Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 29/11/21


26/11/21 - Diwrnod ym Mywyd Gwirfoddolwr - Rachael

Yn y cyfnod cyn Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr ddydd Sul 5 Rhagfyr, mae Parc Bute yn dathlu ei wirfoddolwyr, sydd wedi bod yn brysur yn gweithio'n galed i wneud parc canol dinas Caerdydd yn fwy diogel a glanach i drigolion ac ymwelwyr.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28098.html

 

26/11/21 - Yr Eglwys Norwyaidd yn dathlu Gŵyl Goleuni a Chyfeillgarwch

Ddydd Sul 5 Rhagfyr bydd yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd yn agor am ddiwrnod yn llawn hwyl yr ŵyl i ddathlu Nadolig yn arddull Norwy.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28096.html

 

26/11/21 - Cyngor Caerdydd yn pleidleisio i ddatgan argyfwng natur ledled y ddinas

Yng nghyfarfod Cyngor Llawn Caerdydd neithiwr, cafodd pleidleisiau eu bwrw a arweiniodd at ddatganiad o argyfwng natur yn y brifddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28094.html

 

25/11/21 - Creu Caerdydd fwy diogel: Diweddariad ynghylch diogelwch cymunedol y ddinas

Mae dull targedig o leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau troseddu - rhan o nifer o ymyriadau diogelwch cymunedol sy'n digwydd ledled y ddinas - yn talu ar ei ganfed.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28092.html

 

23/11/21 - Mwy o ysgolion yng Nghaerdydd yn ymuno ag ymgyrch Hawliau Plant, nag unman arall yng Nghymru: Diwrnod Plant Y Byd 2021

Mae'r nifer uchaf erioed o ysgolion wedi ymuno â Gwobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau (GYPH/RRSA) Pwyllgor UNICEF y DU, sy'n golygu mai gan Gaerdydd y mae'r cyfranogiad uchaf o ran yr Ymgyrch Hawliau Plant yng Nghymru.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28073.html

 

23/11/21 - Dadorchuddio cofeb ym Mynwent Cathays i ŵr o Gaerdydd a oroesodd y ‘Charge of the Light Brigade'

Dadorchuddiwyd cofeb arbennig ym Mynwent Cathays heddiw i anrhydeddu John Henry Harding o drydydd catrawd ar ddeg y Dragwniaid Ysgafn, a gymerodd ran yng Nghyrch y Frigâd Ysgafn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28070.html

 

23/11/21 - Barod, aros... iawn! Mae Coginio'n Iach yn ôl

Mae cystadleuaeth goginio, sy'n gosod cogyddion bwyd iach gorau Caerdydd yn erbyn ei gilydd, yn ôl.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28067.html

 

23/11/21 - Angen corff llywodraethu ar gyfer ysgol gynradd Newydd

Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio recriwtio corff llywodraethu ar gyfer ysgol gynradd newydd sbon i wasanaethu rhannau o ogledd-orllewin Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28064.html

 

22/11/21 - Christmas at Bute Park - Gwyriad beicffordd gyda'r Nos

Nodwch y bydd gwyriad llwybr beicio dros dro (mewn coch) ar waith rhwng 3pm a 7am o ddydd Iau 25 Tachwedd i ddydd Gwener 31 Rhagfyr.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28057.html