Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 05 Ebrill 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Anrhydeddu arwr bom ar ei ben-blwydd yn 100 oed fel achubwr Neuadd y Ddinas yn ystod yr Ail Ryfel Byd
  • Cymuned Pentwyn yn rhoi barn ar gynlluniau'r ganolfan hamdden
  • Cyfleoedd dysgu hyblyg i roi hwb i ragolygon gyrfa
  • Llwyddiant yn yr Unol Daleithiau i wneuthurwyr ffilm o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd

 

Anrhydeddu arwr bom ar ei ben-blwydd yn 100 oed fel achubwr Neuadd y Ddinas yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Mae Cyngor Caerdydd wedi anrhydeddu dyn a achubodd Neuadd y Ddinas rhag cael ei dinistrio pan aeth i'r afael â bom cyneuol a gafodd ei ollwng ar do'r adeilad yn ystod cyrch awyr yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar noson 2 Chwefror 1941, roedd Ronald Brignall, 16 oed, yn cerdded adref o'r coleg lle'r oedd yn astudio ar gyfer ei gymwysterau plymio. Wrth iddo gerdded heibio Neuadd y Ddinas, clywodd seirenau cyrch awyr yn rhybuddio am ymosodiad bomio'r Almaen a gwelodd bom cyneuol yn glanio ar do'r adeilad.

Heb unrhyw ystyriaeth am ei ddiogelwch ei hun, gafaelodd mewn dau fag tywod a gan ddal un o dan ei fraich a gafael yn y llall rhwng ei ddannedd, fe ddringodd bibell ddraenio 25 troedfedd i'r to a phylu'r fflamau - yn cael ei annog gan y gwylwyr tân swyddogol oedd yn sefyll islaw.

Fel pe na bai hynny'n ddigon arwrol, dychwelodd Mr Brignall i'r ddaear a chario pibell ddŵr yn ôl i fyny'r bibell ddraenio - unwaith eto yn gafael arni rhwng ei ddannedd - a diffodd y tân yn llwyr wrth i'r gwylwyr tân gyflenwi dŵr trwy bwmp trochi ar y ddaear.

Erbyn iddo orffen y dasg, er gwaethaf y cyrch parhaus, roedd torf wedi ymgynnull i'w ganmol fel arwr ond, er gwaethaf papurau newydd lleol ar y pryd yn cofnodi ei gampau, ni chafwyd cydnabyddiaeth swyddogol o gamp a oedd wedi atal un o adeiladau mwyaf mawreddog a mwyaf hanesyddol Caerdydd rhag cael ei ddinistrio.

Tan nawr.

Heddiw, wrth i Mr Brignall ddathlu ei ben-blwydd yn 100 oed, teithiodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik, i'r cartref gofal yn Sussex lle mae bellach yn byw i gyflwyno tystysgrif arbennig iddo yn diolch iddo am ei arwriaeth a chofnodi digwyddiadau'r diwrnod hwnnw ym 1941 ar gyfer y dyfodol.

Ar y pryd, unig sylw Mr Brignall oedd bod ei ên yn boenus ar ôl cario'r bag tywod 12 pwys i fyny i'r to - ac roedd wedi difetha ei siwt - ond heddiw dywedodd yr oedd yn gyffrous ar y pryd o allu gwneud cyfraniad bach at yr ymdrech ryfel. "Dim ond yn fy arddegau oeddwn i," meddai, "a doedd gen i ddim ofn. Roeddwn i eisiau sicrhau nad oedd y bom yn gwneud unrhyw ddifrod i Neuadd y Ddinas."

Yn benderfynol o wneud hyd yn oed mwy o gyfraniad i'r ymdrech ryfel, daeth yn warchodwr tân swyddogol yn ddiweddarach, gan helpu i amddiffyn Caerdydd, ac ym 1944, ymunodd â'r Awyrlu gan ddod yn fagnelwr cefn ar awyrennau bomio Whitley a Halifax, ac yn rhan o Ymgyrch Varsity, lle croesodd y Cynghreiriaid yr afon Rhein, ym 1945.

Darllenwch fwy yma

 

Cymuned Pentwyn yn rhoi barn ar gynlluniau'r ganolfan hamdden

Daeth dros 180 o bobl i sesiwn galw heibio ddeuddydd Cyngor Caerdydd yr wythnos diwethaf i archwilio cynlluniau a rhoi eu barn ar waith adnewyddu arfaethedig ac ailagor Canolfan Hamdden Pentwyn.

Roedd y sesiynau'n gyfle i bobl leol drafod gyda swyddogion y cyngor fanylion y gwaith adnewyddu, sydd wedi ei gynllunio i ddigwydd pan fydd Clwb Rygbi Caerdydd, sydd wedi bod yn defnyddio'r ganolfan ar gyfer ei sesiynau hyfforddi, yn gadael yr adeilad ym mis Mai.

