Back
Cyfleoedd newydd, sgiliau newydd a llawer o hwyl


 30/08/23


Gellir cofrestru ar gyfer ystod eang o gyrsiau hamdden ac addysgol gyda Dysgu Oedolion Caerdydd o wythnos nesaf ymlaen.

 

Mae'r rhaglen yn cynnwys cyrsiau Dysgu ar gyfer Gwaith, Dysgu am Oes a DICE (Cynhwysiant Anabledd mewn Addysg Gymunedol) yn ogystal â chynlluniau Cymorth Digidol, gan roi cyfle i oedolion ledled y ddinas ennill sgiliau newydd, gwella eu cyflogadwyedd, mwynhau diddordeb newydd, cwrdd â phobl newydd a gwella eu lles.

 

Mae'r cyrsiau'n dechrau o ddydd Llun 18 Medi ac yn cael eu cyflwyno mewn hybiau a lleoliadau eraillar draws y ddinasyn ogystal ag ar-lein. Mae manylion llawn y cyrsiau ar gael yma: www.dysguioedolioncaerdydd.co.uk 

Mae cofrestru ar-lein yn dechrau ddydd Llun 4 Medi ar www.dysguioedolioncaerdydd.co.uk ond gall dysgwyr hefyd gofrestru yn bersonol yn Hyb Gogledd Llandaf a Gabalfa ddydd Mawrth 5 Medi, rhwng 10:30am a 5pm.

 

Mae Dysgu Oedolion Caerdydd wedi derbyn adroddiad gwych gan yr arolygwyr addysg, Estyn, yn ddiweddar am ei ddarpariaeth hynod effeithiol sydd nid yn unig yn gweithredu fel porth i gyfleoedd eraill fel dysgu pellach, cyflogaeth neu weithgareddau gwirfoddoli, ond mae hefyd yn cynnig mwynhad, hwyl a chymorth drwy'r holl gyrsiau.

 

Darllenwch fwy am ganmoliaeth Estyn am y gwasanaeth yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/32047.html

Nod y cyrsiau Dysgu ar gyfer Gwaith yw helpu dysgwyr i ennill sgiliau newydd neu wella sgiliau sydd ganddyn nhw eisoes er mwyn gwella eu rhagolygon cyflogadwyedd mewn meysydd fel Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gweithio gyda phlant, hylendid bwyd a mwy.  Mae Dysgu am Oes yn cynnig cyrsiau fel garddio, ieithoedd, gwnïo, gwneud gemwaith a mwy, ac mae'n ffordd wych o ddilyn diddordeb a chwrdd â phobl newydd.

Mae rhaglen DICE yn cynnig ystod o gyrsiau hygyrch, wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer dysgwyr â phroblemau iechyd meddwl, anawsterau dysgu, neu nam corfforol.  Maen nhw'n cynnwys ysgrifennu creadigol, ffotograffiaeth, cyfrifiaduron hwyliog ac ymarferol, mathemateg ryngweithiol a llawer mwy.

Ac mae Cymorth Digidol yn cynnig cymorth a hyfforddiant i helpu pobl i fynd i'r afael â defnyddio eu ffôn clyfar, llechi a chyfrifiaduron gyda chymorthfeydd digidol a dosbarthiadau sgiliau sylfaenol.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:  "Ni fu erioed amser gwell i gofrestru i ddysgu gyda Dysgu Oedolion Caerdydd. Rydym yn falch iawn o adroddiad cadarnhaol Estyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar lle siaradodd dysgwyr am yr effaith gadarnhaol y mae'r ddarpariaeth wedi'i chael yn eu bywydau, gan eu helpu i gael gwaith, magu mwy o hyder a chyfoethogi eu bywydau trwy weithgareddau artistig a chymdeithasol.

"Rwy'n annog unrhyw un sy'n ystyried cofrestru i beidio ag oedi, rhowch gynnig arni ym mis Medi."

Ewch i www.dysguioedolioncaerdydd.co.uk