Back
Y newyddion gennym ni - 18/03/24

Image

18/03/24 - Cynlluniau i helpu Radyr Rangers i wella cyfleusterau i'w cytuno

Mae disgwyl i gynlluniau fydd yn helpu'r clwb chwaraeon Radyr Rangers i wella eu cyfleusterau ar Dir Hamdden Pentre-poeth gael eu cytuno gyda Chyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/03/24 - Cynlluniau ar draws y ddinas i gynyddu ac ailalinio'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae cynigion cynhwysfawr i wella a chynyddu darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghaerdydd yn cael eu cynnig o fis Medi 2024, yn dilyn dau ymgynghoriad cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Ionawr.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/03/24 - Y Cyngor yn cyhoeddi polisi diwygiedig ar dderbyn i ysgolion

Mae Cyngor Caerdydd wedi cynnig gwneud newidiadau i'w bolisi derbyn i ysgolion yn dilyn proses ymgynghori gyhoeddus a gynhaliwyd ar drothwy'r flwyddyn.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/03/24 - Buddsoddiad o £1bn i ddarparu cartrefi fforddiadwy i Gaerdydd

Mae adeiladu cartrefi cyngor newydd ar adeg o alw digynsail am dai a gwasanaethau digartrefedd yn parhau i fod yn hollbwysig i Gyngor Caerdydd dros y flwyddyn i ddod.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/03/24 - Buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn blociau fflatiau uchel yn Butetown

Mae cynlluniau am fuddsoddiad o £25m mewn dau floc o fflatiau yn y ddinas ar y gweill fel rhan o gynllun ailgladio blociau fflatiau uchel y cyngor.

Darllenwch fwy yma

 

Image

14/03/24 - Y Cyngor yn addo mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil yn y gweithle

Cyngor Caerdydd yw'r awdurdod lleol diweddaraf i arwyddo siarter gwrth-hiliaeth UNSAIN.

Darllenwch fwy yma

 

Image

13/03/24 - Datgelu cynlluniau ar gyfer 'Papur Gwyrdd' ar fuddsoddiad Ynni Gwyrdd

Mae cynlluniau ar gyfer 'Papur Gwyrdd' i archwilio cyfleoedd buddsoddi o ran y trawsnewidiad i ynni gwyrdd sy'n gysylltiedig ag ymateb Cyngor Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd a thargedau carbon niwtral wedi cael eu datgelu.

Darllenwch fwy yma

 

Image

12/03/24 - Dathlu 60 mlynedd o efeillio gyda mwy o entente cordiale

I lawer o bobl Caerdydd, mae'r Boulevard de Nantes yn un o'r ffyrdd mwyaf mawreddog yng nghanolfan ddinesig urddasol y ddinas - tramwyfa eang â choed ar ei hyd yn cynnwys rhai o'n rhyfeddodau pensaernïol gorau.

Darllenwch fwy yma

 

Image

12/03/24 - Gwaith adeiladu yn dechrau ar system newydd amddiffyn llifogydd i warchod cartrefi Caerdydd

Mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau ar gynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd newydd a fydd yn amddiffyn 2,800 o gartrefi rhag perygl llifogydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

11/03/24 - Datgelu cynllun Caerdydd i wella llwybrau bysiau allweddol

Mae cynllun newydd i wella chwe llwybr bysiau allweddol i ganol dinas Caerdydd, a gynlluniwyd i roi hwb i nifer y teithwyr a chynnig amseroedd teithio cyflymach, wedi'i ddatgelu.

Darllenwch fwy yma