Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 06 Hydref 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, yn cynnwys:

  • Gwasanaethau Cofrestru yn symud - symud dros dro i Archifau Morgannwg a Cwrt Insole
  • Murluniau newydd yng nghanol y ddinas - Unify Creative a Wall-Ops yn trawsnewid dau o danffyrdd Caerdydd
  • Llwyddiant Castell Caerdydd - Gwobr Sandford yn cydnabod rhagoriaeth y lleoliad eiconig
  • Gwefan oed-gyfeillgar newydd - adnoddau ar-lein i helpu pobl hŷn i fyw'n dda

 

Newidiadau i'r Gwasanaethau Cofrestru yng Nghaerdydd

Bydd y Gwasanaethau Cofrestru yng Nghaerdydd yn newid dros dro dros y gaeaf, gyda chofrestriadau genedigaethau, priodasau a phartneriaethau sifil i symud o Neuadd y Ddinas tra bod yr adeilad ar gau yn ystod gwaith cynnal a chadw hanfodol.

O 10 Hydref bydd y Swyddfa Gofrestru yn Archifau Morgannwg (Clos Parc Morgannwg, Leckwith, Caerdydd, CF11 8AW). Bydd y swyddfeydd ar agor rhwng 9.00am a 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Caiff pob copi o dystysgrifau geni, priodasau, partneriaeth sifil a marwolaeth eu cyflwyno o'r safle newydd, a fydd yn dal yr holl gofnodion geni, priodasau, partneriaeth sifil a marwolaeth statudol.

Bydd Archifau Morgannwg hefyd yn cynnal holl briodasau a phartneriaethau sifil y swyddfa gofrestru gyfreithiol, lle mai dim ond y cwpl a dau dyst sy'n bresennol.

Bydd priodasau a phartneriaethau sifil mwy, sy'n digwydd ar hyn o bryd yn Ystafell Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, yn symud i Ystafelloedd Llandaf sydd newydd gael ei thrwyddedu ar lawr cyntaf Llys Insole hanesyddol.  Mae dwy ystafell - yr Ystafell Cedar, â lle i 20 o westeion, a'r Ystafell Walnut sydd â lle i 40.

Bydd cofrestriadau genedigaethau hefyd yn cael eu cynnal yn Archifau Morgannwg a bydd y gwasanaeth cofrestru genedigaethau llwyddiannus yn Hybiau'r ddinas (drwy apwyntiad yn unig) hefyd yn cael ei ehangu.

Darllenwch fwy yma

 

Murluniau newydd wedi'u hysbrydoli gan hanes a threftadaeth gerddorol Caerdydd

Mae murlun newydd a ysbrydolwyd gan dreftadaeth gerddorol Caerdydd ac a gynlluniwyd gan Unify Creative, yr artistiaid y tu ôl i 'Mona Lisa Butetown', wedi ymddangos mewn tanffordd yng nghanol dinas Caerdydd o dan Boulevard de Nantes sy'n cysylltu Ffordd y Brenin â'r Ganolfan Ddinesig.

Mae ail furlun gan Wall-Op Murals, a ysbrydolwyd gan hanes y ddinas a gwaith William Burges yng Nghastell Caerdydd, wedi'i osod yn hen Dwnnel Camlas Morgannwg sy'n rhedeg o dan Ffordd y Brenin.

Mae'r murluniau wedi cael eu comisiynu gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd, sy'n cynnwys Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru, Comisiynydd Heddlu a Throseddu a phartneriaid statudol a thrydydd sector allweddol eraill.

Mae gwell goleuadau hefyd wedi'u gosod a chyflwynwyd camerâu teledu cylch cyfyng ychwanegol i'r ardal fel rhan o'r fenter, sy'n cael ei hariannu gan grant 'Strydoedd Saffach' Swyddfa Gartref y DU ac sydd wedi'i hanelu'n bennaf at gadw menywod yn ddiogel yng nghanol y ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Cydnabod addysg treftadaeth yng Nghastell Caerdydd yn 'rhagorol'

Gyda 2,000 o flynyddoedd o hanes yn ymestyn yn ôl i'r Rhufeiniaid, mae llawer i ymwelwyr ei ddysgu yng Nghastell Caerdydd. Yn ffodus mae'r rhaglen addysg sydd ar gael i'r miloedd o blant ysgol sy'n ymweld bob blwyddyn wedi ennillGwobr Sandfordam Addysg yn ddiweddar, ar ôl cael ei asesu'n 'rhagorol'.

Rhoddodd yr aseswyr ar gyfer y wobr, sef yr unig farc ansawdd a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer addysg treftadaeth, ganmoliaeth i'r 'staff ymrwymedig ac ymroddedig' a'r gofal a gymerwyd i sicrhau bod ysgolion yn 'cyrraedd eu nodau dysgu ac yn cael ymweliad pleserus a chofiadwy' a barnodd fod darpariaeth y sesiynau addysg yn 'rhagorol'.

Darllenwch fwy yma

 

Gwefan newydd i gefnogi pobl hŷn yng Nghaerdydd i fyw'n dda

Mae gwefan newydd sy'n dda i bobl hŷn wedi'i lansio yng Nghaerdydd, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn blynyddol y Cenhedloedd Unedig (1 Hydref).

Dechreuodd dathliad deuddydd arbennig yn Hyb y Llyfrgell Ganolog heddiw trwy gyflwyno gwefan Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn https://agefriendlycardiff.co.uk/?lang=cy - siop un stop o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol i gefnogi pobl hŷn sy'n byw yn y ddinas.

Mae Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn yn rhwydwaith o sefydliadau sy'n cynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Gwasanaeth Tân ac Achub De-ddwyrain Cymru, partneriaid yn y trydydd sector a gwasanaethau eraill sydd wedi ymrwymo i wneud y ddinas yn lle gwell i dyfu'n hŷn.

Mae'r rhwydwaith wedi bod yn gweithio tuag at wneud Caerdydd yn lle gwell i bobl hŷn ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr ers nifer o flynyddoedd a'r llynedd, ymunodd y ddinas â Rhwydwaith Byd-eang Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn Sefydliad Iechyd y Byd, gan ddod yr aelod cyntaf o Gymru.

Roedd lansiad y wefan heddiw yn dangos nodweddion y wefan, sydd wedi'i chynllunio i helpu pobl hŷn yng Nghaerdydd i fyw'n dda trwy ddarparu gwybodaeth am wasanaethau, gweithgareddau a chymorth lleol.

Darllenwch fwy yma