Ymhlith y cyfleusterau newydd sydd wedi'u cynllunio mae:

  • Pwll 25m gyda llawr symudol addasadwy sy'n caniatáu i ddyfnder y dŵr gael ei amrywio, gan ei alluogi i gael ei ddefnyddio ar gyfer ystod eang o weithgareddau ac arbed costau gwresogi. Bydd sleid y pwll yn cael ei gadw hefyd
  • Cadw'r neuadd chwaraeon bresennol a'r cae bach 3G awyr agored
  • Ail-agor cyfleusterau'r stiwdio a'r gampfa ac adnewyddu'r ystafelloedd newid
  • Buddsoddi mewn paneli solar wedi'u gosod ar y to a phwmp gwres ffynhonnell aer i gynhesu'r pwll

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Roeddem yn falch bod cymaint o bobl wedi dod a'n bod ni wedi gallu gwrando ar eu barn nhw ac esbonio'r cynlluniau newydd ar gyfer y ganolfan. Cawsom adborth cadarnhaol ar ein penderfyniad i newid dyluniad y pwll ac i gynyddu maint a dyfnder y pwll newydd. Rydym yn gobeithio bod ar y safle'n fuan i ddechrau ar y gwaith."

Darllenwch fwy yma

 

Cyfleoedd dysgu hyblyg i roi hwb i ragolygon gyrfa

Mae cofrestru ar agor ar gyfer cyrsiau dysgu oedolion sy'n dechrau yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae Addysg Oedolion Caerdydd yn darparu cyrsiau sy'n addas ar gyfer dysgwyr o bob gallu yng Nghaerdydd ac ar hyn o bryd mae'n cynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant galwedigaethol a chymorth digidol a all helpu unigolion i wella eu rhagolygon cyflogaeth.

Mae cyrsiau tymor yr Haf yn dechrau o 15 Ebrill ac mae cofrestru ar gyfer cyrsiau fel Diogelwch Bwyd, Cymorth Cyntaf, hyfforddiant yn gysylltiedig ag Iechyd a Diogelwch, hyfforddiant rhifedd amrywiol, Gofal Plant a llawer mwy yn ar agor nawr.

Mae cyrsiau am ddim i ddysgwyr cymwys ac maent wedi'u cynllunio i helpu pobl i gymryd eu camau cyntaf yn ôl i ddysgu, cymryd rhan mewn hyfforddiant pellach neu gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnig cymorth digidol i drigolion Caerdydd, gan gynnwys cyflwyniadau i sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol i'r rhai sydd am uwchsgilio i gael swydd, neu i unrhyw un sydd am fynd i'r afael â'r dechnoleg ddiweddaraf.

Cynhelir y cyrsiau mewn canolfannau ac adeiladau cymunedol ledled y ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Llwyddiant yn yr Unol Daleithiau i wneuthurwyr ffilm o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd

Mae chwe pherson ifanc 13-17 oed o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi dychwelyd o gyfnewidfa ieuenctid unigryw yn Carlsbad, Califfornia lle enillon nhw'r Wobr Rhagoriaeth Darlledu yn y Confensiwn Rhwydwaith Teledu Myfyrwyr.

Roedd y daith 11 diwrnod yn canolbwyntio ar wneud ffilmiau a mynychu'r confensiwn, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Confensiwn Long Beach, a darparodd gyfoeth o gyfleoedd i'r egin wneuthurwyr ffilm ddatblygu sgiliau, cystadlu mewn cystadlaethau cenedlaethol, mynychu gweithdai gan arbenigwyr y diwydiant a rhannu diwylliant.

Dyfarnwyd y Gwobrau Rhagoriaeth Darlledu, a gyflwynwyd gan y Rhwydwaith Teledu Myfyrwyr i bobl ifanc Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd am eu gwaith ar Butetown Buzz, sioe newyddion a gyd-grëwyd gyda phobl ifanc lle maen nhw'n ysgrifennu sgriptiau amdani, ei ffilmio, yn gohebu ac yn golygu.

Mae'r gwobrau'n dathlu cyflawniad eithriadol mewn rhaglenni teledu a gynhyrchir gan fyfyrwyr, gan gydnabod creadigrwydd, arloesedd a sgiliau technegol ar draws gwahanol gategorïau, gan gynnwys newyddion, chwaraeon, adloniant a rhaglenni dogfen. Mae'r enillwyr yn arddangos y genhedlaeth nesaf o dalent yn y cyfryngau ac yn ysbrydoli rhagoriaeth mewn darlledu.

Tra yn California, cafodd y grŵp eu lletya gan deuluoedd Americanaidd, mynychodd yr ysgol, ymddangosodd ar sioe deledu ddyddiol a arweinir gan berson ifanc a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol gan gynnwys teithiau i Disneyland a Lego Land.

Darllenwch fwy yma