Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 14 Gorffennaf 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Dadorchuddio Cerflun o Dorwyr Cod y Byd Rygbi; Mae 1.6 tunnell o bodiau coffi wedi cael eu hailgylchu yng Nghaerdydd ers mis Ebrill eleni; Ymgynghoriad Cymunedol Canolfan Hamdden Pentwyn; Swyddogaeth goleuadau stryd newydd ar yr ap Cardiff Gov.

 

Dadorchuddio Cerflun o Dorwyr Cod y Byd Rygbi

Bydd cerflun sy'n dathlu tri 'Thorrwr Cod y Byd Rygbi' chwedlonol o Gymru yn cael ei ddatgelu ym Mae Caerdydd yr wythnos nesaf.

Bydd y cerflun sy'n dathlu Billy Boston, Clive Sullivan, a Gus Risman yn cael ei godi mewn seremoni gyhoeddus yn Sgwâr Tir a Môr yng Nghei'r Fôr-Forwyn ddydd Mercher 19 Gorffennaf am 11am. Hwn fydd y cerflun cyntaf erioed yng Nghymru i gynnwys dynion du wedi'u henwi heb fod yn rhai ffuglen.

Cafodd y tri chwaraewr ar y cerflun eu magu o fewn radiws tair milltir o ardal Bae Caerdydd ac aethant ymlaen i fod yn rhai o arwyr chwaraeon mwyaf y wlad.

Wedi'i sefydlu yn 2020, cafodd y prosiect 'Un Tîm. Un Ddynoliaeth:  Anrhydeddu Torwyr Cod Byd Rygbi Bae Caerdydd ei ysbrydoli gan alwadau gan gymunedau Butetown a Bae Caerdydd ehangach am deyrnged briodol i'r chwaraewyr a wnaeth gymaint i wella cysylltiadau hiliol ledled Prydain. 

Fe wnaeth y gŵr busnes a'r dyngarwr, Syr Stanley Thomas OBE, ymgymryd â rôl cadeirydd y pwyllgor codi arian a rhoddodd hwb ariannol i ddechrau'r ymgyrch codi arian gyda rhodd bersonol sylweddol.

Dywedodd Syr Stanley Thomas OBE:

"Rwy'n falch iawn ein bod bellach yn agos at y pwynt lle bydd y cerflun yn cael ei ddatgelu i'r cyhoedd, a bydd yr arwyr chwaraeon gwych hyn o'r diwedd yn derbyn y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu, yn y ddinas lle cawsant eu magu."

Dewiswyd y tri chwaraewr oedd yn ymddangos ar y cerflun gan bleidlais gyhoeddus.  Mae pob un wedi cael ei anrhydeddu mewn rhyw ffurf mewn rhannau eraill o'r DU, ond y cerflun ym Mae Caerdydd, a grëwyd gan y cerflunydd Steve Winterburn, fydd y gydnabyddiaeth ffurfiol gyntaf o'r arwyr chwaraeon yn eu tref enedigol. 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:

"Daeth y chwaraewyr anhygoel hyn ag anrhydedd iddynt eu hunain, eu teuluoedd, y gêm, a'r cymunedau amlddiwylliannol balch lle cawsant eu magu.  Unwaith y bydd yn ei le, bydd y cerflun yn sicrhau bod eu straeon yn parhau fel ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd Cadeirydd y Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliannol, Gaynor Legall:

"Bydd gosod y cerflun yn golygu llawer i ni, rhywbeth sy'n edrych fel ni ac sydd amdanom ni a'n stori; sy'n rhannu'r balchder sydd ynom am yr unigolion hynny â gweddill Cymru.  Mae cael cerfluniau sy'n dathlu eu llwyddiannau yn rhywbeth i Gymru gyfan, nid Tiger Bay yn unig."

Darllenwch fwy yma

 

Mae 1.6 tunnell o bodiau coffi wedi cael eu hailgylchu yng Nghaerdydd ers mis Ebrill eleni

Mae 1.6 tunnell o bodiau coffi wedi cael eu hailgylchu o dros 2,600 o eiddo yng Nghaerdydd ers mis Ebrill eleni. 

Mae'r cynllun newydd yn caniatáu i aelwydydd gofrestru ar gyfer y cynllun gyda Podback, fel y gall y cyngor gasglu podiau coffi o gartrefi preswylwyr heb unrhyw gost i'r trethdalwr i barhau i gynyddu cyfradd ailgylchu'r ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid yn yr Hinsawdd: "Fel cyngor does gennym ni ddim pŵer na dylanwad dros y mathau o ddeunydd pacio a gwastraff sy'n cael eu cynhyrchu gan gwmnïau sy'n gwerthu cynhyrchion a deunyddiau.  Ein rôl ni yw ailgylchu cymaint ohono â phosibl, tra'n sicrhau bod unrhyw wastraff na ellir ei ailddefnyddio na'i ailgylchu'n cael ei drin a'i waredu'n ddiogel. Mae'r cynllun Podback yn enghraifft wych o 'gyfrifoldeb cynhyrchwr', lle mae'r gwneuthurwyr yn cymryd yr awenau i ailgylchu'r gwastraff y maent yn ei gynhyrchu.

"Mae unrhyw aelwydydd sy'n defnyddio'r peiriannau coffi hyn ond sydd heb gofrestru ar gyfer y cynllun eto yn cael eu hannog i wneud hynny, gan ei fod yn gyflym ac yn hawdd i'w wneud, ac mae'r cyngor yn awyddus i ehangu'r cynllun cymaint â phosibl.

