Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 18 Gorffennaf 2023

Dyma ein newyddion diweddaraf, sy'n cynnwys: Bydd Ysgol y Court yn cael ei hailenwi wrth i gynlluniau i ddatblygu'r ysgol gael eu cymeradwyo; Camau olaf at ddyfodol cynaliadwy i Neuadd Dewi Sant; A yw eich sefydliad yn gymwys i gael cyllid o dan y Gronfa Codi'r Gwastad ddiweddaraf?

 

Bydd Ysgol y Court yn cael ei hailenwi wrth i gynlluniau i ddatblygu'r ysgol gael eu cymeradwyo

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer adeilad newydd i Ysgol y Court. Mae penderfyniad i ailenwi'r ysgol yn 'Ysgol Cynefin' hefyd wedi'i gytuno.

Mae'r penderfyniad cynllunio unfrydol yn nodi'r cam nesaf yn y datblygiad i gynyddu capasiti'r ysgol drwy ei hadleoli a'i hailadeiladu ar draws dau safle. Bydd un ohonynt wedi ei leoli ar dir i'r de o Ysgol Gynradd y Tyllgoed ar Wellwright Road, a bydd y llall i'r de o Ysgol Gynradd Pen y Bryn ar Dunster Road yn Llanrhymni.   Bydd hyn yn defnyddio tir ar safle presennol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, ar ôl iddi gael ei symud i lety newydd ar ddatblygiad Sant Edern.

Dewiswyd enw newydd yr ysgol, Ysgol Cynefin, gan yr ysgol a rhanddeiliaid allweddol i gyfleu'r berthynas rhwng pobl a'r byd naturiol, a sut y gall cysylltu pobl a'r amgylchedd danio ymdeimlad o hunaniaeth a lles.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae cymeradwyaeth gynllunio a'r newyddion am newid enw yn nodi pennod newydd gyffrous i'r ysgol hon. Trwy adleoli ac ailadeiladu Ysgol Cynefin dros ddau safle, gall gwelliannau gael eu gwneud i safon y cyfleusterau tra'n cynnig mwy o leoedd i blant sydd angen darpariaeth arbenigol.

"Mae enw'r ysgol newydd yn cyd-fynd â gweledigaeth ac ethos yr ysgol, wrth iddynt geisio cefnogi disgyblion sy'n wynebu heriau o ran iechyd a lles emosiynol.

"Mae Caerdydd wrthi'n cychwyn ar ein trawsnewidiad mwyaf radical o ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ers blynyddoedd. Mae'r Ysgol Cynefin newydd yn rhan o'r cynlluniau arwyddocaol sydd eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â'r diffyg yn y lleoedd sydd eu hangen ar draws y ddinas."

Darllenwch fwy yma

 

Camau olaf at ddyfodol cynaliadwy i Neuadd Dewi Sant

Mae dyfodol cynaliadwy i Neuadd Dewi Sant gam yn nes gyda phenderfyniad a wnaed y dylai Cyngor Caerdydd ddiogelu'r lleoliad eiconig trwy fynd i brydles 45 mlynedd gyda'r Academy Music group (AMG).

Byddai'r brydles yn gweld AMG yn derbyn cyfrifoldeb llawn am yr adeilad, gan ei weithredu fel menter fasnachol annibynnol a dileu'r angen am unrhyw gyfraniad ariannol gan y Cyngor tuag at ei gynnal, ei ddiweddaru na'i weithredu. 

Yn rhan o'r cytundeb hefyd byddai AMG yn ymrwymo i ddyfodol hirdymor i'r Neuadd, gan neilltuo o leiaf 60 diwrnod yn y calendr prif ddigwyddiadau ar gyfer digwyddiadau clasurol allweddol ac 20 diwrnod ychwanegol y tu allan i'r dyddiadau brig, gydag ymrwymiad pellach o 10 diwrnod ychwanegol bob yn ail flwyddyn ar gyfer digwyddiad BBC Canwr y Byd Caerdydd.  Ochr yn ochr â hyn, bydd AMG hefyd yn ymrwymo i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda rhanddeiliaid clasurol allweddol i ddatblygu rhaglen glasurol a chymunedol gorau posibl, yn ogystal ag ymrwymo i gynnal offerynnau cerddorol allweddol y lleoliad, gan gynnwys pianos Steinway ac organ Neuadd Dewi Sant.  Bydd gweithwyr Cyngor sy'n gweithio yn Neuadd Dewi Sant ar hyn o bryd yn trosglwyddo i AMG ar delerau presennol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:   "Byddai ymrwymo i gytundeb prydles gydag AMG yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, yn amddiffyn ei darpariaeth gerddoriaeth glasurol annwyl ac yn sicrhau ei bod yn parhau i chwarae rhan flaenllaw yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru."

