Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 23 Medi 2022

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cwmpasu: Caerdydd i ddod yn Lanach a Gwyrddach gyda strategaeth ailgylchu newydd; Cyngor i wella amddiffynfeydd llifogydd Caerdydd; a enwi ysgol gynradd newydd sbon Caerdydd a phenodi Pennaeth newydd

 

Caerdydd i ddod yn Lanach a Gwyrddach gyda strategaeth ailgylchu newydd

Gallai newidiadau i'r ffordd y mae trigolion Caerdydd yn ailgylchu eu gwastraff gael eu cyflwyno ar draws rhannau helaeth o'r ddinas mewn ymgais i wella cyfraddau ailgylchu a gweithredu ar newid yn yr hinsawdd.

Mae'r argyfwng hinsawdd yn achosi i ddinasoedd ar draws y byd newid faint o ynni ac adnoddau maen nhw'n eu defnyddio, felly yn ogystal â gwella faint rydyn ni i gyd yn ei ailgylchu, bydd y strategaeth newydd hefyd yn ceisio lleihau'r swm cyffredinol o wastraff rydyn ni i gyd yn ei gynhyrchu, ac ail-weithgynhyrchu ein deunyddiau wedi'u hailgylchu fel y gellir eu haddasu at ddibenion gwahanol a'u defnyddio eto.

Mae'r strategaeth ailgylchu newydd yn dilyn y 'glasbrint' a ddyluniwyd gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid sydd wedi gweld Cymru yn dod y drydedd genedl orau yn y byd o ran ailgylchu. Mae llawer o awdurdodau yng Nghymru eisoes wedi dechrau casgliadau ailgylchu ar wahân, gan weld lefelau uchel o gydymffurfiaeth ymysg y cyhoedd a gwell cyfraddau ailgylchu.

Yn gynharach eleni fe wnaeth tua 4,000 o gartrefi yn y ddinas gymryd rhan yn y peilot lle bu rhaid i ddinasyddion wahanu'r deunydd y gellir eu hailgylchu a'u gosod mewn cynwysyddion penodol i'w casglu. Poteli a jariau mewn un cynhwysydd, papur a chardbord mewn cynhwysydd arall, a phlastig a metel / tun mewn trydydd cynhwysydd.

Ac yn gynharach eleni fe wnaeth dros 3,000 o drigolion gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar sut y gellid newid casgliadau gwastraff i wella cyfraddau ailgylchu, gwella ansawdd yr ailgylchu, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau plastig untro, a helpu i wneud Caerdydd yn un o'r dinasoedd ailgylchu mwyaf blaenllaw yn y byd.

Mae dadansoddiad annibynnol diweddar gan WRAP o wastraff cyffredinol a gyflwynir i'w gasglu wrth ymyl y ffordd yng Nghaerdydd wedi dangos y gallai dros hanner cynnwys y bagiau a'r biniau gael ei gyflwyno i'w ailgylchu mewn gwirionedd.

Nawr, bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod Strategaeth Ailgylchu ar gyfer y ddinas hyd at 2025 yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 28 Medi,  sy'n argymell:

 

  • Cyflwyno'r cynllun peilot yn raddol i gartrefi mewn mwy o rannau o'r ddinas.

 

  • Llunio cynlluniau peilot pellach i ddatblygu ffyrdd o sicrhau bod pobl sy'n byw mewn blociau o fflatiau neu Dai Amlfeddiannaeth yn gallu ailgylchu'n well (tua 30% o gartrefi'r ddinas).

 

  • Cynyddu nifer yr eitemau y gellir eu cyflwyno wrth ymyl y ffordd ac mewn lleoliadau ailgylchu cymdogaethol, er mwyn helpu trigolion  i ailgylchu pethau fel batris; pecynnau (cartonau) Tetra; podiau coffi; tecstilau ac eitemau trydanol bach yn hawdd; a

 

  • Threialu dulliau i gyfyngu ar swm y gwastraff cyffredinol y gall aelwydydd ei gyflwyno i'w gasglu, gan gynnwys symud i gasgliad bob tair wythnos ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu mewn ardaloedd lle mae trigolion â biniau olwynion, a chyfyngiad o ddau fag bob pythefnos mewn ardaloedd lle mae gwastraff y cartref na ellir ei ailgylchu yn cael ei gasglu mewn bagiau. Bydd casgliadau ar wahân ar gyfer gwastraff hylendid (cewynnau plant a gwastraff anymataliaeth) yn parhau i fod ar waith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Caerdydd: "Er mwyn gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd mae angen i ni wneud newidiadau ar frys i sut mae'r ddinas yn defnyddio adnoddau. Mae gwella'r ffordd rydyn ni'n ailgylchu yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud ac mae'n un o'r ffyrdd hawsaf o wneud gwahaniaeth. Rydym hefyd yn credu y bydd y newidiadau hyn yn ein helpu i gadw ein dinas yn lân"

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29906.html

 

Cyngor i wella amddiffynfeydd llifogydd Caerdydd

Mae disgwyl i system amddiffyn rhag llifogydd sydd wedi'i chynllunio i amddiffyn eiddo yn ne-ddwyrain Caerdydd rhag cynnydd yn lefelau'r môr am y 100 mlynedd nesaf, gael ei chymeradwyo gan Gyngor Caerdydd.

Bydd gwaith adeiladu'r cynllun, y bydd 85% ohono'n cael ei dalu  gan Lywodraeth Cymru, a Chyngor Caerdydd yn cyfrannu'r 15% sy'n weddill, yn dechrau'n gynnar y flwyddyn nesaf, a'i gwblhau erbyn Awst 2025.

