Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
Goroeswr yr Holocost yn derbyn Gwobr Heddwch gan Gaerdydd ar 80 mlwyddiant Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop
Mewn arwydd emosiynol a symbolaidd o ewyllys da, mae Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Helen Lloyd Jones, wedi dyfarnu Gwobr Heddwch Bersonol i Eva Clarke, goroeswr yr Holocost a gafodd ei geni yn ystod dyddiau olaf yr Ail Ryfel Byd.
Mae'r gydnabyddiaeth arbennig hon, a roddwyd ar 80 mlwyddiant Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, yn tanlinellu taith ryfeddol Eva Clarke, a aned yng ngwersyll-garchar Mauthausen, Awstria, ar 29 Ebrill, 1945, ychydig ddyddiau cyn i'r rhyfel ddod i ben ar 8 Mai, 1945.
Gwyrth oedd goroesiad Eva Clarke. Cafodd siambrau nwy'r gwersyll eu dinistrio ar 28 Ebrill, 1945, ac agorodd yr Americanwyr Mauthausen ychydig ddyddiau ar ôl genedigaeth Eva. Yn drasig, roedd y rhan fwyaf o'i theulu wedi cael eu llofruddio yn Auschwitz-Birkenau, gan gynnwys tri o'i neiniau a theidiau, ei thad, ewythrod, modrybedd, a'i chefnder 7 oed, Peter. Eva a'i mam oedd yr unig oroeswyr o'u teulu.
Trwy gydol ei hoes, mae Eva wedi gweithio'n ddiflino gydag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost i godi ymwybyddiaeth o erchyllterau'r Holocost a chondemnio hil-laddiadau ble bynnag maen nhw'n digwydd. Cymerodd ran yn Niwrnod Cofio'r Holocost eleni yng Nghaerdydd ac mae ei hymroddiad i rannu profiadau ei theulu wedi bod yn amhrisiadwy i sicrhau na chaiff erchyllterau'r gorffennol byth eu hanghofio a bod cenedlaethau'r dyfodol yn dysgu pwysigrwydd goddefgarwch, dealltwriaeth a hawliau dynol.
Cyngor teithio ar gyfer Bristol Bears yn erbyn Caerfaddon ddydd Sadwrn 10 Mai yng Nghaerdydd
Bydd y Bristol Bears yn wynebu Caerfaddon ddydd Sadwrn yma ar gyfer y Diwrnod Mawr Allan yn Stadiwm Principality.
Gyda'r gic gyntaf am 3.05pm - bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau o 11am tan 7pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu cyrraedd a gadael y stadiwm yn ddiogel.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y gêm rygbi, felly cynlluniwch ymlaen llaw i osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd trwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn y maes parcio ger Arena Vindico ar Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon - CF11 0JS.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a'r cefnffyrdd, ewch iwefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Bydd y gatiau'n agor am 1pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig ynprincipalitystadium.wales, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Dirwy dros £10,000 i siop fêps am werthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon a throseddau Iechyd a Diogelwch
Mae perchennog a chyfarwyddwr Best One Vape ar Stryd Clifton yng Nghaerdydd wedi cael gorchymyn i dalu dros £10,000 am nifer o droseddau iechyd a diogelwch yn ogystal â gwerthu tybaco ffug a fêps anghyfreithlon.
Ymddangosodd Sirwan Nuri Kadri, 37, o Stryd Clifton Caerdydd yn Llys Ynadon Casnewydd ar 29 Ebrill i gael ei ddedfrydu am bum trosedd tybaco ac e-sigaréts anghyfreithlon a dwy drosedd iechyd a diogelwch yn ymwneud â gwifrau trydanol byw a ddarganfuwyd yn ymwthio allan o waliau yng nghefn ei fusnes.
Cyn y gwrandawiad ddydd Mawrth diwethaf (29 Ebrill), plediodd perchennog a chyfarwyddwr y busnes, Mr Kadri, yn euog i droseddau tybaco ac e-sigaréts anghyfreithlon mewn gwrandawiad blaenorol ar 23 Ionawr 2025. Mae'r troseddau iechyd a diogelwch a ddaeth ger bron y llys Ddydd Mawrth diwethaf yn ymwneud ag oergell ansefydlog yn y busnes, gydag adroddiadau am nifer o wifrau trydanol byw ac agored yng nghefn yr eiddo yn achosi bygythiad uniongyrchol i fywyd.
Cyhoeddwyd Hysbysiad Gwella gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir cyn gynted ag y darganfuwyd y gwifrau trydanol byw a gwnaethpwyd yn glir bod yn rhaid i'r materion gael eu datrys gan berson cymwys, tra'n ei gwneud yn glir y gellid cyflwyno Hysbysiad Gwahardd ar yr eiddo pe na chai'r gwaith ei wneud.
36,000 yn rhagor o goed yn tyfu yng nghoedwig drefol Caerdydd
Mae prosiect coedwig drefol a ddatblygwyd gan Gyngor Caerdydd fel rhan o'i ymateb ‘Caerdydd Un Blaned' i newid hinsawdd wedi plannu 36,526 o goed newydd yn ystod y 7 mis diwethaf.
Mae plannu'r tymor hwn, a oedd yn cynnwys 280 o goed lled-aeddfed newydd ar strydoedd Caerdydd a 1,144 o goed lled-aeddfed eraill mewn mannau gwyrdd o amgylch y ddinas, yn golygu bod mwy na 118,500 o goed wedi cael eu plannu ers i brosiect Coed Caerdydd ddechrau ddiwedd 2021.
Roedd Derw, Cerddin, Drain Gwynion, Gwern, Ffawydd a rhywogaethau brodorol eraill ymhlith y coed a blannwyd fwyaf eleni, ond gwnaeth y prosiect hefyd ailgyflwyno coed afal prin ‘Gabalva' i'r ddinas am y tro cyntaf ers tua 100 mlynedd.