Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 18 Awst 2023

Dyma'r newyddion diweddaraf sy'n trafod:

  • Diwrnod canlyniadau Lefel A - Caerdydd yn rhagori ar gyfartaledd cenedlaethol Cymru
  • Arosiadau Ynys Echni - gweld y berl werdd hon eich hun yng nghanol Môr Hafren
  • Maethu Cymru Caerdydd - buddion maethu â'ch awdurdod lleol

 

Llongyfarchiadau gan Gyngor Caerdydd ar Ddiwrnod Canlyniadau Safon Uwch 2023

Mae dros 3,000 o ddisgyblion ledled Caerdydd wedi derbyn eu canlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol heddiw ac mae'r canlyniadau yn uwch na chyfartaledd Cymru.

Eleni yw'r ail flwyddyn i ddysgwyr gynnal arholiadau haf wedi'u marcio a'u graddio gan fyrddau arholi ers 2019. Mae CBAC wedi ystyried yr aflonyddwch y mae dysgwyr wedi'i brofi wrth benderfynu ffiniau graddau ac mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau dull cenedlaethol o ymdrin â chanlyniadau yn hytrach na phenodol i'r ysgol.

Yng Nghaerdydd, yn seiliedig ar ganlyniadau dros dro TAG CBAC a gyhoeddwyd heddiw, mae 42.1% o ganlyniadau Safon Uwch ar gyfer 2023 yn cael eu graddio A* i A, o'i gymharu â ffigur Cymru o 34%.

Mae canran y cofrestriadau Safon Uwch sy'n arwain at raddau A* - E yn 98.4%, o'i gymharu â ffigwr Cymru o 97.5%.

Ar gyfer ceisiadau a raddiwyd A* i C, ffigwr 2023 yw 85.1%, o'i gymharu â ffigur Cymru gyfan o 78.9%.

Y darlun cenedlaethol ar draws Cymru yw bod y canlyniadau yn disgyn yn fras hanner ffordd rhwng y rhai a ddyfarnwyd yn 2019 a 2022.  Mae hyn yn golygu, ar gyfer pob pwnc, fod canlyniadau ar lefel genedlaethol yn uwch nag yr oeddent yn 2019, ac yn is nag yr oeddent yn 2022 lle rhoddwyd mesurau ychwanegol ar waith. Nid yw'r canlyniadau yn debyg i'r blynyddoedd blaenorol.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd:  "Hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion a gasglodd eu canlyniadau heddiw.

"Yn yr ail flwyddyn y mae arholiadau ac asesiadau ffurfiol wedi dychwelyd, dylid cydnabod y garfan hon am y ffordd y maent wedi parhau i addasu yn ystod eu blynyddoedd diwethaf o addysg ysgol, gan ddangos gwytnwch a phenderfyniad er gwaethaf yr heriau a'r aflonyddwch y gallent fod wedi'u hwynebu ers dechrau'r pandemig.

"Er nad oes modd cymharu'n uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol, rwy'n falch o weld bod y perfformiad ar draws y ddinas eleni wedi parhau i godi a bod  canlyniadau yn uwch na chyfartaledd Cymru ar gyfer 2023. 

"Hoffwn ddymuno pob lwc i'n myfyrwyr wrth iddynt ddechrau pennod newydd o'u bywydau, p'un a ydyn nhw'n symud ymlaen i'r brifysgol, cyflogaeth neu hyfforddiant."

Mae cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill ar gael mewn un lle ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd sy'n ystyried eu camau nesaf cyn diwrnod canlyniadau'r arholiadau yr wythnos hon.

Darllenwch fwy yma

 

Darganfyddwch drosoch eich hun berl emrallt Môr Hafren

Bum milltir yn unig oddi ar arfordir Caerdydd, ceir  hafan naturiol sydd wedi bod â chysylltiad dynol ers dros 2,000 o flynyddoedd.

Ar ddiwrnod clir, mae Ynys Echni - perl fach emrallt ym Môr Hafren - yn ymddangos yn ddigon agos i'w chyffwrdd ac ers yr Oes Efydd mae wedi denu casgliad lliwgar o ymsefydlwyr, ffermwyr, arloeswyr, milwyr a gwyddonwyr, i gyd yn cael eu denu gan ei rhinweddau unigryw.

