Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 24 Mawrth 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Gorchymyn i berchnogion bwyty dalu £10,000 am dorri rheolau iechyd a diogelwch; Yr Arglwydd Faer i groesawu yr HMS Cambria ar gyfer Seremoni Rhyddid Caerdydd; Gŵyl Llên Plant yn dychwelyd; a cynlluniau ar gyfer ardal chwarae Drovers Way.

 

Gorchymyn i berchnogion bwyty dalu £10,000 am dorri rheolau iechyd a diogelwch

Mae tad a merch wedi eu gorchymyn i dalu £10,000 am gyfres o droseddau iechyd a diogelwch - gan gynnwys pla o lygod mawr - ym mwyty Lilo Grill ar Heol y Plwca, Caerdydd.

Cafodd y troseddau eu disgrifio fel 'yr achos gwaethaf o esgeulustod mewn bwyty ry'n ni wedi dod ar ei draws mewn 15 mlynedd' gan arolygwyr iechyd a diogelwch.

Roedd Mr Sabz Ali Khan, 77, a Miss Sabrina Khan, 41, yn cynrychioli eu hunain yn y llys. Cawsanteu canfod yn euog ar 21 Chwefror,2023,o 18 trosedd wedi achos yn Llys y Goron Casnewydd. Cafodd y ddau ddiffynnydd eu dedfrydu heddiw am y troseddau hyn (23 Mawrth 2023).

Gweithredwr Busnes Bwyd cyfreithiol Lilo Grill yw 'Nightcover Limited' a Sabrina Khan yw unig gyfarwyddwr y busnes.  Gorchymynwyd Nightcover Ltd hefyd i dalu £18,500. Roedd ei thad Sabz Khan yn rheoli gweithrediadau'r bwyty o ddydd i ddydd.

Dwedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Rwy' wedi cael gwybod gan y swyddog achos mai dyma'r achos gwaethaf o esgeulustod mewn bwyty yr ydym wedi dod ar ei draws yn ystod y 15 mlynedd diwethaf. Nid yn unig roedd cyflwr yr eiddo yn warth llwyr a beryglodd eu cwsmeriaid, ond roedd y rheolwr hefyd yn hynod gyndyn ei gymwynas ac yn llesteiriol iawn gydol yr ymchwiliad. I goroni'r cyfan, mae'r ddadl a ddefnyddiodd yn ei amddiffyniad fod y llygod mawr yn y bwyty yno oherwydd agosatrwydd myfyrwyr oedd yn byw yn yr ardal, yn gwbl chwerthinllyd.

"Os ydych yn berchen ar neu'n rhedeg busnes bwyd, mae gennych gyfrifoldebau a nodir yn y gyfraith.  Os nad ydych yn dilyn yr arferion cywir ac yn caniatáu i'ch busnes fynd i adfeiliad, rydych yn rhoi eich cwsmeriaid mewn perygl o ddioddef afiechyd a haint."

Darllenwch fwy yma

 

Yr Arglwydd Faer i groesawu yr HMS Cambria ar gyfer Seremoni Rhyddid Caerdydd

Gorymdaith Rhyddid Caerdydd HMS Cambria - Dydd Sadwrn 25 Mawrth 2023

Bydd HMS Cambria, cartref y llynges frenhinol ar lannau Cymru, yn arfer eu Rhyddid i Ddinas Caerdydd yfory (ddydd Sadwrn 25 Mawrth 2023).

Bydd seremoni Rhyddid Caerdydd yn cael ei chynnal yn Neuadd y Ddinas ym Mharc Cathays, gyda gorymdaith i ddilyn drwy Ganol Dinas Caerdydd o 11am.

Dywedodd Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey: "Mae'n anrhydedd i mi fod yn rhan o'r dathliad ac i gydnabod y gwasanaeth eithriadol, yr ymroddiad a'r ymrwymiad i ddyletswydd ar y dynion a'r menywod sy'n gwasanaethu fel y Cwmni Llongau ar Long Cambria ei Fawrhydi.

"Wrth roi Rhyddid y Ddinas i HMS Cambria, rydym yn cydnabod ei hanes hir a nodedig fel cartref y Llynges Frenhinol yng Nghymru, a'i rôl ganolog yn hyfforddi a defnyddio'r Llynges Frenhinol i gefnogi'r Llynges Frenhinol ar y môr a'r lan, gartref a thramor.

"Mae'r digwyddiad yn atgyfnerthu'r cwlwm morol cryf rhwng prifddinas Cymru a'r Llynges Frenhinol ac yn dathlu rhagoriaeth a gwasanaethau blaenllaw HMS Cambria i Ddinas a Sir Caerdydd."

Yr Orymdaith fydd y tro cyntaf i HMS Cambria orymdeithio trwy Gaerdydd ers iddi  gael ei ffurfio ym 1947, pan roedd wedi'i lleoli mewn hen ffowndri ar ochr orllewinol y Doc Dwyreiniol.

Bydd yr Orymdaith Ryddid yn cynnwys morwyr o HMS Cambria, Band y Môr-filwyr Brenhinol o CTCRM, Didoliad Caerdydd Milwyr Wrth Gefn y Llynges Frenhinol, y Cadetiaid Môr, myfyrwyr URNU a Chyn-filwyr y Llynges Frenhinol.

