Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 19 Chwefror

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Gaerdydd: cynigion cyllideb ôl-bandemig wedi'u cynllunio; cynigion diwygiedig ar gyfer ailadeiladu Ysgol Uwchradd Willows; ystyried cynlluniau i brynu hostel yn y ddinas; ymateb i 'Strategaeth Drafnidiaeth Cymru'; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Cynigion cyllideb ôl-bandemig wedi'u cynllunio i 'roi hwb' i Gaerdydd a diogelu gwasanaethau hanfodol

Bydd cyllideb adfer ôl-bandemig gwerth miliynau o bunnoedd, i Gaerdydd - wedi ei llunio i helpu i greu swyddi newydd, darparu cartrefi cyngor newydd, adeiladu ysgolion gwell a diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol - yn mynd gerbron cyngor llawn y ddinas i'w chymeradwyo ym mis Mawrth.

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyflwyno cynigion a fyddai'n golygu gwario miliynau yn helpu i roi'r ddinas ar ei thraed eto wrth iddi geisio adfer wedi effeithiau'r pandemig.

Mae'r cynigion yn rhan o adroddiad cyllideb 2021/22 a gaiff ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo ddydd Iau, 25 Chwefror. Ar ôl cytuno arno, bydd y Cyngor Llawn yn pleidleisio ar y gyllideb mewn cyfarfod ar 4 Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:  "Hwn fydd un o'r cyllidebau pwysicaf y mae'r cyngor hwn wedi ei phennu. Mae COVID-19 wedi effeithio arnom i gyd a bydd yn effeithio ar ein dyfodol am flynyddoedd lawer i ddod. Wedi dweud hynny, mae ein dinas wedi gwneud gwaith hynod, yn tynnu at ei gilydd, i geisio atal lledaeniad y feirws. Ar hyn o bryd rydym yn brwydro'r ail don, ond mae gobaith ar y gorwel wrth i'r rhaglen frechu barhau i gael ei chyflwyno. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn edrych tua'r dyfodol, gan gynllunio sut rydym yn gwella wedi'r pandemig a sut rydym yn paratoi ein dinas ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, y Cyngh. Chris Weaver: "Bu gan y cyngor hwn uchelgeisiau sylweddol i'n dinas erioed. Rydym bob amser wedi bod eisiau'r gorau i'n trigolion ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod Caerdydd yn gwella'n gyflym o effeithiau'r pandemig.  

"Bydd hyn yn golygu dwyn ynghyd a chefnogi ystod eang o fesurau a gynlluniwyd i helpu i adnewyddu Caerdydd, gan greu tirwedd economaidd lle gellir creu swyddi wrth i ni adfer ar ôl y flwyddyn hynod anodd hon. Rydym yn credu bod ein cynigion cyllidebol yn creu llwybr clir allan o'r pandemig, a all fod o fudd i bawb sy'n byw yma."

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25893.html

 

Cynigion diwygiedig ar gyfer ailadeiladu Ysgol Uwchradd Willows

Bydd adroddiad sy'n argymell bod cynlluniau'n cael eu symud ymlaen i leoli ac ailadeiladu Ysgol Uwchradd Willows newydd yn mynd i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau, 25 Chwefror.

Mae'r adroddiad yn amlinellu cynigion a allai weld yr ysgol newidyn cael ei hadleoli i Heol Lewis, Sblot.

Mae hefyd yn gofyn y bydd digwyddiad cyhoeddus anstatudol ar adleoli'r ysgol yn digwydd yn y Gwanwyn, gan roi cyfle i aelodau'r cyhoedd ddysgu mwy am y cynigion ar gyfer y cynllun.

Ym mis Rhagfyr 2017, cymeradwyodd y Cabinet gynlluniau i fynd i'r afael â'r ysgolion hynny sydd mewn cyflwr gwael. Nodwyd bod Ysgol Uwchradd Willows yn ysgol categori ‘D', sy'n golygu ei bod yn agos at ddiwedd ei bywyd gweithredol gydag amgylcheddau dysgu ‘anaddas' a chafodd ei blaenoriaethu ar gyfer buddsoddiad.

