Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 12 Medi 2023

12/09/23


Dyma'r diweddaraf gennym ni, sy'n cynnwys:

 

  • Y wybodaeth ddiweddaraf am bresenoldebConcrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth (RAAC) yn Ysgolion Caerdydd
  • Mae'r Gweithredu Diwydiannol Cenedlaethol wedi'i ymestyn o 25 Medi i 16 Hydref
  • Ffyrdd fydd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd ar 1 Hydref
  • Tymor Newydd dechrau newydd - Cyngor Caerdydd yn lansio'r ymgrch presenoldeb Ysgol ddiweddaraf
  • Uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd yn cymryd cam arall ymlaen

Y wybodaeth ddiweddaraf am bresenoldeb Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth (RAAC) yn Ysgolion Caerdydd

Erbyn hyn mae Cyngor Caerdydd wedi cwblhau arolwg manwl, gan gynnwys archwiliadau mewn 115 o ysgolion ledled y ddinas ac mae'n hapus nad yw unrhyw ysgolion yn cynnwys Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth(RAAC).

Dyma'r ystâd ysgolion gyfan.

Dechreuodd y gwaith o chwilio am RAAC yn yr ystâd ysgolion ym mis Mai eleni. 

Dywedodd y Cyng. Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'r Cyngor wedi blaenoriaethu'r gwaith o arolygu safleoedd ysgolion ac mae arolygwyr arbenigol wedi bod yn ymchwilio i bresenoldeb RAAC ers mis Mai.

"Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae adnoddau wedi'u hehangu ac mae timau wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gwblhau asesiadau ar yr ysgolion olaf sy'n weddill.

"Mae'r problemau sy'n ymwneud â defnydd o RAAC wedi achosi llawer o bryder ac rwy'n falch y gall rhieni, disgyblion a staff nawr fod yn dawel eu meddwlna ddaethpwyd o hyd i RAAC yn unrhyw un o'r ysgolion a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol yn y ddinas.

"Hoffwn ddiolch am yr ymdrech enfawr a wnaed gan ein timau i arolygu ein hystâd ysgolion gyfan, a gwblhaodd eu hymchwiliadau bron i fis yn gynt na'r disgwyl."

Mae rhestr flaenoriaeth ar gyfer ystâd ehangach y Cyngor wedi'i drafftio a bydd yr arolygiadau hyn yn cychwyn yr wythnos nesaf.

Gweithredu Diwydiannol cenedlaethol wedi'i ymestyn: 25 Medi i 16 Hydref

Mae gweithredu diwydiannol Undeb Unite dros ddyfarniadau cyflog a drafodir yn genedlaethol bellach wedi'i ymestyn tan 16 Hydref.

Dechreuodd Unite streic ledled y DU ar 4 Medi ac roedd i fod i ddod i ben ar 18 Medi. Nawr mae'r undeb wedi cynghori y bydd yn ymestyn ei streic tan 16 Hydref - er gyda seibiant o wythnos rhwng Medi 18 a Medi 25.

Oherwydd y streic estynedig, efallai y bydd gwasanaethau eraill y cyngor yn cael eu heffeithio gan weithredu diwydiannol. Byddwn yn rhoi gwybod i breswylwyr pa wasanaethau sy'n cael eu heffeithio cyn gynted ag y gallwn ni os bydd hyn yn digwydd.  Gwiriwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol bob dydd am ddiweddariadau.

Fel y gwyddoch, mae'r streic eisoes wedi effeithio ar rai ffrydiau gwastraff ac rydym yn disgwyl i'r gwasanaethau hyn barhau i gael eu heffeithio rhwng nawr ac 16 Hydref- ond rydym am i chi wybod ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau unrhyw effaith arnoch chi.

Os na chaiff unrhyw wastraff ei gasglu ar y diwrnod casglu a drefnwyd, gofynnwn i breswylwyr symud eu gwastraff yn ôl o fewn i ffiniau eu heiddo a'i roi allan ar y diwrnod casglu nesaf.

Er mwyn sicrhau y gall y cyngor barhau i gasglu'r rhan fwyaf o'ch biniau du a'ch bagiau du, gwastraff bwyd, ac ailgylchu, mae trefniadau casglu newydd yn cael eu paratoi rhag ofn y bydd eu hangen yn ystod y streic.

Mae hefyd yn bosibl y bydd yn rhaid cyhoeddi newidiadau eraill yn ystod y gweithredu diwydiannol oherwydd aflonyddwch annisgwyl pellach.

Oherwydd hyn, ac oherwydd y gallai'r sefyllfa newid yn ddyddiol, gofynnwn i chi anwybyddu unrhyw hysbysiadau casglu yr ydych wedi cofrestru ar eu cyfer tan fod y streic yn dod i ben.

Darllenwch fwy yma

Ffyrdd fydd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd ar 1 Hydref

Gyda Hanner Marathon Caerdyddyn cael ei gynnal ddydd Sul, 1 Hydref, mae disgwyl i'r ddinas fod yn eithriadol o brysur, felly cynghorir trigolion ac ymwelwyr i gynllunio a gadael digon o amser ar gyfer eu taith.

Ddydd Mercher 27 Medi, bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau yn y Ganolfan Ddinesig i osod a datgymalu pentref y ras ar gyfer y digwyddiad.

O 5am ddydd Mercher, 27 Medi tan hanner nos ddydd Llun, 2 Hydrefbydd Heol y Coleg ar gau o'r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa i'r gyffordd â Rhodfa'r Brenin Edward VII (bydd mynediad i gerbydau ar gyfer parcio preifat a danfoniadau tan 9am ddydd Sadwrn, 30 Medi).

