Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 08 Medi 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, yn cynnwys:

  • Tair mewn un wythnos - ysgolion newydd sbon yn agor i ddechrau'r tymor
  • Castell Rompney - Cyngor Caerdydd yn ymyrryd i atal dymchwel tafarn hanesyddol
  • Neuadd Dewi Sant - y datganiad ar gau dros dro y lleoliad

 

Ysgolion newydd sbon yn agor i ddechrau'r tymor

Ysgol Uwchradd Fitzalan

Mae agor yr ysgol newydd drawiadol yn Lecwydd yn nodi cyflawniad y prosiect gwerth £64m a gyflwynwyd gan Kier Construction ar ôl iddo gael cymeradwyaeth cynllunio gyntaf ym mis Tachwedd 2020.

Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, dyma gynllun diweddaraf Caerdydd i'w gyflawni dan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac mae'n cynnwys ysgol uwchradd tri llawr, pwll nofio cymunedol a darpariaeth o bedwar Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA). Mae dau gae 3G ar gael ar gyfer rygbi, pêl-droed a hoci ac mae ardaloedd chwarae caled a meddal hefyd ar y safle yn ogystal â maes parcio i staff ac ymwelwyr. 

Gyda lle i 1850 o ddisgyblion, dechreuodd y gwaith adeiladu gyntaf ym mis Mawrth 2021 ac mae wedi cynnwys cenhadon o'r ysgol sydd wedi ymweld â'r safle yn rheolaidd drwy gydol ei ddatblygiad, gan gyfrannu eu barn ar y gwaith adeiladu ac adrodd ar gynnydd yn ôl i fyfyrwyr eraill. 

Darllenwch fwy yma

 

Ysgol Gynradd Groes-wen

Mae un o ysgolion cynradd mwyaf newydd Caerdydd wedi agor ei drysau am y tro cyntaf yr wythnos hon, wrth i staff a disgyblion gyrraedd ar gyfer dechrau'r tymor yn yr Ysgol Gynradd Groes-wen newydd sbon ym Mhlasdŵr.

Yr ysgol gynradd gwerth £9 miliwn yw'r gyntaf o'i bath i Gaerdydd ac i Gymru, gan gynnig ffrwd iaith ddeuol a ffrwd Gymraeg.  Bydd y ffrwd iaith ddeuol yn cynnwys 50% o Gymraeg a 50% o Saesneg, a elwir yn raniad 50/50.  Yn ogystal, mae darpariaeth feithrin ran-amser â 96 lle sy'n cael ei chefnogi gan Gylch Meithrin i gynnig darpariaeth gofleidiol. Bydd y Cylch hefyd yn gweithredu clwb ar ôl ysgol i ddisgyblion.

Wedi'i lleoli yn natblygiad Plasdŵr Caerdydd yng ngogledd orllewin y ddinas, ar dir i'r de o Heol Llantrisant, mae Ysgol Gynradd Groes-wen, a adeiladwyd gan Andrew Scott Ltd, yn un o ddwy ysgol newydd i agor yr wythnos hon, fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd, mewn partneriaeth â Redrow.

Darllenwch fwy yma

 

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg

Agorodd cartref newydd sbon i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg ei drysau am y tro cyntaf yr wythnos hon, wrth i staff a disgyblion gyrraedd ar gyfer dechrau'r tymor yn yr adeilad ysgol newydd gwerth £6 miliwn.

Wedi'i leoli yn natblygiad Sant Edern, mae'r ysgol newydd wedi symud o'i hen safle yn Llanrhymni ac mae'n un o ddwy ysgol newydd i agor yr wythnos hon, a gyflwynir fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd (CDLl) gan Halsall Construction ar ran Persimmon Homes.

Bydd Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg newydd yn ysgol ag 1 dosbarth mynediad, yn cynnig lle i 210 o ddisgyblion gan gynnwys meithrinfa ran-amser â 48 o leoedd, gyda'r cyfle i ehangu i 2 ddosbarth mynediad (420 o leoedd) yn y dyfodol. Bydd cyfleuster cymunedol yn gysylltiedig â'r ysgol gyda mynedfa breifat a mynedfa gydgysylltiol sy'n cynnig buddion i'r gymuned ehangach.

Darllenwch fwy yma

 

Oedi cynlluniau dros dro i ddymchwel  Rompney Castle

Gallai hen dafarn boblogaidd yng Nghaerdydd - Castell Rompney - gael ei hachub rhag bygythiad dymchwel ar ôl i Gyngor Caerdydd gamu i'r adwy i'w hatal rhag cael ei dymchwel.

Mae'r Rompney wedi bod yn ffefryn yn ardal Tredelerch y ddinas ers y 1870au a'r llynedd gwrthodwyd cynllun datblygwr i ddymchwel yr adeilad ac ailddatblygu'r safle gan adran gynllunio Cyngor Caerdydd ar sail y byddai'r datblygiad yn arwain at golli adeilad hanesyddol sydd o arwyddocâd sylweddol i'r gymuned leol.

Fodd bynnag, dychwelodd y datblygwr ym mis Gorffennaf eleni gyda chais newydd yn hysbysu o'u bwriad i ddymchwel yr adeilad.  O dan y rheolau cynllunio presennol, nid oes angen caniatâd ar berchennog eiddo i ddymchwel eiddo y mae'n berchen arno, dim ond caniatâd gan y Cyngor i gytuno ar ddull o ddymchwel.

