Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 24 Tachwedd 2023

Diweddariad Dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Arena Dan Do Caerdydd - gwaith ar y lleoliad newydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd
  • Datblygiad Ysgol Uwchradd Willows - dweud eich dweud ar gynlluniau ar gyfer safle newydd yr ysgol
  • Diwrnod Rhuban Gwyn Blynyddol - rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched
  • Parth buddsoddi newydd - cyllid gwerth £160m yn mynd i dde-ddwyrain Cymru

 

Mae arena Dan Do newydd Caerdydd yn symud i'r cam datblygu

Disgwylir i waith galluogi ardal dan do newydd 15,000 o gapasiti Caerdydd ddechrau ym mis Ionawr 2024 - wrth i'r prosiect symud i'r cam cyflawni - gyda dyddiad agor wedi'i bennu tua diwedd 2026.

Bydd prosiect yr Arena Dan Do - buddsoddiad o tua 250m ym Mae Caerdydd - yn dod â swyddi y mae mawr eu hangen, nid yn unig yn ystod y cyfnod adeiladu, ond hefyd pan fydd yr arena yn agor i'r cyhoedd, wrth iddo roi hwb i sector diwylliannol a chreadigol y ddinas am flynyddoedd i ddod.

Yn gyffredinol, disgwylir i Uwch gynllun Glanfa'r Iwerydd, sy'n cynnwys yr arena, greu miloedd o swyddi newydd. 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod strategaeth ariannu'r arena yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 23 Tachwedd. Bydd aelodau Cabinet yn clywed sut mae'r prosiect yn hunan ariannu yn y tymor hir ac yn cael eu hargymell i lofnodi'r Cytundeb Datblygu a Chyllido gyda Live Nation, a fydd yn ymrwymo i brydles hirdymor y lleoliad yn y dyfodol fel y gall y gwaith adeiladu ddechrau. Mae'r prosiect wedi cael ei daro gan chwyddiant sylweddol, ond mae Live Nation wedi cytuno i dalu costau cynyddol y gwaith adeiladua bydd cyfraniad cyfalaf y cyngor yn cael ei adfer yn llawn dros dymor y brydles.

Mae'r llinell amser ddangosol ar gyfer cyflwyno'r arena newydd wedi'i chadarnhau yn adroddiad diweddaraf y Cabinet ar y prosiect:

  • Ionawr 2024 - gwaith galluogi i ddechrau
  • Mai/Mehefin 2024 - Llofnodi'r cytundeb prydles rhwng y cyngor a Live Nation
  • Mehefin 2024 - Dechrau ar y prif waith o adeiladu'r arena
  • Diwedd 2026 - Agor yr arena dan do i'r cyhoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu: "Mae darparu arena dan do newydd wedi bod yn uchelgais gan sawl gweinyddiaeth Cyngor ers dros 20 mlynedd ac roedd yn addewid allweddol a wnaethom yn etholiadau 2017 a 2022. Mae'r adroddiad i'r Cabinet yn arwyddocaol gan ei fod yn dangos yn glir bod yr Arena yn gyflawnadwy ac yn fforddiadwy, i Live Nation a'r Cyngor. Mae'n garreg filltir arwyddocaol, ar y daith gymhleth i ddechrau gwaith adeiladu, ac mae'n golygu y gall y prosiect fynd rhagddo'n gyflym nawr."

Darllenwch fwy yma

 

Datblygiad Ysgol Uwchradd Willows: Dweud eich dweud

Mae cynlluniau i adleoli ac ailadeiladu Ysgol Uwchradd Willows ar agor ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Bydd yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio yn rhedeg tan Ddydd Llun 18 Rhagfyr 2023 ac yn gyfle i aelodau'r cyhoedd ddweud eu dweud ar gynigion ar gyfer yr ysgol newydd, cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd.

Bydd gan yr ysgol newydd amrywiaeth o gyfleusterau cynhwysfawr a fydd ar gael at ddefnydd y cyhoedd y tu allan i oriau ysgol ac a fydd yn cael eu darparu'n rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru. 

Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Adleoli ac ailadeiladu'r ysgol ar dri pharsel o dir ym Marchnad y Sblot a Heol Portmanmoor; gan gynnwys mynediad i'r caeau 3G yn yr hen ganolfan tennis a darparu digon o le i'r ysgol newydd heb golli unrhyw fan agored presennol.
  • Darparu amgylchedd dysgu o ansawdd uchel i ddisgyblion i gefnogi a gwella dysgu ac addysgu.
  • Ysgol â ffocws cymunedol gyda chyfleusterau ar gael at ddefnydd y gymuned gyfan y tu allan i oriau craidd yr ysgol.
  • Cyfleusterau gwell i gerddwyr i gefnogi trefniadau teithio llesol ar safle Heol Lewis.
  • 900 o leoedd i ddysgwyr 11 i 16 oed, a chanolfan adnoddau arbenigol â 30 lle ar gyfer Anghenion Dysgu Cymhleth; yn unol â'r galw a ragwelir.
  • Disgyblion i aros ar safle presennol Ysgol Uwchradd Willows nes y caiff adeiladau newydd yr ysgol eu cwblhau i leihau tarfu posibl.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:  "Mae disgwyl i ysgol uwchradd newydd Willows ddod yn gyfleuster addysgol o'r radd flaenaf, gan gynrychioli buddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol. Nid yn unig y bydd yn rhoi arbenigedd a chyfleoedd addysgu eithriadol i ddisgyblion a staff, ond bydd hefyd yn sicrhau bod y gymuned leol yn elwa o amwynderau modern rhagorol." 

