Back
Y newyddion gennym ni - 28/04/25

Image

23/04/25 - Cyllid newydd ar gael i feithrin cydlyniant cymunedol

Mae Cyngor Caerdydd unwaith eto'n gwahodd ceisiadau gan grwpiau cymunedol cyfansoddiadol a sefydliadau'r trydydd sector ledled y ddinas am gyllid grant sydd ar gael i helpu i adeiladu cymunedau cryf a chydlynol.

Darllenwch fwy yma

 

Image

22/04/25 - Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn helpu i ddatblygu technoleg drochi i gefnogi pobl yn eu harddegau sydd â gorbryder

Mae pobl ifanc o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi cynorthwyo'r gwaith o ddatblygu therapi realiti estynedig i helpu i fynd i'r afael â gorbryder ymhlith pobl ifanc.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/04/25 - Estyn yn canmol Ysgol Gynradd Lansdowne

Canfuwyd bod Ysgol Gynradd Lansdowne yn Nhreganna yn darparu amgylchedd meithringar a chynhwysol lle mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/04/25 - Lansio gofod digidol newydd gyda diwrnod o hwyl am ddim i'r teulu

Bydd gofod cymunedol newydd, sydd wedi'i gynllunio i gefnogi'r gwaith o ddatblygu sgiliau digidol ac ymgysylltu â'r gymuned, yn cael ei lansio'r wythnos nesaf.

Darllenwch fwy yma

 

Image

11/04/25 - Gwaith i ddiogelu ac adnewyddu adeiladau hanesyddol ar Ynys Echni yn dechrau

Mae gwaith i amddiffyn ac adnewyddu gorsaf y corn niwl hanesyddol Ynys Echni a'r ysbyty colera Fictoraidd ar y gweill.

Darllenwch fwy yma

 

Image

09/04/25 - Disgyblion o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul yn torri record y byd am lanhau afon

Mae disgyblion o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul yn Grangetown wedi creu hanes trwy helpu i dorri Record Byd Guinness am y nifer fwyaf o bobl yn cymryd rhan mewn ymgyrch glanhau afon.

Darllenwch fwy yma

 

Image

07/04/25 - Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer prosiect diogelu ac adfer coetir yng ngogledd Caerdydd

Mae prosiect cadwraeth newydd sydd â'r nod o ddiogelu ac adfer coetir yng Ngogledd Caerdydd a ddifrodwyd gan lwybrau anawdurdodedig wedi sicrhau £346,000 o gyllid.

Darllenwch fwy yma