neu os yw'n colli dail, yna mae'n arwydd sicr bod angen ychydig o ddŵr arni.

"Bydd coed bob amser yn elwa ar gael ychydig o ddŵr bob dydd - mae angen mwy o ddŵr ar y rhai mwy o faint rydyn ni wedi'u plannu - ond mewn gwirionedd bydd unrhyw beth yn helpu, yn enwedig yn gynnar yn y bore neu gyda'r nos ar ôl i'r tymheredd ostwng. Fel hynny mae llai o ddŵr yn cael ei golli i anwedd.

"Mae hyd yn oed coed hŷn yn dioddef pan fo glawiad mor isel ag y bu'n ddiweddar a byddem yn gofyn i drigolion feddwl am y coed allai fod wedi bod yn sefyll ar y stryd y tu allan i'w tŷ am genedlaethau ac unrhyw rai rydym wedi eu plannu ar y strydoedd yn ddiweddar. Yn sicr ar gyfer coed newydd mae'r haf hwn yn addo bod yn weddol heriol.

"Mae llawer o'n gwirfoddolwyr eisoes yn ein helpu drwy gadw llygad ar y coed sydd wedi cael eu plannu yn eu cymdogaeth, ond rydyn ni am i gymaint o goed â phosib ffynnu, fel y gallant ddechrau gwneud yr holl bethau rhyfeddol rydyn ni'n gwybod eu bod yn eu gwneud. Po fwyaf o warcheidwaid coed sydd gennym yn gweithio gyda ni, y mwyaf o goed y bydd gennym yr hydref nesaf, a'r gynharaf y gallwn ni i gyd ddechrau elwa."

Mae'r coed a blannwyd dros y chwe mis diwethaf yn cynnwys coed ffrwythau megis afalau, cyll, gellyg ac eirin a choed sydd ddim yn ffrwytho fel gwernen, ffawydden, oestrwydden a cherddinen. Gyda'i gilydd maen nhw'n cwmpasu ardal o dir sy'n cyfateb i 11.2 o gaeau pêl-droed.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae'r ymateb cymunedol i brosiect Coed Caerdydd wedi bod yn anhygoel. Mae'r diolch i wirfoddolwyr ar draws y ddinas fod yna newid sylweddol wedi bod yn nifer y coed a blannwyd dros y tymor diwethaf.

"Rydyn ni'n gwneud yr hyn y gallwn ni, ond mae rhoi dŵr i 20,000 o goed yn waith enfawr, a bydd unrhyw gymorth pellach y gall trigolion ei roi dros yr wythnosau nesaf o wir fudd i'r coed, ac i'n hymdrechion i wneud Caerdydd yn ddinas Un Blaned."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29609.html

 

Dros 40 mlynedd o gyfnewid ieuenctid gyda Stuttgart

Mae pobl ifanc sy'n defnyddio Gwasanaeth Ieuenctid Gogledd Trelái a darpariaeth Gwasanaethau Ieuenctid ehangach Caerdydd, wedi cychwyn ar eu cyfnewid ieuenctid gyda Chanolfan Ieuenctid Stamheim yn Stuttgart am 41fed tro.

Bydd y grŵp o wyth plentyn 13-17 oed, yn treulio 10 diwrnod yn archwilio Awstria, yn mwynhau gweithgareddau dan do ac awyr agored yn ogystal ag ymweliadau ag Amgueddfa Mercedes Benz a pharc thema.

I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd ewch i:

www.cardiffyouthservices.wales/cy/

Mae Caerdydd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran ymgorffori hawliau plant yn strategaethau'r Cyngor a'r ffordd y caiff ein pobl ifanc eu cefnogi a'u meithrin, sy'n cyd-fynd yn agos ag uchelgais y ddinas i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF.

I gael gwybod mwy am Caerdydd sy'n Dda i Blant ewch i:

https://www.caerdyddsynddaiblant.co.uk

#CDYDDsynDdaiBlant

 

Mae Canolfan Microsoft Llundain yn cynnal ymweliad gan bobl ifanc Caerdydd

Mae 10 o bobl ifanc o bob cwr o Gaerdydd wedi cael gwahoddiad i Ganolfan Microsoft yn Llundain.

Mae'r grŵp, rhwng 13-17 oed, wedi bod yn rhan o ddatblygu'r gwasanaethau ar-lein i Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd ac wedi cymryd rhan mewn gweithdai codio a rhaglennu a drefnwyd gan Addewid Caerdydd.

Yn ystod y profiad dysgodd y grŵp fwy am godio, Minecraft a'r math o swyddi o fewn y diwydiant.  Buont hefyd yn ymweld â thirnodau eiconig Llundain fel Palas Buckingham a Big Ben.

I nifer o'r grŵp, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ymweld â Llundain ac am un dyma'r tro cyntaf erioed iddyn nhw adael Caerdydd. 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd ewch i:

www.cardiffyouthservices.wales/cy/

Addewid Caerdydd yw menter Cyngor Caerdydd sy'n dwyn ynghyd y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector mewn partneriaeth, ag ysgolion a darparwyr addysg, er mwyn cysylltu plant a phobl ifanc â'r ystod helaeth o gyfleoedd sydd ar gael ym myd addysg, hyfforddiant a byd gwaith. Am ragor o wybodaeth ewch i:

www.addewidcaerdydd.co.uk

 

Ydych chi'n cefnogi perthynas neu ffrind i fyw yn dda yn y gymuned?

Ydych chi'n cefnogi perthynas neu ffrind i fyw yn dda yn y gymuned?  Ydych chi'n ansicr a ydych chi'n gallu cael unrhyw gefnogaeth ar gyfer eich rôl gofalu?  Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwella gwasanaethau?  Os felly, beth am ymuno â'r Grŵp Effaith Gofalwyr Di-dâl i helpu i sicrhau newid cadarnhaol? 

Mae Strategaeth Heneiddio'n Dda y Cyngor yn ymrwymo i weithio gyda gofalwyr di-dâl i wneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i roi llais iddyn nhw.  Felly, rydym yn lansio ymgyrch aelodaeth i sefydlu 'Grŵp Effaith Gofalwyr Di-dâl' i helpu i wella gwasanaethau a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r gofalwyr di-dâl a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. 

Dylai gofalwyr di-dâl a heriau gofalu gael eu cydnabod ym mhob agwedd ar fywyd. Dylai pawb yn ein cymdeithas werthfawrogi a pharchu gofalu, a dylai gofalwyr fod yn gallu gafael ar wybodaeth a'r cymorth sydd ei angen, ble a phryd bynnag y bydd ei angen arnyn nhw. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y Grŵp Effaith Gofalwyr Di-dâl neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: oed-gyfeillgar@caerdydd.gov.uk