Yn y blynyddoedd ers ei sefydlu, mae HMS Cambria wedi chwarae rhan ganolog yn hyfforddi a threfnu Milwyr Wrth Gefn y Llynges Frenhinol, ar y môr ac ar y lan. Mae wedi gweithredu mewn sawl safle ar draws de Cymru, tan 2020, pan symudodd i gyfleuster pwrpasol gwerth £11m yng nghanol Bae Caerdydd.

 

Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dychwelyd

Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dychwelyd wedi seibiant o ddwy flynedd, gydag amrywiaeth o gyflwyniadau gan rai o awduron plant mwyaf poblogaidd y DU.

Bydd awdurThe Beast and the Bethany -Jack Meggitt-Phillips, darlunydd a chrëwr arobryn y gyfresMini Rabbit -John Bond, hanesion môr-ladron y ddeunawfed ganrif gan Iszi Lawrence, a dathliad o 30 mlynedd oHorrible Historiesi gydyn rhan o'r ŵyl.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd wedi bod yn helpu i ysbrydoli cariad at ddarllen ymhlith plant lleol ers blynyddoedd bellach ac mae'n wych ei chael yn ôl.  Mae yna awduron gwych wedi'u trefnu ar gyfer eleni, yn barod i greu cenhedlaeth hollol newydd o ddarllenwyr gydol oes."

Ymhlith y digwyddiadau eraill sydd wedi'u cadarnhau ar hyn o bryd ar gyfer yr ŵyl mae:

 

  • Go Bookwandering gydag Anna James - bydd awdur y gyfres Pages & Co yn sôn am ei chariad at lyfrau a'r llefydd ledled y byd sydd wedi siapio'i straeon, gan gynnwys yr antur Pages & Co diweddaraf, The Treehouse Library.
  • Dewch i gwrdd â'r Llychlynwyr GWAETHAF yn y pentref! Paratowch am anarchiaeth, drygioni ac anhrefn llwyr wrth i Francesca Simon a Steve May gyflwyno'r drydedd ran yn eu cyfres newydd ddrygionus, Two Terrible Vikings:
  • Ymunwch â'r darlunydd Huw Aaron wrth iddo rannu awgrymiadau a thriciau ar gyfer creu eich bydoedd hudolus, angenfilod rhyfedd ac anturiaethau chwedlonol eich hun wrth i ni ofyn 'Ble mae Boc?'
  • Pan mae Blanksy'r gath yn darganfod talent ar gyfer paentio murluniau mae'n ei defnyddio i dynnu torfeydd mwy a mwy i helpu ei ffrind Pete y bysgiwr i ddod yn gyfoethog. Ond a fydd arian wir yn gwneud Pete yn hapus?'  Dysgwch fwy gyda'r awdur Gavin Puckett a Blanksy the Street Cat.
  • Dewch i ddarganfod rhai ffeithiau anhygoel am anifeiliaid a gweld sut rydych chi'n cymharu â rhai o greaduriaid a deinosoriaid mwyaf rhyfeddol y byd ar y daith hon drwy gyfres Lifesize yr awdur a'r darlunydd Sophy Henn.

 

Bydd y rhaglen lawn ar gyfer yr ŵyl, a gynhelir yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ac yn yr Is-grofft yng Nghastell Caerdydd ddydd Sadwrn Ebrill 22 a dydd Sul Ebrill 23, yn cael ei datgelu pan fydd tocynnau ar werth.

Darllenwch fwy yma

 

Datgelu Cynlluniau ar gyfer Ardal Chwarae Drovers Way

Bydd ardal chwarae Drovers Way yn Radur yn cael ei hadnewyddu gyda thema dŵr sy'n addas i blant bach, plant iau, a chwarae hygyrch.

Bydd yr ardal chwarae ar ffurf 'crychdonnau a phyllau dŵr' ac yn cynnwys cynllun newydd gydag arwyneb diogelwch rwber, cerrig palmant, a seddi newydd. Bydd offer chwarae newydd hefyd yn cael eu gosod, gan gynnwys siglenni, mat bownsio, carwsél hygyrch, troellwyr, aml-uned gyda sleid, teganau sbring, ac elfennau chwarae dychmygus.

Mae contractwr wedi'i benodi a bydd y gwaith gwella, sy'n rhan o raglen fuddsoddi barhaus mewn parciau a mannau chwarae ar draws Caerdydd, yn dechrau unwaith y bydd gwaith draenio yn y parc wedi ei gwblhau.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae angen i blant chwarae, mae'n hanfodol i'w datblygiad, ac mae cael mynediad i ardal chwarae leol o ansawdd da yn gallu gwneud cymaint o wahaniaeth i deuluoedd. Mae'r buddsoddiad rydyn ni'n ei wneud yn ardaloedd chwarae Caerdydd mor bwysig ac rwy'n falch iawn ein bod bellach yn gallu datgelu ein cynlluniau i roi ail fywyd i ardal chwarae Drovers Way."