"Mae'r cyngor yn parhau i weithio gyda gweithgynhyrchwyr gwastraff i geisio ailgylchu hyd yn oed mwy o gynhyrchion drwy wasanaeth ailgylchu ymyl y ffordd Caerdydd, fel y gallwn barhau i gynyddu cyfradd ailgylchu a chompostio'r ddinas a chyrraedd y targedau heriol sydd wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru."

Bydd podiau a gesglir drwy'r gwasanaeth newydd yn cael eu hailgylchu yn y DU, gyda phlastig ac alwminiwm yn cael eu defnyddio i wneud cynhyrchion newydd, gan gynnwys deunydd pecynnu a chydrannau ceir, a'r mâl coffi yn cael ei ddefnyddio i greu ynni adnewyddadwy a gwella pridd.

Darllenwch fwy yma

 

Ymgynghoriad Cymunedol Canolfan Hamdden Pentwyn

Bydd dwy sesiwn ‘galw heibio' cymunedol yn cael eu cynnal yr wythnos nesaf, yn cynnig cyfle i drigolion lleol weld a rhoi sylwadau ar gynlluniau i uwchraddio Canolfan Hamdden Pentwyn.

Bydd y sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn ddydd Mercher 19 Gorffennaf (10am-7pm) a Chanolfan Gymunedol y Pwerdy ddydd Iau 20 Gorffennaf (10am-6pm).

I'r rhai nad ydynt yn gallu mynychu sesiwn galw heibio, bydd dewis arall i roi sylwadau ar-lein yn cael ei hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd o 19 Gorffennaf ymlaen. Bydd yr adborth ar-lein yn parhau ar agor tan ddiwedd y mis.

Mae'r cynlluniau a ddatgelwyd yn ddiweddar ar gyfer y ganolfan yn cynnwys:

  • Pwll newydd 20m x 8m, wedi'i gynhesu gan bwmp gwres o'r ddaear.
  • Ffreutur newydd.
  • Campfa ffitrwydd newydd ar y llawr gwaelod.
  • Cae 3G maint llawn a chae bach newydd.
  • Cyfleuster newid i deuluoedd, wedi'i adnewyddu.
  • Neuadd a gofod allanol newydd y gellid eu prydlesu i drydydd partner - o bosib i greu ardal ar gyfer tennis padel ar y safle. 
  • Paneli solar ar y to.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae cyfleusterau hamdden lleol yn golygu llawer i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a bydd y sesiynau galw heibio hyn yn rhoi cyfle i'r gymuned wneud sylwadau ar ein cynlluniau i uwchraddio'r cyfleuster, cyn i'r dyluniad manwl gael ei gwblhau.

"Er gwaetha'r pwysau o ran costau sy'n cael eu teimlo drwy'r diwydiant adeiladu a biliau ynni cynyddol, mae'r Cyngor bob amser wedi bod yn ymrwymedig i'r prosiect. Bu'n rhaid ail-lunio ein cynlluniau cychwynnol yng ngoleuni'r ffactorau hynny, ond yn fwyaf pwysig, credwn ein bod wedi dod o hyd i ffordd ymlaen a fydd yn gweld Canolfan Hamdden Pentwyn yn elwa o adnewyddiad mawr.  Mae'r cynlluniau'n sicrhau y bydd nofio yn parhau i fod yn opsiwn yn y ganolfan o fewn model gweithredu mwy cynaliadwy a fforddiadwy."

 

Ar yr ochr olau: Swyddogaeth goleuadau stryd newydd ar yr ap Cardiff Gov

Gall trigolion sydd wedi lawrlwytho'r ap Cardiff Gov ar eu dyfeisiau symudol nawr roi gwybod am broblemau goleuadau stryd yn y ddinas.

Mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r ap, sydd ar gael i'w lawrlwytho ar Google Play Store neu App Store Apple, yn caniatáu i drigolion roi gwybod i'r Cyngor yn gyflym ac yn gyfleus am nam ar olau stryd, gan nodi ei union leoliad ar fap yr ap.

Y swyddogaeth newydd yw'r diweddaraf i'w hychwanegu at yr ap, sydd bellach wedi'i lawrlwytho bron i 77,000 o weithiau ers ei lansio, gyda bron i 1,400 o lawrlwythiadau y mis diwethaf yn unig.

Mae'r adroddiadau goleuadau stryd yn ymuno â llu o swyddogaethau eraill ar yr ap, gan gynnwys gwirio eich diwrnod casglu gwastraff, rhoi gwybod am barcio problematig parhaus, rhoi gwybod am faw cŵn a hyd yn oed reoli eich cyfrif treth gyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:  "Mae'r cyngor yn edrych yn gyson ar ffyrdd o'i gwneud hi mor hawdd â phosibl i drigolion ymgysylltu â ni, o roi gwybod am broblemau fel tipio anghyfreithlon i ddod o hyd i oriau agor ein canolfannau ailgylchu.

"Yr adroddiadau namau goleuadau stryd ar y fersiwn ddiweddaraf o'r ap yw ein ffordd ddiweddaraf o'i gwneud hi'n haws i gwsmeriaid gysylltu â ni, ar adeg sy'n addas iddyn nhw. Byddwn yn annog unrhyw un sydd heb lawrlwytho'r ap i wneud hynny nawr. Mae'n ddefnyddiol iawn ac rydyn ni'n ychwanegu gwasanaethau i'r ap trwy'r amser."

Gyda'r ap Cardiff Gov, mae adroddiadau'n cael eu cyfeirio at y tîm cywir yn y Cyngor yn awtomatig, gan ein galluogi i'w datrys mor gyflym â phosibl. Mae'r ap yn un o'r ffyrdd digidol y gall preswylwyr a chwsmeriaid gysylltu â'r Cyngor.

Darllenwch fwy yma