Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 11 Awst 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Agor Parc Mackenzie - ychwanegiad newydd i Barc Cathays, a enwyd ar ôl y fenyw gyntaf i fod yn Athro yng Nghymru, Millicent Mackenzie
  • Mae fflatiau newydd yn darparu cartrefi dros dro i deuluoedd - mae 28 o fflatiau bron â chael eu cwblhau ym Mhentwyn
  • Ymgynghoriad Gwasanaethau Digidol - rhowch eich barn ar eich profiad o gysylltu â Chyngor Caerdydd ar-lein

 

Parc newydd yn agor i anrhydeddu athro prifysgol benywaidd cyntaf Cymru

Mae parc newydd, a enwyd er anrhydedd i athro prifysgol benywaidd cyntaf Cymru, Millicent Mackenzie, wedi agor yn swyddogol i'r cyhoedd.

Mae'r parc y tu ôl i Amgueddfa Cymru Caerdydd, rhwng Plas y Parc a Rhodfa'r Amgueddfa, yn agos at yr hyn sydd erbyn hyn yn Brifysgol Caerdydd - ond a fu ar un adeg yn Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, lle bu'r Athro Mackenzie yn athro Addysg rhwng 1910-1915.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Rydyn ni wedi cyflawni llawer ers y dyddiau pan fu rhaid i Millicent Mackenzie gael caniatâd arbennig i barhau i weithio ar ôl iddi briodi, ond mae cyflawniadau menywod yn dal i gael eu tangynrychioli'n aruthrol yn ein gofodau cyhoeddus. Mae enwi'r parc hwn ar ôl yr Athro Mackenzie yn gam arall tuag at unioni'r anghydbwysedd hanesyddol hwnnw."

Mae'r man gwyrdd sydd wedi cael bywyd o'r newydd, ac a fu gynt yn ardal segur o'r Ganolfan Ddinesig, yn cynnwys:

  • llwybrau troed carreg naturiol newydd
  • mynedfeydd newydd a seddi blociau cerrig
  • goleuadau
  • llwybr ardal chwarae newydd ar thema natur gyda chorryn cyfeillgar a gwe
  • gerddi glaw
  • cerfluniau
  • seddi cerrig crynion
  • arwyddion mynediad a byrddau gwybodaeth
  • Coed, lleiniau dolydd a phlanhigion newydd yn ychwanegol i'r coetir oedd yno eisoes.

Darllenwch fwy yma

 

Fflatiau newydd i ddarparu cartrefi dros dro i deuluoedd

Mae bloc newydd o 28 o fflatiau a fydd yn helpu Cyngor Caerdydd i ehangu ei lety dros dro i deuluoedd yn y ddinas bron â chael ei gwblhau ar safle hen archfarchnad Morrisons ym Mhentwyn.

Mae'r cartrefi newydd, ar Rodfa Pentwyn, yn cynnwys 20 o fflatiau dwy ystafell wely ac wyth fflat un ystafell wely mewn adeilad tri llawr. Mae'r cartrefi yn cael eu hadeiladu gan Willis Construction ar gyfer Linc Cymru, landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghaerdydd, gyda chymorth ariannol gan raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Yn gynharach eleni, cytunodd y Cyngor i brydlesu'r bloc gan y gymdeithas a'u defnyddio i gartrefu teuluoedd sydd wedi profi digartrefedd ac a oedd yn cael eu cartrefu mewn llety dros dro, fel gwestai a llety gwely a brecwast o amgylch y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau y Cyngor: "Rydym wedi gweithio gyda Linc Cymru o'r blaen ar gynllun byw â chymorth yn Llanisien ac yn gwybod am y gwaith rhagorol maen nhw'n ei wneud.

"Fel cyngor, rydym wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghaerdydd a bydd y datblygiad newydd hwn yn rhoi llety diogel i rai o deuluoedd mwyaf agored i niwed Caerdydd nes y pennu cartrefi parhaol priodol. Fel cyngor, byddwn yn darparu cymorth yn ôl yr angen ar y safle a byddwn yn cwrdd â phreswylwyr yn rheolaidd."

Darllenwch fwy yma

 

Dweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau digidol y Cyngor

Diolch i'r chwyldro mewn cyfathrebu digidol a'r lluaws o ffonau clyfar a dyfeisiau llechen, ni fu erioed yn haws cadw mewn cysylltiad â'n gilydd.

Ac, fel pob awdurdod lleol ledled y gwledydd hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi croesawu'r dechnoleg i alluogi preswylwyr i gael gafael ar wasanaethau a chysylltu â'r cyngor ar-lein ar gyffyrddiad botwm neu ddau.

Nawr, wrth i fwy a mwy o bobl ryngweithio'n ddigidol gyda'r cyngor - a mwy o wasanaethau yn dod yn hygyrch - mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i glywed gan y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau ar-lein am eu profiadau ac yn eu hannog i gymryd rhan mewn arolwg ledled y ddinas.

Dwedodd y Cynghorydd Chris Weaver, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, fod gwasanaethau digidol yr awdurdod eisoes wedi trawsnewid y ffordd y mae'r Cyngor yn rhyngweithio â'r cyhoedd.

"Rydym am i'n gwasanaethau digidol ddod hyd yn oed yn fwy hygyrch a chynnig y gwasanaethau hynny sydd bwysicaf i'n trigolion. Rydym yn gwybod y bydd angen i rai preswylwyr allu cysylltu â'r Cyngor yn bersonol neu dros y ffôn, ond trwy ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ddefnyddio ein sianeli digidol, gallwn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau mewn ffyrdd sy'n addas i bawb."

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor yma

Darllenwch fwy yma