Mae'r tîm eisoes yn rhedeg menter ymgysylltu lwyddiannus iawn i drigolion ifanc gyda'r RhaglenLlysgenhadon Democratiaeth ar gyfer ysgolion Caerdydd, sy'n cynnwys ymweliadau â Neuadd y Sir a'r Senedd yn ogystal â gweithdai mewn ysgolion.
Mae'r gwasanaeth bellach yn ceisio sicrhau cymorth pobl hŷn a all gefnogi eraill i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, trwy adrodd eu straeon ysbrydoledig eu hunain y gellir eu rhannu gyda chenedlaethau iau trwy weithdai neu wasanaethau ysgolion. Bydd y straeon hyn yn helpu pobl ifanc i ddeall pwysigrwydd ein democratiaeth a'u rôl ynddi, gan sicrhau bod hawliau pawb yn cael eu cynnal.
Bydd hyrwyddwyr hefyd yn cefnogi trigolion hŷn i gofrestru i bleidleisio a'u helpu i gymryd rhan mewn etholiadau.
Dywedodd Paul Orders, Swyddog Canlyniadau Caerdydd: “Rydyn ni’n awyddus i glywed gan unigolion sydd wedi profi eiliadau tyngedfennol mewn hanes, yn enwedig pan ddeddfwyd cyfreithiau sylweddol a effeithiodd yn fawr ar eu bywydau. Rydyn ni’n gwahodd y bobl hynny i rannu eu straeon a'u profiadau i ysbrydoli eraill am bwysigrwydd cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, ac un o'r pethau pwysicaf y gall unrhyw un ei wneud yn hynny o beth yw cofrestru i bleidleisio a sicrhau eu bod yn arfer eu hawl i bleidleisio.
“Rydyn ni’n chwilio am bobl sy'n angerddol am y pethau hyn ac sy'n barod i fod yn rhan o gynnal digwyddiadau, fel boreau coffi a gweithgareddau gyda dinasyddion hŷn i drafod hawliau pleidleisio, mynediad at bleidleisio, a ffyrdd y gallwn ni wella'r broses bleidleisio yng Nghaerdydd i sicrhau ei bod yn hygyrch i bawb.”
Os oes gennych chi, neu unrhyw un rydych yn ei
adnabod, ddiddordeb mewn dod yn Hyrwyddwr Cofrestru yng Nghaerdydd, llenwch y
ffurflen yma CynllunHyrwyddwyr Cofrestru – Gwasanaethau Etholiadol Cyngor Caerdydd i fynegi eich diddordeb.