Back
Y newyddion gennym ni - 11/09/23

Image

07/09/23 - Yr ysgol gynradd iaith ddeuol gyntaf yng Nghaerdydd yn agor i ddisgyblion

Mae un o ysgolion cynradd mwyaf newydd Caerdydd wedi agor ei drysau am y tro cyntaf yr wythnos hon, wrth i staff a disgyblion gyrraedd ar gyfer dechrau'r tymor yn yr Ysgol Gynradd Groes-wen newydd sbon ym Mhlasdŵr.

Darllenwch fwy yma

 

Image

07/09/23 - Cartref Newydd i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg - Ar agor i ddisgyblion

Agorodd cartref newydd sbon i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg ei drysau am y tro cyntaf yr wythnos hon, wrth i staff a disgyblion gyrraedd ar gyfer dechrau'r tymor yn yr adeilad ysgol newydd gwerth £6 miliwn.

Darllenwch fwy yma

 

Image

07/09/23 - Cau Neuadd Dewi Sant dros dro

Bydd Neuadd Dewi Sant yn cau dros dro i'r cyhoedd i gynnal archwiliadau ychwanegol ar y paneli Concrid Awyrog Awtoclafedig Dur (CAAD) yn yr adeilad.

Darllenwch fwy yma

 

Image

07/09/23 - Oedi cynlluniau dros dro i ddymchwel Rompney Castle

Gallai hen dafarn boblogaidd yng Nghaerdydd - Castell Rompney - gael ei hachub rhag bygythiad dymchwel ar ôl i Gyngor Caerdydd gamu i'r adwy i'w hatal rhag cael ei dymchwel.

Darllenwch fwy yma

 

Image

06/09/23 - Diwrnod cyntaf Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd sbon

Yr wythnos hon, agorodd ysgol uwchradd newyddaf Caerdydd ei drysau i ddisgyblion a staff am y tro cyntaf erioed, wrth i Ysgol Uwchradd Fitzalan ddechrau tymor newydd yn ei chartref newydd sbon.

Darllenwch fwy yma

 

Image

05/09/23 - Mae Ysgol Gynradd Pentre-baen yn cael ei chanmol am ei hamgylchedd cynhwysol a meithringar gan Estyn ond fe'i hanogir i fynd i'r afael â meysydd allweddol

Mae Ysgol Gynradd Pentre-baen wedi cael ei chydnabod am ei hamgylchedd cynhwysol a meithringar, mewn adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Estyn.

Darllenwch fwy yma

 

Image

05/09/23 - Gwneud teithio i'r ysgol yn ddiogelach! Sefydlu mwy o Strydoedd Ysgol ar gyfer dechrau tymor ysgol newydd

Bydd cynllun Strydoedd Ysgol Cyngor Caerdydd yn cael ei ehangu fis Medi, gyda thri lleoliad newydd yn cael eu hychwanegu at y cynllun.

Darllenwch fwy yma

 

Image

05/09/23 - Parc sglefrio newydd yn Llanrhymni yn cael caniatâd cynllunio

Parc sglefrio newydd yn Llanrhymni wedi cael caniatâd cynllunio. Wedi'i ddatblygu gan yr ymgynghorwyr arobryn VDZ+A a Newline Skateparks mewn ymgynghoriad â'r gymuned sglefrfyrddio leol, bydd y parc sglefrio newydd yn disodli'r cyfleuster sglefrio ffrâm bren presennol wrth ymyl Canolfan Hamdden y Dwyrain.

Darllenwch fwy yma