Os caiff yr ysgol ei datblygu, byddai'r ysgol newydd yn cael ei darparu dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru abyddai'r cynigion yn cynnwys:

 

  • adeiladu ysgol newydd ar Heol Lewis, Sbloti wasanaethu ardaloedd Adamsdown, Sblot a Thremorfa
  • darparu mynediad at gyfleusterau chwaraeon lleol o ansawdd uchel
  • ysgol â ffocws cymunedol gyda chyfleusterau ar gael i'w defnyddio gan y gymuned gyfan y tu allan i oriau ysgol craidd
  • cyfleusterau gwell i gerddwyr i gefnogi trefniadau teithio llesol ar safle Heol Lewis
  • lle i 900 o ddysgwyr 11 i 16 oed, yn unol â'r galw a ragwelir
  • disgyblion i aros ar safle presennol Ysgol Uwchradd Willows nes y caiff adeiladau newydd yr ysgol eu cwblhau i leihau tarfu posibl.

 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25896.html

 

Ystyried cynlluniau i brynu hostel yn y ddinas

Bydd ymagwedd 'Dim Mynd yn Ôl' Cyngor Caerdydd tuag at ddarparu gwasanaethau digartrefedd yn y ddinas yn cymryd cam arall ymlaen yr wythnos nesaf os cytunir ar gynlluniau i brynu cyfleuster newydd.

Yn ei gyfarfod nesaf Ddydd Iau, 25 Chwefror, bydd y Cabinet yn ystyried cynnig i brynu hostel yr YHA ar Stryd Tyndall Ddwyreiniol, llety y mae'r Cyngor wedi bod yn ei ddefnyddio ers y Gwanwyn diwethaf pan oedd angen mannau ychwanegol i gadw cleientiaid yn ddiogel yn ystod y pandemig.

Darparodd y cyfleuster 80 o'r 182 uned ychwanegol o lety â chymorth a sefydlwyd ar draws nifer o safleoedd i fynd i'r afael â digartrefedd yn ystod yr argyfwng iechyd, ac mae ei lety o ansawdd da a'i wasanaethau cymorth ar y safle wedi chwarae rhan annatod yn sicrhau newid gwirioneddol ym mywydau pobl sy'n agored i niwed.

Mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas bellach yn gyson isel - mewn ffigurau sengl dros y misoedd diwethaf, ac mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn ymgysylltu â gwasanaethau cymorth sy'n newid bywydau, megis cwnsela therapiwtig, cymorth iechyd meddwl a thriniaeth camddefnyddio sylweddau.

Bydd caffael yr hostel 80 gwely yn barhaol yn sicrhau parhad llety a chymorth i bobl ddigartref sengl, ac ynghyd â darpariaeth well arall a newidiadau i'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, byddant yn cefnogi gweledigaeth newydd y Cyngor ar gyfer gwasanaethau digartrefedd ymhellach.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25898.html

 

Ymateb Cyngor Caerdydd i 'Strategaeth Drafnidiaeth Cymru'

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried ymateb y Cyngor i Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn ei gyfarfod ar 25 Chwefror.

Mae'r Cyngor yn cefnogi'r weledigaeth, yr uchelgais a'r blaenoriaethau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru - ond gyda nifer o gafeatau - i sicrhau bod Caerdydd yn parhau i reoli ei Gynllun Trafnidiaeth Lleol ac yn cael digon o arian hirdymor i gyflawni'r gwelliannau trafnidiaeth sydd eu hangen ym Mhrifddinas Cymru.

Mae'r Cyngor wedi nodi gweledigaeth drafnidiaeth 10 mlynedd ar gyfer y ddinas ym mis Chwefror 2020, sydd wedi'i chydnabod fel enghraifft ledled y DU o arfer gorau, o ran cyflawni a datblygu. Mae'r Papur Gwyn yn nodi sut y bydd y cyngor yn mynd i'r afael ag allyriadau peryglus o drafnidiaeth sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd, lleihau tagfeydd, gwella trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol, a gwella ansawdd yr aer yn y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25898.html

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 19 Chwefror

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn,yn y ddwy ardal awdurdod lleol:120,629.

 

Grwpiau Blaenoriaeth 5-7

65-69: 6,797

Chyflwr Iechyd Sylfaenol: 4,562

60-64: 5,461

 

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (08 Chwefror - 14 Chwefror)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

18 Chwefror 2021, 09:00

 

Achosion: 380

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 103.6 (Cymru: 83.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,853

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,050.1

Cyfran bositif: 9.9% (Cymru: 7.9% cyfran bositif)