Pan fydd yn gyflawn, disgwylir iddo gynnwys:

 

  • Rhwystr creigiog ar hyd yr arfordir i reoli erydiad a llanw uchel
  • Pyst seiliau haenog ar hyd cylchfan Ffordd Lamby
  • Argloddiau pridd wedi'u cynnal, ac
  • Amddiffyniad creigiog i Bont Ffordd Lamby

 

Ac fe fydd:

 

  • Yn rheoli'r risg o lifogydd i 1,116 o eiddo preswyl a 72 eiddo di-breswyl, ynghyd â safle teithwyr Ffordd Rover
  • Darparu amddiffyniad yn erbyn digwyddiad tywydd garw unwaith-mewn-200 mlynedd, gan gynnwys caniatáu ar gyfer effeithiau newid hinsawdd
  • Ymhen 50 mlynedd (hanner oes y prif amddiffynfeydd) bydd arglawdd pridd ym Mharc Tredelerch yn cael ei gynyddu a bydd wal llifogydd yn cael ei chodi yng Ngerddi Windsor, ar gost y Cyngor, yr amcangyfrifir y bydd yn £3.15m pan gaiff ei adeiladu

 

Pan gynigiwyd y cynllun gyntaf ym mis Mehefin 2021, amcangyfrifwyd y byddai'r gost arfaethedig yn is na'r sefyllfa bresennol. Mae adroddiad sy'n mynd gerbron Cabinet y Cyngor ddydd Mercher nesaf, 28 Medi, yn egluro bod y cynnydd oherwydd bod angen amddiffynfeydd arfordirol mwy o faint a bod angen amddiffyn darnau hirach o Afon Rhymni a'r cynnydd yng nghost deunyddiau ar draws y byd ac agweddau cysylltiedig â'r gwaith.

Nod y cynllun yw cael cyn lleied o effaith â phosibl ar fywyd gwyllt ac mae'n cynnwys darparu llwybr cerdded newydd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru a chysylltu â hawliau tramwy cyhoeddus sy'n bod eisoes.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29913.html

 

Enwi ysgol gynradd newydd sbon Caerdydd a phenodi Pennaeth newydd

Ysgol Gynradd Groes-wen yw'r enw sydd wedi ei ddewis ar gyfer ysgol gynradd newydd sbon i wasanaethu rhannau o ogledd-orllewin Caerdydd.

Wedi'i leoli yn natblygiad Plasdŵr ar dir i'r de o Heol Llantrisant, mae 'Groes-wen' wedi ei enwair ôl pentrefan bach, a chroes wen a fodolai ar gyffordd Heol Llantrisant â Radur ac yn rhan o lwybr pererindod Pen-rhys.

Mae'r newyddion cyffrous yn dilyn y cyhoeddiad bod corff llywodraethu dros dro yr ysgol wedi penodi Richard Carbis yn bennaeth newydd ar yr ysgol. Yn Bennaeth profiadol ar ôl arwain Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Derwen, Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James ac Ysgol Pencae (ei swydd bresennol) yng Nghaerdydd, cafodd Richard ei secondio i wahanol rolau yn ystod ei yrfa yn cynnwys arweinydd strategol dros arweinyddiaeth, Swyddog Strategol y Gymraeg ac Arweinydd Systemau ar gyfer Consortiwm Canolbarth y De.

Mae'r gwaith adeiladu ar yr ysgol eisoes yn mynd rhagddo, ac unwaith y bydd wedi ei chwblhau bydd yn gwasanaethu camau cynnar datblygiad Plasdŵr yn ogystal â rhannau o Creigiau, Sain Ffagan, Radur, Pentre-poeth a'r Tyllgoed.

Bydd Ysgol Gynradd Gynradd Groes-wen yn cynnwys pensaernïaeth gyfoes ac amrywiaeth o fwynderau a fydd ar gael i'r cyhoedd, gan ddarparu cyfleoedd i ddod â thrigolion a theuluoedd newydd ynghyd gyda'r nod o fod yn ganolbwynt wrth galon y gymuned newydd.

Bydd yr ysgol dau ddosbarth mynediad yn cynnig cyfanswm o 420 o leoedd a dyma'r cyntaf o'i bath yng Nghaerdydd i gynnig ffrwd addysg iaith ddeuol. Mae hyn yn golygu y bydd un dosbarth mynediad yn cynnig addysg Gymraeg ac un dosbarth mynediad yn cynnig addysg Gymraeg a Saesneg ddeuol. Yn ogystal, bydd 96 o lefydd meithrin rhan-amser.

Bydd ceisiadau ar gyfer derbyn i ysgolion cynradd Caerdydd, gan gynnwys Ysgol Gynradd Groes-wen, yn agor ym mis Tachwedd 2022 ar gyfer mynediad i'r dosbarth derbyn a mis Ionawr 2023 ar gyfer y llefydd Meithrin. Bydd yr ysgol yn derbyn ei disgyblion cyntaf ym mis Medi 2023.   Bydd disgyblion ym Mlwyddyn ysgol 1 a 2 hefyd yn cael cyfle i wneud cais am le i'r ysgol o fis Ebrill 2023 i ddechrau o fis Medi 2023.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae enwi'r ysgol newydd a phenodi ei phennaeth yn gynnydd cadarnhaol o ran sefydlu'r ysgol newydd a chyffrous hon.

"Fel amrywiad arloesol ar yr ysgol gynradd draddodiadol, bydd Ysgol Gynradd Groes-wen yn cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous trwy gyflwyno'r model iaith ddeuol, tra'n darparu amgylchedd dysgu modern, llawn offer ac effeithlon.

"Hoffwn longyfarch Richard a fydd gyda chefnogaeth y corff llywodraethu'r ysgol, yn arwain yr ysgol wrth greu gweledigaeth gyffrous i'r dyfodol, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael yr addysg orau bosibl.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29890.html