Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 27 Medi 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf, sy'n cynnwys: Ffyrdd fydd wedi cau ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd dydd Sul, 2 Hydref; ceisiadau am leoedd ysgol uwchradd ar gyfer 2023 ar agor nawr; and lansio cynllun Gwirfoddolwyr Sy'n Deall Dementia.

 

Ffyrdd fydd wedi cau ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd ar 2 Hydref

Wrth i Hanner Marathon Caerdydd gael ei gynnal Ddydd Sul 2 Hydref, mae disgwyl i'r ddinas fod yn eithriadol o brysur, felly gofynnir i drigolion ac ymwelwyr gynllunio ymlaen llaw a gadael digon o amser ar gyfer eu taith.

Ddydd Mercher 28 Medi, bydd y ffyrdd canlynol wedi cau yn y Ganolfan Ddinesig er mwyn gosod a chlirio pentref y digwyddiad.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29944.html

 

Ceisiadau am leoedd ysgol uwchradd ar gyfer 2023 ar agor nawr

Bydd ceisiadau am leoedd ysgol uwchradd i ddechrau ym mis Medi 2023 ar agor nawr ac mae teuluoedd yn cael eu hatgoffa y gall darparu pum dewis gynyddu'r siawns o gael lle yn un o'r ysgolion maen nhw'n eu ffafrio.

Mae hwn yn un o'r 7 o gynghorion gan Dîm Derbyn Cyngor Caerdydd, sy'n ceisio helpu teuluoedd sy'n gwneud cais am le mewn ysgol yng Nghaerdydd.  Mae cyngor ac arweiniad syml, gam wrth gam, ar gael ar-lein a thrwy animeiddiad wedi'i anelu at blant a theuluoedd, gan helpu i esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio a phwysigrwydd defnyddio'r pum dewis sydd ar gael. 

Mae hefyd yn cwmpasu pethau megis:

  • Pwysigrwydd gwneud cais yn brydlon, erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer gwneud cais
  • Manteision ystyried yr holl ysgolion yn yr ardal y mae'r plentyn yn byw ynddi trwy edrych ar eu gwefannau a darllen eu hadroddiadau Estyn 
  • Gwneud yn siŵr bod y ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth hanfodol fel a oes gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol neu unrhyw anghenion dysgu, meddygol neu gymdeithasol ychwanegol

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Nod yr ymgyrch hon yw gwneud y broses mor deg a syml â phosibl, fel bod gan bob teulu yng Nghaerdydd y wybodaeth, y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth i sicrhau nad ydynt dan anfantais wrth wneud cais am le mewn ysgol. 

"Mae cyfres o fentrau wedi eu datblygu i hyrwyddo system decach o ddyrannu lleoedd ysgol yng Nghaerdydd gan gynnwys ein hymgyrch derbyn 7 o gynghorion sy'n rhoi arweiniad a chefnogaeth i deuluoedd, gan wneud y broses dderbyn yn syml a thryloyw fel bod gan bawb yr un siawns o gael lle yn un o'r ysgolion maen nhw'n eu ffafrio."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29935.html

 

Lansio cynllun Gwirfoddolwyr Sy'n Deall Dementia

Mae cynllun newydd i annog pobl i roi eu hamser i helpu Caerdydd ar ei thaith i ddod yn ddinas sy'n deall dementia wedi ei lansio heddiw ar Ddiwrnod Clefyd Alzheimer y Byd.

Mae Caerdydd sy'n Deall Dementia, mudiad partneriaeth yn y ddinas sy'n cynnwys y Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chymdeithas Alzheimer's Cymru - sy'n annog a chefnogi sefydliadau, busnesau lleol a grwpiau cymunedol i wneud newidiadau bychain er mwyn helpu i roi gwell cefnogaeth i bobl sy'n byw â dementia a'u teuluoedd - yn galw ar unigolion i fod yn Gennad Gwirfoddol sy'n Deall Dementia.

Bydd gwirfoddolwyr yn cefnogi siopau, busnesau a sefydliadau lleol ledled y ddinas i godi ymwybyddiaeth o sut y gallant ddeall dementia yn well er mwyn gwella profiad pobl sy'n byw gyda dementia sy'n defnyddio'u gwasanaethau.

Gydag amcangyfrif y bydd nifer y bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghaerdydd yn cynyddu 30.1% erbyn 2030 a 41.1% ar gyfer dementia mwy dwys, y cynllun yw'r fenter ddiweddaraf gan Gaerdydd sy'n Deall Dementia i sicrhau bod pobl â dementia yn gallu byw bywydau gwell, mwy bodlon, gan barhau'n actif ac yn rhan o'u cymuned, ac sy'n cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu Cymunedau sy'n Deall Dementia ledled Cymru.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29887.html