O 5am ddydd Iau 28 Medi tan ychydig cyn hanner ddydd Llun 2 Hydrefbydd Rhodfa'r Brenin Edward VII ar gau i'r gyffordd â Boulevard de Nantes ac i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 5am ddydd Gwener 29 Medi tan ychydig cyn hanner nos ar 1 Hydref:

Rhodfa'r Brenin Edward VII (Cyffordd â Boulevard de Nantes i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas, ac o'r gyffordd â Heol Corbett i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas)

 Rhodfa'r Amgueddfa o'r pen caeedig â Heol Corbett i'r gyffordd â Heol Gerddi'r Orsedd

Heol Gerddi'r Orsedd o'r gyffordd â Phlas y Parc i'r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa

Heol Neuadd y Ddinas o'r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa i'r gyffordd â Heol y Gogledd.

Caniateir mynediad ar gyfer parcio preifat a danfoniadau tan 9.00am ddydd Sadwrn 5 Hydref. Bydd mynediad ar gyfer gwasanaethau brys yn cael ei ganiatáu o Heol y Gogledd pan fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal.

Darllenwch fwy yma

Tymor newydd dechrau newydd - Cyngor Caerdydd yn lansio'r ymgyrch presenoldeb ysgol ddiweddaraf

Gadewch i ni roi presenoldeb nôl ar y trywydd iawn yw neges Cyngor Caerdydd wrth i ymgyrch newydd gael ei lansio sy'n ceisio sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfle gorau i gyflawni, drwy wella safonau presenoldeb ysgolion.

Mewn partneriaeth ag ysgolion, ac i gyd-fynd â dechrau'r tymor ysgol newydd, mae'r ymgyrch bellach yn ei hail flwyddyn academaidd ac yn tynnu sylw at y ffaith bod pob dydd yn bwysig a bod diwrnodau dysgu sy'n cael eu colli i gyd yn adio i fyny. Y pwrpas yw atgoffa teuluoedd, gyda thymor newydd y daw dechrau newydd a bod presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn rhan bwysig o helpu dysgwyr i gyflawni mwy a gwella cyrhaeddiad yn ystod eu bywydau ysgol a thu hwnt.

Cyni ysgolion gau ym mis Mawrth 2020 oherwydd COVID-19, dangosodd adroddiad statudol i Lywodraeth Cymru fod presenoldeb ysgolion cynradd yng Nghaerdydd yn 94.8% a phresenoldeb ysgolion uwchradd yn 93.2%.Roedd cynnydd sylweddol Caerdydd o ran gwella presenoldeb ar draws ysgolion wedi bod yn gyson dda ers nifer o flynyddoedd.

Fodd bynnag, oherwydd yr aflonyddwch sylweddol a brofwyd gan ddisgyblion a'u hysgolion yn ystod y pandemig, gostyngodd lefelau presenoldeb ac mae llawer o ddysgwyr yn colli diwrnodau'n rheolaidd o hyd.

Darllenwch fwy yma

Uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd yn cymryd cam arall ymlaen

Bydd Uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd yn cymryd cam arall ymlaen ddydd Mercher, 13 Medi, pan fydd y Cyngor yn cyflwyno'r cyfle ailddatblygu i'r farchnad. Mae'r cyfle adfywio yn cwmpasu tua 30 erw ac mae'n cynnwys yr Arena Dan Do arfaethedig a safle presennol Neuadd y Sir a Chanolfan Red Dragon.  

Er mwyn cyflymu'r gwaith o ailddatblygu'r safle, mae'r Cyngor wedi penderfynu rhannu'r ardal yn ddwy ran. 

Bydd tua 7 erw o dir i'r gogledd o Hemmingway Road, sy'n cynnwys safle presennol Neuadd y Sir, yn destun proses gaffael, gan fod y Cyngor yn dymuno dynodi defnydd penodol i rai elfennau o'r ailddatblygiad gan gynnwys darparu swyddfeydd a stiwdio gynhyrchu i'r diwydiannau creadigol. Bydd y broses gaffael yn dechrau gyda Holiadur Cyn-Gymhwyso fydd yn rhoi pedair wythnos i ddatblygwyr ddatgan eu diddordeb. Yna bydd hyd at 3 chynigiwr yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ac yn destun proses dendro fanwl, y mae'r Cyngor yn gobeithio ei chwblhau erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf. Disgwylir i'r Cyngor ddiffinio ei ofynion ar gyfer y swyddfeydd craidd erbyn diwedd y flwyddyn cyn cwblhau'r achos busnes erbyn y gwanwyn, cyn i'r cynnig ailddatblygu terfynol gael ei ddewis.

Bydd yr 11.3 erw o dir sy'n weddill i'r de o Heol Hemingway, sy'n cynnwys Canolfan Red Dragon a thir cyfagos, yn cael eu marchnata fel trafodiad tir, gan nad yw'r Cyngor yn dymuno nodi unrhyw ofynion penodol. Bydd y broses farchnata yn para wyth wythnos a bydd yn ceisio sicrhau datblygwr i ymrwymo i 'Gytundeb Opsiwn' i gyflwyno datblygiad defnydd cymysg fesul cam gan gynnwys adleoli tenantiaid Canolfan Red Dragon i ofod pwrpasol newydd.

Darllenwch fwy yma