Wedi'i sefydlu ym 1982, mae Neuadd Dewi Sant á chapasiti o 2,000 wedi cynnal ystod amrywiol o ddigwyddiadau a pherfformiadau dros y blynyddoedd, o berfformiadau cerddorfaol symffonig i gyngherddau roc a phop, sioeau comedi a pherfformiadau dawns, gan fod yn llwyfan ar gyfer profiadau artistig o'r radd flaenaf. Ar ben hynny, mae ei safon acwstig yn sgil dylunio ar y cyd â'r acwstegwr enwog Sandy Brown, wedi ennill enw da iddo fel un o ddeg neuadd gyngerdd orau'r byd ac un o brif leoliadau cerddoriaeth glasurol y DU.

Fodd bynnag, mae Neuadd Dewi Sant wedi bod yn wynebu heriau sylweddol.  Mae diffyg cyllid cenedlaethol wedi gadael y Cyngor gyda'r cyfrifoldeb o gynnal yr adeilad a chefnogi'r rhaglen glasurol. 

Darllenwch fwy yma

 

A yw eich sefydliad yn gymwys i gael cyllid o dan y Gronfa Codi'r Gwastad ddiweddaraf?

Mae cyllid o rhwng £10,000 a £250,000 ar gael ar gyfer prosiectau a fydd o fudd i gymunedau lleol ledled Caerdydd.

Mae'r cyllid ar gael i amrywiaeth o sefydliadau sy'n gallu dangos eu bod yn gallu cyflawni prosiectau sydd o fudd i gymunedau lleol, yn creu balchder mewn lle, yn sicrhau manteision economaidd, ac sy'n unol â'r meini prawf gofynnol a chynllun cryfach, tecach, gwyrddach Cyngor Caerdydd. Y sefydliadau cymwys yw:

 

  • Awdurdodau Lleol a chyrff cyhoeddus eraill
  • Cwmnïau sector preifat sy'n cyflawni prosiectau
  • Sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector
  • Colegau a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch.

Mae'r holl wybodaeth am y cyllid grant a'r meini prawf cymhwysedd ar gael ar wefan y cyngor. Rhaid i bob cynllun sy'n derbyn cyllid gael eu cyflawni rhwng Hydref 2023 a Mawrth 2025 a rhaid cyflwyno pob cais i'r Cyngor erbyn hanner dydd ar 18 Awst 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Mae'r Cyngor wedi nodi'n glir ein blaenoriaethau yn y polisi Cryfach, Tecach, Gwyrddach sy'n darparu'r glasbrint a gweledigaeth ar sut y bydd y ddinas yn datblygu dros y tair blynedd nesaf a thu hwnt.

"Mae'r cynllun yn nodi 7 amcan lles i gyflawni hyn, sy'n gwneud Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu a thyfu'n hŷn; cefnogi pobl allan o dlodi; grymuso cymunedau; lleihau ein hôl troed carbon drwy Caerdydd Un Blaned a moderneiddio ac integreiddio ein gwasanaethau cyhoeddus.

"Bydd y ceisiadau a dderbynnir yn cael eu barnu yn erbyn amrywiaeth o bolisïau gan gynnwys y Polisi Cryfach, Tecach, Gwyrddach a Chynllun Lles Caerdydd, yn ogystal â'r meini prawf cymhwysedd sy'n cael eu gosod gan Lywodraeth y DU sydd i'w gweld ar wefan y Cyngor. Rydym yn gobeithio y bydd cynifer o sefydliadau cymwys yn gwneud cais, fel y gallwn gyfeirio'r cyllid grant hwn i lle y mae ei angen fwyaf fel y gallwn wneud gwahaniaeth i bobl leol a bod o fudd i gymunedau lleol."

Darllenwch fwy yma