Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
Trawsnewidiad Trem y Môr yn cyrraedd uchelfannau newydd
Mae Cyngor Caerdydd a'r datblygwyr partner Wates Residential heddiw wedi dathlu gosod y garreg gopa ar floc newydd o fflatiau Byw'n Annibynnol, sy'n rhan o waith adfywio ystâd Trem y Môr yn Grangetown.
Mae'r pwynt uchaf yn y gwaith o adeiladu Bloc B, a fydd yn darparu 24 o gartrefi cyngor ynni-effeithlon iawn i bobl hŷn, bellach wedi'i gyrraedd ac mae disgwyl i'r fflatiau fod yn barod ar gyfer preswylwyr y flwyddyn nesaf.
Yn chwe llawr o uchder, mae Bloc B yn un o ddau floc sy'n cael eu codi, gyda chefnogaeth Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yng Ngham 1 ailddatblygiad ehangach Trem y Môr. Bydd y blociau yn darparu 126 o fflatiau cyngor hygyrch ac addasadwy i bobl hŷn yn lle'r bloc tŵr presennol ar yr ystâd. Disgwylir cwblhau Bloc A, a fydd yn cynnwys 102 o fflatiau Byw yn y Gymuned, cyfleusterau cymunedol helaeth, teras ar y to a chaffi, yn 2027.
Yn ymuno â'r Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, yn y digwyddiad heddiw i osod y garreg copa oedd Edward Rees, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru, Wates Residential.
Gwaith Priffordd Hanfodol yn y Tyllgoed i Ailosod Cwlfer
Bydd cwlfer 70 oed o dan Heol Sain Ffagan yn y Tyllgoed yn cael ei ailosod yr haf hwn er mwyn sicrhau bod y dŵr o'r nant, sy'n llifo ochr yn ochr â Heol y Tyllgoed, yn gallu llifo'n rhwydd o dan y gerbytffordd.
Yna mae'r dŵr o'r nant yn llifo trwy dir preifat ger tafarn y Tyllgoed, i'r de ar hyd Lôn Cartwright cyn cael ei ryddhau i Afon Elái.
Er mwyn sicrhau y gellir ailosod y cwlfer rhwng mis Gorffennaf a mis Medi eleni, bydd lonydd yn cael eu cau ddydd Mercher (11 Mehefin) ar Heol Sain Ffagan rhwng Lôn Cartwright a Heol y Tyllgoed am bum wythnos fel y gellir dargyfeirio cyfleustodau.
Pan fydd y cyfleustodau wedi'u dargyfeirio, bydd Heol Sain Ffagan ar y gyffordd â Lôn Cartwright yn cau rhwng 25 Gorffennaf a 2 Medi er mwyn gallu ailosod y cwlfer.
Cymuned sglefrio Caerdydd yn dathlu agoriad parc sglefrio newydd 'East Side'
Mae cymuned sglefrio Caerdydd yn dathlu agor parc sglefrio 1,000m newydd2.
Dyluniwyd parc sglefrio 'East Side', drws nesaf i Ganolfan Hamdden y Dwyrain yn Llanrhymni, gan yr ymgynghorwyr ardderchog VDZ+A a Newline Skateparks mewn ymgynghoriad â'r gymuned sglefrfyrddio leol ac mae'n cynnwys cyfres o rampiau, cluniau, cyrbiau, lleiniau a rheiliau yn ogystal â pibell chwarter.
Wedi'i gynllunio i fod yn addas ar gyfer sglefrwyr o bob oedran a gallu, mae'r cyfleuster newydd wedi'i adeiladu o goncrid, gan ddarparu cyfleuster o safon uwch, sy'n cymryd llai o gynnal a chadw ac yn llai swnllyd na'r hen barc sglefrio ffrâm bren y mae'n ei ddisodli.
Mae strategaeth sglefrfyrddio y Cyngor yn nodi fframwaith ar gyfer ymgorffori mannau sglefrio mewn parciau a'r tir cyhoeddus ehangach yn ogystal â datblygu, yn amodol ar gyllid, tri pharc sglefrio newydd arall, sy'n gwasanaethu canol, gogledd a gorllewin Caerdydd.
Cyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau dyfodol disglair i addysg gerdd yng Nghaerdydd a'r Fro
Mae Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro yn croesawu'n gynnes gyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd yn parhau i ariannu'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol dros y tair blynedd nesaf. Mae'r cymorth hanfodol hwn yn sicrhau y gellir parhau i gyflawni'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth (CCAC) ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Fel y sefydliad arweiniol ar gyfer cyflwyno CCAC yn y rhanbarth, mae Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro wedi defnyddio'r grant cysylltiedig i ailsefydlu ac ehangu ei gyrhaeddiad yn dilyn heriau'r pandemig. Mae'r cyllid wedi galluogi'r gwasanaeth i gryfhau perthynas ag ysgolion, datblygu partneriaethau newydd a chynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy'n ymwneud ag addysg gerdd yn sylweddol.
Ers lansio'r rhaglen Profiadau Cyntaf ym mis Ionawr 2022, mae dros 18,500 o blant ar draws 150 o ysgolion cynradd a lleoliadau wedi elwa o ystod eang o gyfleoedd cerddorol. Mae prosiectau targedig wedi cyflwyno disgyblion i offerynnau a genres nad ydynt wedi bod mor boblogaidd yn hanesyddol, gan gynnwys cyfansoddi digidol gan ddefnyddio GarageBand, llinynnau, telynau, chwythbrennau a thrombôn.