Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
Cyngor teithio ar gyfer Cyngerdd Stevie Wonder yn Blackweir Live yng Nghaerdydd
Bydd Stevie Wonder yn perfformio yng Nghaeau'r Gored Ddu nos Fercher yma, 9 Gorffennaf. Er mwyn sicrhau bod pawb sy'n mynd i'r cyngerdd yn gallu mynd i mewn ac allan o'r lleoliad yn ddiogel, bydd ffyrdd ar gau yng nghanol dinas Caerdydd o 4pm tan hanner nos.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 a rhwydwaith y priffyrdd yng Nghaerdydd fod yn brysur iawn ar gyfer y cyngerdd hwn - felly cynlluniwch ymlaen llaw.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a'r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Cynghorir yn gryf i unrhyw un sy'n mynd i'r cyngerdd hwn gynllunio ei daith o flaen llaw a chyrraedd Caerdydd yn gynnar.
Mae atebion i rai cwestiynau cyffredin am gyngherddau Blackweir Live ar gael yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/35607.html
Cyhoeddi Cynllun Adfywio Porth y Dwyrain
Mae cynlluniau i ddatblygu uwchgynllun newydd i adfywio porth dwyreiniol y ddinas wedi'u datgelu.
Mae Cyngor Caerdydd wedi prynu'r safle 54.48 erw yn Lawnt Pengam yn Nhremorfa oddi wrth Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, ac mae'n paratoi i greu uwchgynllun cynhwysfawr ar gyfer y lleoliad strategol bwysig hwn. Bydd y cynllun yn cynnwys cyfleoedd preswyl, masnachol a seilwaith posibl, ochr yn ochr ag amddiffyniadau amgylcheddol a chysylltedd trafnidiaeth gwell.
Mae'r safle yn cynnig cyfle sylweddol i drawsnewid porth allweddol i Fae Caerdydd a de canol y ddinas, gan wella cysylltedd, hybu teithio llesol, a chefnogi twf economaidd ac adnewyddu amgylcheddol.
Uchelgeisiau sero-net wrth wraidd y weledigaeth ar gyfer Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi diweddariad cynhwysfawr ar ddyfodol y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol (PChRh).
Mae'r adroddiad yn amlinellu camau nesaf strategaeth adfywio gynaliadwy a fydd yn trawsnewid y PChRh yn gyrchfan fywiog, carbon isel ar gyfer chwaraeon, hamdden a byw, gan ddarparu cartrefi ecogyfeillgar newydd, seilwaith ynni gwyrdd, ac amwynderau cyhoeddus gwell.
Mae'r adroddiad, a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn ddiweddarach y mis hwn, yn nodi rhagor o fanylion am y cynllun aml-gam ar gyfer yr ardal.