Nawr, mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar berchennog y Rompney, gan ddileu'r hawliau datblygiad a ganiateir hyn - yn yr achos hwn gan atal dymchwel y dafarn oni roddir caniatâd cynllunio llawn.

Darllenwch fwy yma

 

Cau Neuadd Dewi Sant dros dro - Datganiad Cyngor Caerdydd

Bydd Neuadd Dewi Sant yn cau dros dro i'r cyhoedd i gynnal archwiliadau ychwanegol ar y paneli Concrid Awyrog Awtoclafedig Dur (CAAD) yn yr adeilad.

Gwnaed y penderfyniad yng ngoleuni'r newid diweddar i gyngor ar CAAD mewn adeiladau cyhoeddus a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac yn dilyn trafodaethau pellach gyda pheirianwyr strwythurol annibynnol a benodwyd gan y Cyngor, ac yswirwyr y cyngor.

Mae'r cyngor wedi bod yn ymwybodol o CAAD yn Neuadd Dewi Sant a'r angen i'w reoli o safbwynt iechyd a diogelwch ers 2021, ac mae bob amser wedi dilyn canllawiau a chyngor y llywodraeth i sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel.

Mae strategaeth rheoli adeiladau ac iechyd a diogelwch wedi bod ar waith yn y lleoliad am y deunaw mis diwethaf.  Roedd hyn yn cynnwys archwiliadau rheolaidd gan beirianwyr strwythurol annibynnol gydag arbenigedd CAAD penodol.

Trwy gydol y cyfnod hwn ni chodwyd unrhyw faterion am gyflwr CAAD yn yr adeilad ac nid oedd tystiolaeth o ddirywiad - ac mae hyn yn wir o hyd.

Fodd bynnag, mae'r Cyngor wedi parhau i ymgysylltu â'i yswirwyr a'i beirianwyr strwythurol arbenigol ac, yn seiliedig ar gyngor a dderbyniwyd heddiw gan yr arbenigwyr hynny, credwn ei bod yn ddoeth ac yn gyfrifol i gynnal arolygon manwl i roi sicrwydd pellach i'n hunain a'r cyhoedd ar ddiogelwch y Neuadd. Bydd hyn yn gofyn am ddrilio i baneli i gadarnhau eu gwneuthuriad mewnol ac i benderfynu a oes angen unrhyw waith pellach i sicrhau diogelwch parhaus.  

O ganlyniad, byddwn yn dod â pheirianwyr strwythurol - sy'n arbenigwyr CAAD - yn ôl ar y safle i wneud profion newydd ar baneli CAAD yn yr adeilad.

Rydym yn disgwyl y gallai'r weithdrefn hon gymryd o leiaf 4 wythnos, a byddwn yn ceisio ailagor y Neuadd cyn gynted â phosibl, yn dibynnu ar unrhyw gamau y gallai fod eu hangen neu na fydd eu hangen.

Rydym yn gwybod y bydd hyn yn achosi llawer o anghyfleustra a siom, a hoffem ymddiheuro i'n holl gwsmeriaid, ond gobeithiwn y byddwch yn deall bod diogelwch cynulleidfaoedd, staff, artistiaid, gwirfoddolwyr a phawb yn y lleoliad yn hollbwysig, a'i bod yn ofynnol i'r Cyngor weithredu mewn ymateb i ganllawiau diweddaraf Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a chyngor arbenigol.

Byddwn yn cysylltu â hyrwyddwyr a chyflogwyr i drafod y potensial ar gyfer aildrefnu perfformiadau ac i adolygu'r holl opsiynau eraill.  Nid oes angen i gwsmeriaid gysylltu â Neuadd Dewi Sant, byddwn yn cysylltu â'r holl ddeiliaid tocynnau am yr opsiynau sydd ar gael i chi unwaith y byddwn wedi siarad â hyrwyddwr y sioeau yr effeithir arnynt.  Byddem yn ddiolchgar pe gallai cwsmeriaid roi'r amser i ni ymgymryd â'r gwaith hwn fel y gallwn ddod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl am eich tocyn / digwyddiad wedi'i ganslo.

Mae'r Cyngor wedi bod yn gyson glir ynghylch yr angen am fuddsoddiad yn Neuadd Dewi Sant i sicrhau ei ddyfodol hirdymor, gan fynd i'r afael â'r mater CAAD a materion cynnal a chadw eraill, a chadarnhawyd hyn oll mewn adroddiad Cabinet y llynedd.

Rydym yn parhau i weithio i drosglwyddo'r neuadd i'r Academy Music Group (AMG). Cyn cymryd drosodd y cyfrifoldeb o weithredu Neuadd Dewi Sant, roedd AMG eisoes wedi cynnal ei arolygiadau ei hun ac mae ganddo gynlluniau ar waith i wneud gwaith adfer sydd ei angen yn y tymor canolig i'r tymor hir. Byddwn yn rhoi gwybod iddynt am y camau yr ydym ni'n eu cymryd.

Unwaith eto, rydym yn ymddiheuro i gwsmeriaid Neuadd Dewi Sant am ganslo'r sioeau'n hwyr, ac rydym am eich sicrhau y byddwn mewn cysylltiad i drafod dyddiadau newydd perfformiadau a/neu ddewisiadau amgen.  Dilynwch adran newyddion gwefan Neuadd Dewi Sant am ddiweddariadau. Diolch am eich dealltwriaeth a'ch amynedd.