Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 15 Medi 2023

15/09/23


Dyma'r diweddaraf gennym ni, sy'n cynnwys:

 

  • Canmoliaeth ac argymelliadau gan Estyn i Ysgol Glan Ceubal ac Ysgol Gynradd Radnor
  • Cyrraedd carreg milltir ar gynllun adfywio Trem y Môr
  • Creu mwy o hyblygrwydd, dewis a rheolaeth I ddefnyddwyr gofal
  • Y Cyngor yn symud i ddiweddaru rhestr adeiladau gwarchodedig

Ysgol Glan Ceubal, cymuned groesawgar a thosturiol sy'n blaenoriaethu lles ei myfyrwyr, meddai Estyn

Mae Ysgol Glan Ceubal, ysgol gynradd Gymraeg yng Ngogledd Llandaf, wedi'i disgrifio fel cymuned groesawgar a thosturiol sy'n blaenoriaethu lles ei myfyrwyr.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn, tynnodd arolygwyr sylw at ymroddiad yr ysgol i gynwysoldeb a'r sylw a roddir i unigolion, wrth i staff gydweithio i nodi anghenion unigryw pob disgybl.

Canfu Arolygiaeth Addysg Cymru fod gan yr ysgol awyrgylch gadarnhaol, lle mae disgyblion yn teimlo'n gyfforddus yn trafod eu pryderon mewn lleoliad diogel a bod disgyblion yn dangos parch a chwrteisi tuag at eu cyfoedion a'u haddysgwyr, gan arwain at ymddygiad clodwiw.

 Gydag ymrwymiad cryf i ddysgu, mae myfyrwyr yn dangos agweddau cadarnhaol ac yn gwneud cynnydd sylweddol o'u mannau cychwyn, sy'n arbennig o amlwg ymhlith hwyr-ddyfodiaid i'r Gymraeg, sy'n ffynnu yn dilyn eu hamser yn Uned Drochi Iaith Caerdydd, sydd wedi'i lleoli yn yr ysgol.

Mae'r ysgol yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ar draws pob maes, gan rymuso myfyrwyr i ddefnyddio eu sgiliau iaith yn hyderus mewn cyd-destunau amrywiol. Er bod llawer o fyfyrwyr yn rhagori wrth ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu a rhifedd, mae'r adroddiad yn tanlinellu'r angen i wella'r diwylliant darllen i hyrwyddo mwy o frwdfrydedd dros y Gymraeg.

 Canfuwyd bod athrawon yn datblygu sgiliau disgyblion trwy holi treiddgar ac yn cynnig cyfleoedd buddiol i ddisgyblion drafod eu gwaith, a'u bod hefyd yn nodi anghenion pob disgybl yn dda ac yn teilwra cymorth dysgu mewn modd sensitif. Fodd bynnag, dylid gwella cyfleoedd i ddisgyblion ymateb yn annibynnol i adborth athrawon i wella ansawdd eu gwaith.

Darllenwch fwy yma 

Ysgol Gynradd Radnor yn cael ei chydnabod gan Estyn am ei haddysg gynhwysol a'i phwyslais ar iechyd

Mae Ysgol Gynradd Radnor yn Nhreganna wedi derbyn canmoliaeth am ei hymrwymiad i gynnig amgylchedd addysgol cynhwysol a chefnogol yn ystod arolwg diweddar gan Estyn.

Mae'r ysgol yn cael ei dathlu am ei hawyrgylch feithringar lle mae disgyblion a theuluoedd yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu, ac mae Arolygiaeth Addysg Cymru wedi cydnabod yr ysgol am ei hymroddiad i feithrin gwerthoedd pwysig fel tegwch ac amrywiaeth ymhlith disgyblion y canfuwyd eu bod yn arddangos ymddygiad rhagorol, gan ddangos parch at athrawon a'u cyfoedion.

Yn ei adroddiad, nododd Estyn y perthnasoedd cryf ymhlith staff, disgyblion, llywodraethwyr a rhieni sy'n cyfrannu at awyrgylch calonogol a gofalgar i bawb.

Nododd adroddiad yr arolwg bod disgyblion, wrth symud ymlaen trwy'r ysgol, yn gwneud cynnydd da mewn gwahanol agweddau ar ddysgu ac er eu bod yn rhagori mewn sgiliau llafaredd a darllen, mae angen mwy o sylw ar eu cynnydd ag ysgrifennu.

Amlygodd arolygwyr ymroddiad yr ysgol i feithrin ffordd iach o fyw a thrwy integreiddio ffitrwydd corfforol i'w threfn ddyddiol yn effeithiol, addysgir pwysigrwydd cadw'n actif i ddisgyblion.

Mae darpariaeth yr ysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion ychwanegol a'r rhai sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol wedi cael ei hystyried yn llwyddiannus a thrwy gydweithio â rhieni, staff ac asiantaethau allanol, mae'r ysgol wedi teilwra ei dull o ddarparu ar gyfer gofynion unigol.

