28/01/21 - Cartref Cŵn Caerdydd yn taro'r post
Nid oes neb yn caru cŵn yn fwy na'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd, felly pan glywon nhw fod pobl yn cael eu cynghori mewn rhai grwpiau cyfryngau cymdeithasol, i anwybyddu eu rhwymedigaeth gyfreithiol i gysylltu â nhw os yn dod o hyd i gŵn strae, am resymau anwir, roeddent am unioni'r camargraff yn syth.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25744.html
28/01/21 - Yma i'ch helpu gyda'ch pryderon ariannol
Mae Cyngor Caerdydd yn annog trigolion ar draws y ddinas sy'n cael trafferth ariannol oherwydd y pandemig i gysylltu cyn gynted â phosibl i gael help.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25737.html
26/01/21 - Ail-osod torchau pabi wrth Gofeb Ryfel Gerddi Alexandra
Gosodwyd torchau newydd yng Ngerddi Alexandra i anrhydeddu Pobl Dduon a Phobl o Leiafrifoedd Ethnig oedd yn aelodau o'r Lluoedd Arfog, a'r bobl hynny a wasanaethodd ac a fu farw yn Rhyfel y Falklands.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25713.html
25/01/21 - Deg o bethau y mae angen i chi eu gwybod am y newidiadau i ddyddiad casglu gwastraff ac ailgylchu
Rydyn ni'n newid ein diwrnodau casglu gwastraff ac ailgylchu i gynnig gwasanaeth gwell sy'n fwy effeithlon a chost-effeithiol yn yr hirdymor.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25708.html
25/01/21 - Newid i ddiwrnod casglu gwastraff 75% o gartrefi o 22 Chwefror
Bydd gan Gaerdydd strydoedd glanach yn sgil cynlluniau newydd i newid y ffordd y mae gwastraff a deunyddiau ailgylchadwy yn cael eu casglu yn y ddinas.
Darllenwch fwy yma: