Back
Y Diweddariad: 13 Mai 2025

Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Cyhoeddi dyddiadau Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2025
  • Strategaeth Perygl Llifogydd Lleol newydd i'w mabwysiadu gan Gyngor Caerdydd
  • Ysgol Gynradd Windsor Clive ar restr fer gwobrau mawreddog Tes 2025
  • Darpariaeth Feithrin Newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd

 

Cyhoeddi dyddiadau Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2025

Bydd cerddoriaeth a pherfformiadau sy'n gwthio ffiniau yn llenwi safleoedd, clybiau a lleoliadau dros dro yng Nghaerdydd am bythefnos yr hydref hwn wrth i Ŵyl Ddinas Gerdd Caerdydd lunio trac sain i'r ddinas am yr ail flwyddyn.

Bydd yr ŵyl arloesol yn cael ei chynnal o Ddydd Gwener 3 Hydref tan Ddydd Sadwrn 18 Hydref 2025, gan ddod â cherddorion, hyrwyddwyr ac arbenigwyr technoleg ymgolli oll ynghyd o bell ac agos i greu cydweithrediadau unigryw a digwyddiadau untro na ddylid eu colli.

Bydd artistiaid sefydledig, arwyr tanddaearol a sêr o Gymru yn llenwi rhaglen chwalu ffiniau rhwng genres cerddoriaeth, rhaglen sydd wedi'i chynllunio i gyffroi cynulleidfaoedd law yn llaw â seinweddau dinesig fydd wedi eu comisiynu yn arbennig, sgyrsiau ysbrydoledig, a sesiynau diwydiant.

Gyda chefnogaeth Cyngor Caerdydd, bydd yr ŵyl yn cynnwys cyfres o berfformiadau unigryw, gigs a digwyddiadau annisgwyl yng nghanol prifddinas Cymru a hynny dros bymtheg diwrnod fydd yn llawn cerddoriaeth.

Bydd yn cwmpasu'r arddangosfa gerddoriaeth newydd sef gŵyl Sŵn, penwythnos celfyddydau rhyngwladol Canolfan Mileniwm Cymru, gŵyl Llais, a'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig fawreddog sy'n dathlu'r gerddoriaeth orau a wnaed yng Nghymru neu gan Gymry ledled y byd. Mae rhaglen yr ŵyl yn 2025 yn addo adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl gyntaf y llynedd gan barhau i wthio ffiniau arloesi mewn cerddoriaeth, perfformio a thechnoleg.

Darllenwch fwy yma

 

Strategaeth Perygl Llifogydd Lleol newydd i'w mabwysiadu gan Gyngor Caerdydd

Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd fabwysiadu Strategaeth Perygl Llifogydd newydd sy'n ceisio lliniaru a rheoli'r risg uwch o lifogydd oherwydd newid hinsawdd.

Gyda digwyddiadau tywydd eithafol yn dod yn fwy aml a dwys, mae'r perygl o lifogydd wedi cynyddu, sy'n gofyn am fesurau effeithiol i amddiffyn diogelwch y cyhoedd ac eiddo.

Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod 245,000 o eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd gan afonydd, y môr a dŵr wyneb, gyda 400 o eiddo ychwanegol o bosibl yn cael eu heffeithio gan erydu arfordirol.

Mae'r cyfrifoldeb am reoli achosion o lifogydd yng Nghaerdydd yn cael ei rannu rhwng tair asiantaeth: Cyngor Caerdydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Dŵr Cymru, yn dibynnu ar ffynhonnell y llifogydd.

Mae Cyngor Caerdydd yn ymdrin â chyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb, dŵr daear, a llifogydd ar briffyrdd.

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am brif afonydd, llifogydd arfordirol, a chronfeydd dŵr, tra bod Dŵr Cymru yn rheoli dŵr brwnt, dŵr wyneb a charthffosydd cyfunol.

Mae'r strategaeth newydd yn canolbwyntio ar amcanion, mesurau a chynlluniau gweithredu clir i sicrhau ymateb effeithiol i unrhyw achos o lifogydd yng Nghaerdydd.

Mae'r amcanion yn cyd-fynd â'r rhai a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ac yn amlinellu uchelgeisiau, targedau a chanlyniadau ar gyfer rheoli perygl llifogydd.

Darllenwch fwy yma

 

Ysgol Gynradd Windsor Clive ar restr fer gwobrau mawreddog Tes 2025

Mae Ysgol Gynradd Windsor Clive yn Nhrelái yn falch o gyhoeddi ei bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Ysgolion Tes 2025 - dathliad cenedlaethol sy'n cael ei adnabod fel 'Oscars y byd addysg'.

Mae'r ysgol wedi cael ei chydnabod yng nghategori Menter Iechyd Meddwl Disgyblion y Flwyddyn, gan sefyll allan am ei hymrwymiad rhagorol i gefnogi lles myfyrwyr.

Ysgol Gynradd Windsor Clive yw'r unig ysgol gynradd yng Nghymru i gyrraedd y rhestr fer mewn unrhyw gategori, sy'n gyflawniad sylweddol i'r ysgol, ei disgyblion, a'r gymuned ehangach.

Mae Gwobrau Ysgolion Tes yn anrhydeddu'r unigolion a'r sefydliadau mwyaf ysbrydoledig o bob rhan o sectorau gwladol ac annibynnol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys addysg y blynyddoedd cynnar, addysg gynradd ac addysg uwchradd.

Eleni, adolygodd panel arbenigol o arweinwyr addysg geisiadau ar draws 22 categori, gan gynnwys gwobr newydd ar gyfer 'Ymddiriedolaeth Gynhwysol y Flwyddyn'. Bydd 'Gwobr Cyflawniad Oes' arbennig hefyd yn cael ei datgelu yn ystod y noson wobrwyo.

Darllenwch fwy yma

 

Darpariaeth Feithrin Newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd

Bydd Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd yn yr Eglwys Newydd yn cynnal cyfleuster gofal plant pwrpasol newydd cyn bo hir, gan ddarparu 32 lle a ddarperir gan Gylch Meithrin yr Eglwys Newydd.

Mae'r prosiect gwerth £1m wedi sefydlu lleoliad dysgu modern i blant rhwng dwy a phedair oed gan gynnwys meithrinfa fodiwlaidd gyda chegin ryngweithiol a thoiledau sy'n briodol i'w hoedran. Mae wedi ei ariannu drwy Raglen Gyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru ac fe'i hadeiladwyd gan Wernick, y contractwyr a ddewiswyd i gyflawni'r cynllun.

Yn agor ym mis Ebrill, mae'r ddarpariaeth newydd yn cyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) Caerdydd, drwy ddarparu lleoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg ar safleoedd ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.

Bydd Cylch Meithrin yr Eglwys Newydd yn darparu lleoedd gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru, rhai Dechrau'n Deg a rhai y Cynnig Gofal Plant, ynghyd â lleoedd sy'n talu ffioedd. Bydd lleoedd wedi'u hariannu a lleoedd sy'n talu ffioedd ar gael i blant oedran cyn-ysgol yn ogystal â darpariaeth lapio i blant sy'n mynychu addysg feithrin Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd.

Fel rhan o'r Budd-daliadau Lles Cymunedol, a elwid gynt yn Werth Cymdeithasol, mae Wernick yn darparu llu o adnoddau i'w defnyddio yn y ddarpariaeth gan gynnwys offer chwarae dan do ac awyr agored.

Darllenwch fwy yma