Mae ei statws presennol fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur Leol yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy deniadol i ymwelwyr, ac eto mae ei lleoliad anghysbell a'i llanw a thrai cyfnewidiol yn golygu y gall ymddangos allan o gyrraedd fforwyr modern.

Bellach, mae Cyngor Caerdydd - sy'n berchen ar yr ynys - yn gwneud y cadarnle deniadol hwn yn  hygyrch i bawb drwy gyfres o seibiannau canol wythnos ar thema sy'n cynnwys cyrsiau lles ac ysgrifennu creadigol yn ogystal â phrofiadau cadwraeth.

Adfer, Ymlacio ac Ailgysylltu (1-3 Medi)

Ymlaciwch i ffwrdd o fywyd bob dydd ac ailgysylltu â natur gyda Kerry Sanson, iachäwr, arweinydd ffitrwydd grŵp a hyfforddwr personol. Mae'r encil yn cynnig cyfleoedd i roi cynnig ar symudiadau fel Ioga, Qigong, Dawns Rhyddid ac arferion ystyriol a dysgu technegau a sgiliau newydd.

Anturiaethau ysgrifennu creadigol (29 Medi - 1 Hydref)

Ar gyfer dechreuwyr, neu'r rhai sydd â phrofiad, cewch eich ysbrydoli gan harddwch naturiol cyfoethog a hanes diddorol yr ynys i ddatblygu eich gwaith ysgrifennu dan arweiniad yr artist a'r awdur Sarah Featherstone o Gaerdydd.

Bywyd ar yr ynys - profiad o wirfoddoli ym maes cadwraeth (4-8 Medi)

P'un ag ydych yn chwilio am yrfa ym maes cadwraeth natur neu wyliau gwahanol, mae'r egwyl pedwar diwrnod hwn yn gyfle perffaith i weithio ochr yn ochr â thîm o wardeiniaid yr ynys yn cyflawni tasgau hanfodol gan gynnwys rheoli glaswelltir, helpu gwylanod sy'n nythu, monitro'r boblogaeth o nadroedd defaid prin ac adfer adeiladau treftadaeth.

Byddwch hefyd yn cael profi'r hyn nad yw ymwelwyr dydd yn ei wneud - eistedd o dan y sêr, gwylio goleuadau'r ddinas a'r llongau yn y nos ac edmygu machlud haul a chodiad trawiadol yr haul.

Darllenwch fwy yma

 

Maethu Cymru Caerdydd

"Mae'r hyfforddiant sydd ar gael yn ardderchog ac mae'r gefnogaeth gan fy ngweithiwr cymdeithasol yn wych. Symud oedd y penderfyniad gorau i ni ei wneud erioed."

Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Caerdydd yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol.

Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

Mae'r newidiadau hyn yn blaenoriaethu gwasanaethau lleol, sydd wedi'u cynllunio'n lleol, wedi'u dylunio'n lleol, ac yn atebol yn lleol.

O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal.' Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw.

Yng ngoleuni'r newidiadau hyn, mae Maethu Cymru Caerdydd  - y rhwydwaith sy'n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru - yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy'n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i'w tîm awdurdod lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Plant): "Cymru sy'n arwain y ffordd ar newidiadau hirhoedlog a chadarnhaol i ofal pobl ifanc yng Nghymru - er budd pobl ifanc sy'n derbyn gofal heddiw, ac yn y dyfodol.

"Mae maethu gyda Maethu Cymru Caerdydd, eich cyngor lleol, yn cynnig llawer o fanteision - o gefnogaeth, hyfforddiant a chymuned leol o ofalwyr maeth - ond yn bwysicaf oll, yr opsiwn i bobl ifanc aros yn lleol.

"Pan ddaw plentyn i ofal, mae angen i ni gael opsiynau iddo aros mor agos at adref â phosibl ac mae ein cymunedau lleol yn allweddol i wneud i'r newid hwn ddigwydd.  Felly os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â ni heddiw."

Mae 79% o blant sy'n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i'w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o'r rhai sy'n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i'w cartref, i'r ysgol, i deulu a ffrindiau.

Darllenwch fwy yma