Diweddariad Dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
Gwaith wedi dechrau i adeiladu Beicffordd Parc y Rhath
Mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar y cam cyntaf o Feicffordd Parc y Rhath Caerdydd.
Yn ogystal â darparu beicffordd newydd o fewn Tir Hamdden Parc y Rhath a gwella llwybrau troed, bydd y gwaith yn arwain at welliannau i droedffyrdd, cyffyrdd priffyrdd, a theithio ar fws, yn ogystal â chynyddu capasiti'r system ddraenio o amgylch Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Pen-y-lan a oedd yn dueddol o ddioddef llifogydd dŵr wyneb.
Mae'r llwybrau troed newydd yn y maes chwarae hefyd yn cynnwys mesurau draenio fydd yn mynd i'r afael â rhai o'r materion presennol lle mae rhai llwybrau troed yn gorlifo ac yn amhosibl mynd heibio iddynt pan fydd hi'n bwrw glaw.
Ar ôl ei chwblhau, bydd y llwybr beicio lletach yn rhedeg o ogledd Parc y Rhath, ger Ysgol Uwchradd Caerdydd, i Heol Casnewydd, lle bydd yn cysylltu â beicffordd arall (Beicffordd 2) fydd yn rhedeg i Dredelerch, Llanrhymni, ac yna ymlaen i Barc Busnes Llaneirwg.
Mae cam cyntaf cynllun beicffordd newydd Parc y Rhath yn cynnwys:
Dadorchuddio portread yn y Plasty o bencampwr manwerthu Caerdydd
Am fwy na 150 mlynedd, roedd siop adrannol James Howell ar Heol Eglwys Fair gyfystyr â'r profiad manwerthu gorau y gallai Caerdydd ei gynnig.
Sefydlodd y dilledydd o Sir Benfro ei fusnes yn y ddinas ym 1865, gan ei adeiladu i fod yn fusnes teuluol helaeth wedi'i leoli mewn adeilad godidog a allai gystadlu ag unrhyw beth oedd gan Lundain i'w gynnig.
Ond a wyddech chi fod Howell wedi gwneud ei farc ar Gaerdydd mewn modd arall? Adeiladodd dŷ ffrynt dwbl godidog ar Heol Richmond fel cartref teuluol, i'w wraig a'i blant. The Grove oedd yr enw gwreiddiol arno, ac fe'i prynwyd gan yr hen Gorfforaeth Caerdydd ym 1912 a flwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei agor yn swyddogol fel y Plasty - preswylfa swyddogol Arglwydd Faer y ddinas.
Er bod y Plasty heddiw yn cael ei ddefnyddio gan yr Arglwydd Faer i gynnal swyddogaethau dinesig, mae cysylltiad James Howell â'r eiddo rhestredig Gradd II bellach wedi'i gydnabod yn swyddogol diolch i'r rhodd o bortread ohono.
Arferai'r paentiad, gan yr artist nodedig o oes Fictoria, Parker Hagarty, hongian yn swyddfeydd siop Howell ond pan gaeodd y siop - erbyn hynny wedi ei ailfrandio fel yr House of Fraser - ym mis Mawrth 2023 fe'i rhoddwyd i'r cyngor yn y gobaith y byddai'n cael lle yn ei hen gartref.
Addysg Caerdydd: Strategaeth Gydweithredu a Ffedereiddio
Gallai dull newydd o ddarparu addysg yng Nghaerdydd olygu bod mwy o ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd drwy drefniadau cydweithredu a ffedereiddio ffurfiol, i ddarparu system addysg hynod effeithiol a chynaliadwy.
Os caiff ei gytuno gan Gabinet Cyngor Caerdydd, byddai Strategaeth Gydweithredu a Ffedereiddio yn darparu fframwaith i annog mwy o ysgolion i ddod at ei gilydd drwy gydweithredu, gan adeiladu ar gyflawniadau a llwyddiant trefniadau partneriaeth a ffedereiddio ffurfiol sydd eisoes yn gweithredu'n effeithiol ar draws y ddinas.
Mae ymchwil ac ymarfer wedi dangos manteision cydweithredu, ffedereiddio a threfniadau eraill lle mae ysgolion yn cael eu dwyn ynghyd i ddarparu addysg. Mae hyn wedi cynnwys adolygiad thematig ESTYN (2019) a Chanllawiau ar gyfer Proses Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir ar gyfer Awdurdodau Lleol ac Ysgolion (2023) sydd wedi ystyried yr ymchwil yn feirniadol a nodwyd y manteision allweddol canlynol fel rhan o'u casgliad:
Byddai Strategaeth Gydweithredu a Ffedereiddio yn adeiladu ar y dystiolaeth hon gan ddefnyddio profiad a gwybodaeth gweithwyr proffesiynol Cyngor Caerdydd a Chonsortiwm Canolbarth y De (CCD), a phenaethiaid sy'n fedrus wrth gydweithio ac sydd â gallu amlwg i arwain sefydliadau dysgu ac addysgu o ansawdd uchel sy'n cynnwys dwy ysgol neu fwy. Mae'n cydnabod rôl arweinyddiaeth a llywodraethu cryf wrth hyrwyddo canlyniadau addysg i blant a theuluoedd, gan fanteisio i'r eithaf ar sgiliau a phrofiad arweinwyr addysg mwyaf dawnus Caerdydd a llywodraethwyr hynod o alluog.