Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 15 Awst 2023

Dyma'r newyddion diweddaraf, sy'n cynnwys:

  • Cyngor i deithio i Gymru vs De Affrica - gan gynnwys gwybodaeth trefnau, ffyrdd a pharcio cyn gêm ddydd Sadwrn yn Stadiwm Principality.
  • Ail-agor Parc Maltings - gwnaed gwaith uwchraddio a gwella sylweddol i'r parc yn Sblot.
  • Yr Arglwydd Faer yn ymweld â EF Caerdydd - bu'r Cyng. Molik i ddociau Glasgow lle mae'r EF Caerdydd diweddaraf yn cael ei adeiladu.

 

Cyngor teithio ar gyfer y gêm rhwng Cymru a De Affrica ar 19 Awst yng Nghaerdydd

Bydd Cymru yn herio De Affrica ddydd Sadwrn 19 Awst yn Stadiwm Principality.

Gyda'r gic gyntaf am 3.15pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 11.15am tan 7.15pm neu hyd nes yr ystyrir ei bod yn ddiogel eu hail-agor, i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn i'r stadiwm yn ddiogel.

Mae disgwyl y bydd traffordd yr M4 a'r rhwydwaith cefnffyrdd cyfagos yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn Neuadd y Sir, Bae Caerdydd. Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar  Wefan Traffig Cymru,  neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Bydd y gatiau'n agor am 1pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Sylwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn  principalitystadium.cymru,  yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Parc y Maltings yn ailagor i'r cyhoedd ar ôl ei uwchraddio

Mae Parc y Maltings yn Sblot wedi ailagor i'r cyhoedd yn dilyn ail-ddylunio ac uwchraddio helaeth.

Mae'r parc bellach yn cynnwys plaza mynedfa gylchol oddi ar Stryd Tyndall Ddwyreiniol a gwell cysylltiad palmantog ag Ysgol Glan Morfa. Mae arwyddion newydd, llwybrau troed newydd, seddi cerrig newydd, a biniau newydd hefyd wedi'u hymgorffori yn y dyluniad newydd.

Mae yno baneli yn cynnwys ffotograffau hanesyddol o'r Sblot a thros y safle, dros 30 o goed newydd, lleiniau dolydd, planhigion brodorol, a lawnt agored fawr sy'n addas ar gyfer digwyddiadau.

Ar ochr orllewinol y parc mae ardal chwarae naturiol newydd, Ardal Chwaraeon Amlddefnydd (AChA), a pharc sglefrio newydd wedi'u darparu, ar ôl iddynt brofi'n ddewisiadau poblogaidd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd cyn i'r dyluniad gael ei ddatblygu.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae'r gwaith uwchraddio hwn wedi adfywio'r parc i'r gymuned. Gyda chyfleusterau chwarae a sglefrio newydd ochr yn ochr â llawer o goed lled-aeddfed, llwyni, planhigion dolydd a lawntiau agored, mae bellach yn fan gwyrdd gwych i bawb ei fwynhau."

 

Yr Arglwydd Faer yn gwirio cynnydd diweddaraf HMS Cardiff

Fel porthladd hanesyddol, mae Caerdydd wedi bod â chysylltiadau arbennig â'r Llynges Frenhinol ers amser maith ac mae llongau mawr eu bri wedi cario enw'r ddinas ledled y byd ers dros 400 mlynedd.

Nawr mae'r pedwerydd HMS Cardiff wedi cymryd cam sylweddol tuag at ei chwblhau, wrth i griw o bwysigion o'r ddinas ei gwylio.

Ddiwedd mis Gorffennaf, derbyniodd yr Arglwydd Faer y Cynghorydd Bablin Molik, Morfudd Meredith, Arglwydd Raglaw De Morgannwg a'r Capten Anrhydeddus Raj Aggarwal, Conswl Anrhydeddus India yng Nghymru, wahoddiad gan BAE Systems ynghyd â'r Brigadydd Jock Fraser, Cadlywydd Rhanbarthol y Llynges dros Gymru, Gorllewin Lloegr ac Ynysoedd y Sianel, i ymweld â'r iard longau yn Glasgow i weld sut mae HMS Cardiff yn siapio.

Cwblhaodd gweithwyr yno y cam o asio dwy ran y llong ynghyd, cam allweddol yn y broses o'i hadeiladu. Nawr, bydd rhagor o waith strwythurol yn mynd rhagddo yn Govan cyn iddi gael ei rholio ymlaen ar i fad, yn barod i gael ei harnofio a'i throsglwyddo i Scotstoun i gwblhau'r gwaith arni. Yno, bydd yn ymuno â'i chwaer long, HMS Glasgow, sydd wrthi'n cael ei chwblhau.

Dwedodd y Cynghorydd Molik: "Roedd gan ein dinas gysylltiadau cryf a chyfeillgarwch parhaol gyda'r HMS Cardiff blaenorol ac rydym yn hynod falch y bydd un o genhedlaeth nesaf helwyr llongau tanfor y Llynges Frenhinol hefyd yn dwyn enw'r brifddinas.

"Rydym yn edrych ymlaen at gryfhau cysylltiadau Caerdydd gyda'r Llynges Frenhinol a'r HMS Cardiff newydd mewn blynyddoedd i ddod."

Darllenwch fwy yma