Darllenwch fwy yma  

Cyrraedd carreg milltir ar gynllun adfywio Trem y Môr

MaeCyngorCaerdydd wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol yn ei gynllun cyffrous i adfywio ystâd Trem y Môr.

Yn cynrychioli'r ailddatblygiad ystâd holistig helaethaf a mwyaf cyffrous o fewn rhaglen ddatblygu'r cyngor, bydd y cynllun yn Grangetown yn darparu tua 319 o gartrefideiliadaeth gymysg, hynod ynni-effeithlon a charbon isel newydd,gan gynnwys adnewyddu'r 180 eiddo presennol a reolir gan y Cyngor.

Nawr, ar ôl i'r broses gaffael ddod i ben ar gyfer penodi partner datblygu ar gyfer y prosiect, nodwyd cynigydd a ffefrir i gyflawni'r cynllun cyfan.

Yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 21 Medi, bydd y Cabinet yn ystyried yr argymhelliad i ddirprwyo awdurdod i swyddogion mewn ymgynghoriad â'rAelod Cabinet Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne, ibenodi'r cynigydd a ffefrir i'r cynllun.

Darllenwch fwy yma 

Creu mwy o hyblygrwydd, dewis a rheolaeth i ddefnyddwyr gofal

Maeffordd newydd o ddarparu gofal i bobl yng Nghaerdydd yn cael ei chyflwyno i ddarparu lefel uwch o ddewis a rheolaeth i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau.

Bydd y rhai sydd ag anghenion gofal lefel isel yn y ddinas yn gallu elwa o ddull symlach a gwell o ran taliadau uniongyrchol, gan ei gwneud yn haws trefnu eu gofal eu hunain yn hytrach na derbyn gofal gan ddarparwyr gofal a gomisiynir gan y Cyngor.

Mae llawer o bobl eisoes yn comisiynu eu gofal eu hunain trwy daliadau uniongyrchol, fel arfer trwy gyflogi cynorthwy-ydd personol a all fod o fudd sylweddol wrth fodloni gofynion penodol unigolion megis anghenion ieithyddol neu ddiwylliannol. Fodd bynnag, mae'r defnydd o gynorthwy-ydd personol yn golygu cymhlethdod a chyfrifoldeb ychwanegol i'r defnyddiwr gofal, gan fod angen iddo fod yn gyflogwr i'r cynorthwy-ydd.

Er mwyn helpu i gael gwared ar rwystrau o'r fath i'r defnydd o daliadau uniongyrchol, mae'r Cyngor wedi partneru â'r CBC Community Catalysts, sefydliad sy'n arbenigo mewn gweithio gydag awdurdodau lleol i helpu pobl leol i ddarparu gofal a chymorth yn y gymuned trwy sefydlu microfentrau sy'n helpu pobl i aros yn annibynnol a chefnogi eu lles.

Darllenwch fwy yma 

Y Cyngor yn symud i ddiweddaru rhestr adeiladau gwarchodedig

Mae Cyngor Caerdydd yn cymryd camau i gynyddu'r amddiffyniad a roddir i adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol lleol yn y ddinas rhag dymchwel neu ddatblygiad digydymdeimlad.

Ar hyn o bryd mae mwy na 200 o 'Adeiladau o Bwys' yn y ddinas. Er bod rhai yn dod o fewn ardaloedd cadwraeth presennol, mae llawer o dafarndai, adeiladau cymunedol a lleoliadau cerddoriaeth nad oes ganddynt statws 'rhestredig yn lleol' ond sy'n dal i wneud cyfraniad pwysig ac sydd â'r potensial i gyfoethogi bywyd hanesyddol a diwylliannol Caerdydd.

Wythnos diwethaf, fe wnaeth cynghorwyr a swyddogion cynllunio symud i ddileu hawl y perchennog i ddymchwel tafarn Castell Rompney yn Heol Gwynllŵg, Tredelerch, ac nawr mae'r awdurdod am gynnal adolygiad o adeiladau eraill er mwyn rhoi'r un statws iddyn nhw.

Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf ym 1997 ond nid yw'r rhestr o adeiladau a ddeilliodd o hynny wedi'i chynnal na'i hadolygu ers hynny, er bod tua thraean o'r rhestr wreiddiol o 323 o adeiladau bellach wedi'u rhestru gan Cadw.

Mewn cynnig i'w drafod gan Gabinet y Cyngor yn ddiweddarach y mis hwn, gofynnir i gynghorwyr gytuno ar y broses ymgynghori ar gyfer adolygiad thematig cyntaf o'r 'rhestr leol, gan ganolbwyntio i ddechrau ar adeiladau sy'n gyfoethog yn hanes dosbarth gweithiol y ddinas.

Pan gaiff ei gwblhau, byddai'n golygu gellir ystyried diddordeb pensaernïol neu hanesyddol lleol arbennig yr adeilad wrth asesu ceisiadau cynllunio cyn gwneud penderfyniad.

Darllenwch fwy yma