Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 01 Awst 2023

Dyma ein newyddion diweddaraf, sy'n cynnwys: Cyngor teithio ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Lloegr ar 5 Awst yng Nghaerdydd; Byw'n annibynnol i fodloni anghenion a dyheadau pobl hŷn; Dechrau Disglair i Ddyfodol Cadarnhaol; Geiriau o anogaeth a chyngor i ddosbarth 2023.

 

Cyngor teithio ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Lloegr ar 5 Awst yng Nghaerdydd

Bydd Cymru yn herio Lloegr ddydd Sadwrn 5 Awst yn Stadiwm Principality.

Gyda'r gic gyntaf am 5.30pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 1.30pm tan 9.30pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn i'r stadiwm yn ddiogel.

Bydd Stryd y Castell yn parhau ar gau tan hanner nos fel bod modd i'r rhai sy'n gadael cyngerdd Tom Jones yng Nghastell Caerdydd adael yn ddiogel.

Mae disgwyl y bydd traffordd yr M4 a'r rhwydwaith cefnffyrdd cyfagos yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn Neuadd y Sir, Bae Caerdydd. Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar  Wefan Traffig Cymru,  neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Bydd y gatiau'n agor am 3.15om, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar.   Sylwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn  principalitystadium.cymru,  yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Byw'n annibynnol i fodloni anghenion a dyheadau pobl hŷn

Bydd gwaith adeiladu yn dechrau ar ddatblygiad dau Gynllun Byw yn y Gymuned newydd fydd yn darparu llety hyblyg a chynaliadwy i breswylwyr hŷn er mwyn helpu i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain am hirach.

Bydd cyfanswm o 86 o fflatiau cyngor newydd, sy'n rhan o raglen datblygu tai uchelgeisiol y Cyngor, yn cael eu darparu ar draws y ddau gynllun yn Butetown ac ar Heol Lecwydd. Yn ogystal â hybu'r cyflenwad o dai cyngor mawr eu hangen yn y ddinas, bydd y ddau gynllun hefyd yn darparu ystod o gyfleusterau i'r gymuned ar gyfer yr ardaloedd lleol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Rwy'n falch iawn 0 weld y ddau gynllun hyn, a fydd yn darparu cartrefi newydd mwy cynaliadwy a fforddiadwy o ansawdd uchel, yn dechrau ar y safle. Maent mewn lleoliadau gwych i bobl hŷn gadw mewn cysylltiad â'u cymunedau, mewn ardaloedd lle mae angen mwy o dai cyngor o ansawdd da arnom.

"Mae'r ddau ddatblygiad yn rhan o raglen fuddsoddi gwerth £150m, yn adeiladu cartrefi cyngor newydd i bobl hŷn ledled y ddinas a rhan o'n cynlluniau ehangach i ddarparu 2,700 o dai cyngor newydd dros y blynyddoedd nesaf. Byddwn yn darparu 600 o fflatiau newydd ar draws 10 Cynllun Byw yn y Gymuned ar gyfer pobl dros 55 oed a bydd yr un cyntaf o'r cynlluniau newydd sbon hyn, Addison House ar safle Llwyn Aethnen yn Nhredelerch, yn croesawu trigolion yn ddiweddarach eleni. 

"Fel aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar a chydag uchelgais i Gaerdydd fod yn lle gwych i heneiddio, mae'n bwysig bod y cartrefi newydd rydym yn eu hadeiladu yn diwallu anghenion preswylwyr hŷn pan fyddant yn symud i mewn ond hefyd i barhau i wneud hyn wrth i'w hanghenion newid wrth iddynt dyfu'n hŷn.

"Gyda chynllun Stryd Bute a Heol Lecwydd, bydd gan breswylwyr lety o ansawdd uchel a mynediad i gyfleusterau o'r radd flaenaf i helpu i gynnal eu hannibyniaeth, meithrin ymdeimlad o gymuned ac annog rhyngweithio cymdeithasol."

Darllenwch fwy yma

 

Dechrau Disglair i Ddyfodol Cadarnhaol

Mae cyflawniadau grŵp o bobl ifanc ar raglen hyfforddeiaeth y cyngor wedi cael eu dathlu mewn digwyddiad cyflwyno arbennig yr wythnos hon.

Daeth tua 45 o bobl ifanc i'r digwyddiad yn Neuadd y Sir a oedd yn cydnabod eu llwyddiant ar gynllun Dechrau Disglair - rhaglen sy'n darparu cyfleoedd hyfforddi a lleoliadau gwaith i Blant sy'n Derbyn Gofal a phobl ifanc sy'n gadael gofal ar draws ystod o fusnesau a sefydliadau yng Nghaerdydd, gan gynnwys amrywiaeth o rolau yn yr awdurdod lleol.

Dywedodd un hyfforddai: "Ers dechrau prosiect Dechrau Disglair rwy'n teimlo ei fod wedi newid fy mywyd trwy helpu i'w gwneud hi'n haws dod o hyd i swydd neu i allu dod o hyd i rywle i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd rydw i eisiau ei gwneud. Mae hefyd wedi fy helpu drwy roi rhywbeth i fi ei wneud er mwyn i fi allu mynd allan o'r tŷ yn fwy."

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Plant): "Fel rhiant corfforaethol i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yn y ddinas, cyfrifoldeb y Cyngor yw sicrhau eu bod nhw'n cael y cyfle i ffynnu. Rydym wedi gwneud addewid i sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr hyfforddiant cywir a theimlo'n barod ar gyfer y dyfodol, a dyna'n union mae'r cynllun Dechrau Disglair yn ei wneud - cefnogi pobl ifanc gyda chyfleoedd i brofi'r byd gwaith a darparu unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt i gael profiadau cadarnhaol yn eu hyfforddeiaethau."

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:  "Llongyfarchiadau mawr i'r holl bobl ifanc ar gynllun Dechrau Disglair. Roedd yn wych cwrdd â nhw, i ddathlu eu cyflawniadau a chlywed eu profiadau o'u lleoliadau gwaith.

"Rwy'n siŵr, dros y misoedd diwethaf, fod cymorth a chyngor ein Gwasanaethau Cyngor i Mewn i Waith, sy'n cefnogi cymaint o bobl i gael gwaith, wedi bod yn amhrisiadwy iddyn nhw. Rwy'n dymuno'r gorau i bawb ar gyfer eu dyfodol."

Darllenwch fwy yma

 

Mae cyflogwyr o bob rhan o ddinas Caerdydd a thu hwnt wedi cynnig geiriau o anogaeth a chyngor i ddosbarth 2023

Mae cyflogwyr o bob rhan o ddinas Caerdydd a thu hwnt wedi cynnig geiriau o anogaeth a chyngor i ddosbarth 2023, wrth iddynt agosáu at eu diwrnodau canlyniadau arholiadau Safon Uwch a TGAU ym mis Awst.

Wedi'i ddwyn ynghyd gan Addewid Caerdydd, mae arweinwyr y diwydiant o amrywiaeth o sectorau gan gynnwys adeiladu, peirianneg, iechyd a'r celfyddydau, wedi ysgrifennu negeseuon o gefnogaeth i bobl ifanc a fydd yn penderfynu ar eu camau nesaf, gyda'r nod y bydd eu profiadau yn ysbrydoli, yn tawelu meddwl ac yn agor eu llygaid i'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael iddynt, boed hynny mewn addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli.

Beth ddwedon nhw?  Darllenwch fwy yma