Back
Y newyddion gennym ni - 16/10/23

A circle with people on bikes and busesDescription automatically generated

13/10/23 - Adroddiad monitro blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol yn dangos fod cynnydd da yn cael ei wneud

Gwelodd Caerdydd fwy na 1,000 o swyddi newydd yn cael eu creu a 1,681 o gartrefi newydd yn cael eu codi rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023 yn ôl adroddiad newydd sy'n gwerthuso cynnydd Cynllun Datblygu Lleol y ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Image

13/10/23 - Adnewyddu a gwella darpariaeth ysgolion cynradd yn Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd

Mae canlyniad ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd sy'n gwasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd wedi'i gyhoeddi.

Darllenwch fwy yma

 

Image

13/10/23 - Cyngor Caerdydd yn cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect ysgolion blaenllaw

Mae un o brosiectau blaenllaw Cyngor Caerdydd i drawsnewid addysg ar draws y ddinas ar fin goresgyn rhwystr mawr gyda chyllid yn cael ei gymeradwyo i ddechrau adeiladu Campws Cymunedol arloesol y Tyllgoed.

Darllenwch fwy yma

 

Image

13/10/23 - Neuadd Dewi Sant ar gau tan y Flwyddyn Newydd - Datganiad Cyngor Caerdydd

Mae'r datganiad hwn yn rhoi diweddariad ar gau Neuadd Dewi Sant dros dro tra bod gwiriadau ychwanegol ar y paneli Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth (CAAC) yn yr adeilad yn cael eu cynnal, a thra bod y camau nesaf angenrheidiol yn cael eu cymryd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

13/10/23 - Cyfleoedd llywodraethwyr ysgol yn eich cymuned leol

Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am lywodraethwyr ysgolion o gefndiroedd amrywiol sydd â gwahanol sgiliau a phrofiad i ymgymryd â swyddi ar gyrff llywodraethu ledled y ddinas ac mae ymgyrch newydd wedi'i lansio i hyrwyddo'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael.

Darllenwch fwy yma

 

Image

10/10/23 - Arweinydd Caerdydd yn croesawu penderfyniad UEFA ynghylch EWRO 2028

Mae Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, wedi croesawu'r newyddion heddiw y bydd Cymru'n cynnal gemau mewn rowndiau terfynol twrnamaint pêl-droed rhyngwladol mawr am y tro cyntaf.

Darllenwch fwy yma

 

Image

10/10/23 - Ysgol Gynradd Gatholig St Bernadette yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am iechyd a lles

Mae Ysgol Gynradd Gatholig St Bernadette ym Mhentwyn wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ei gwaith i hyrwyddo iechyd a lles ledled ei chymuned ysgol, i'r safon uchaf posib.

Darllenwch fwy yma

 

Image

09/10/23 - Chwilen brin sy'n wedi'i chanfod ar Ynys Echni

Mae rhywogaeth brin o chwilen sy'n wedi ei chanfod yn byw ychydig filltiroedd oddi ar arfordir Caerdydd, ar yr anghysbell Ynys Echni, ac mae gwyddonwyr yn credu mai dyma o bosib gadarnle olaf y rhywogaeth yn y DU.

Darllenwch fwy yma

 

Image

09/10/23 - Pobl wedi'u harestio a beiciau trydan wedi'u hadfer mewn ymgyrch i gadw strydoedd canol dinas Caerdydd yn ddiogel

Cafodd un ar ddeg o feiciau trydan eu hadfer ac wyth person eu harestio yng nghanol dinas Caerdydd ddydd Iau, 5 Hydref, fel rhan o ymgyrch ar y cyd sy'n targedu pobl sy'n reidio beiciau wedi'u haddasu sy'n gallu cyrraedd cyflymderau o fwy na 40mya.

Darllenwch fwy yma