Darllenwch fwy yma

 

Bydd diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched yn dechrau pan fyddwn yn #NewidyStori

Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn blynyddol yn cael ei gynnal ledled y byd y penwythnos hwn, gan roi cyfle i fyfyrio ar heriau goresgyn trais dynion yn erbyn menywod a merched.

Mae Diwrnod y Cenhedloedd Unedig i Ddileu Trais yn erbyn Menywod a Merched, a adwaenir yn fwy cyffredin fel Diwrnod y Rhuban Gwyn, yn digwydd ar 25 Tachwedd bob blwyddyn, ac yn cychwyn cyfres o ddigwyddiadau sy'n arwain at 8 Rhagfyr, sef Diwrnod Hawliau Dynol.

Ymgyrch fyd-eang yw'r Rhuban Gwyn sy'n annog pobl, dynion a bechgyn yn enwedig, i weithredu yn unigol ac ar y cyd i newid yr ymddygiad a'r diwylliant sy'n arwain at gam-drin a thrais.   Mae gwisgo rhuban gwyn yn arwydd o addewid i beidio byth â chyflawni, esgusodi neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod. 

Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad Rhuban Gwyn achrededig, ar ôl cyflawni ei drydydd cyfnod achredu gan White Ribbon UK y llynedd.

Thema'r ymgyrch eleni yw Newid y Stori, gan gydnabod nad yw newid diwylliant yn digwydd dros nos, ond gellir dod â thrais dynion yn erbyn menywod a merched i ben yn ystod ein hoes. 

Dechreuodd digwyddiadau cyhoeddus i nodi'r ymgyrch ymwybyddiaeth yng Nghaerdydd neithiwr gyda Gwylnos Golau Cannwyll Nid yn fy Enw i yn y Senedd, cyfle i bobl ddod at ei gilydd i ddangos undod â dioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod ledled y byd.

Ddydd Gwener 24 Tachwedd, mae croeso i bawb ymuno â gorymdaith o Heol y Gadeirlan i Eglwys Gadeiriol Llandaf am 9am a'r gwasanaeth aml-ffydd blynyddol Cynnau Cannwyll am 11am a bydd Gwasanaeth Rhuban Gwyn yn cael ei gynnal yn Eglwys Fethodistaidd St Andrews, Llwynbedw am 10.30am ddydd Sul, 26 Tachwedd.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Chris Weaver: "Mae trais a brofir gan fenywod a merched yn cymryd sawl ffurf. Fel Dinas Rhuban Gwyn, mae Caerdydd wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod ac mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud wrth fynd i'r afael â'r mater dros y pum mlynedd diwethaf.

Darllenwch fwy yma

 

Mae Parth Buddsoddi ar ei hynt i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd

Cyhoeddwyd £160 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn Natganiad yr Hydref i gynorthwyo twf economaidd dwys yn Ne-ddwyrain Cymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Natganiad yr Hydref ddydd Mercher y bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn cynnal un o Barthau Buddsoddi â ffocws newydd y Deyrnas Unedig mewn pecyn cyllido ar y cyd â Llywodraeth Cymru.  Mae'r pecyn ar y cyd yn werth £160 miliwn dros gyfnod o bump i ddeng mlynedd, a chaiff ei gyflenwi gan Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru o 2024 ymlaen.

Yn ychwanegol at Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, dewiswyd Gogledd Cymru hefyd ar gyfer Parth Buddsoddi yn Wrecsam a Sir Ddinbych.  Lleolir y Parth ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ledled Caerdydd sydd â'i chanolfan ymchwil dwys, a Chasnewydd â'i harbenigedd mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd, gyda'r Rhanbarth ehangach wedi'i ddynodi fel Maes Buddiannau. 

Y bwriad wrth wraidd y Parthau Buddsoddi yw catalyddu clystyrau twf gwybodaeth-ddwys, potensial uchel ledled y Deyrnas Unedig, gyda phob Parth yn ysgogi twf o leiaf un sector allweddol i'r dyfodol o fysg diwydiannau gwyrdd, technolegau digidol, gwyddorau bywyd, diwydiannau creadigol a gweithgynhyrchu uwch.  Yn achos Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, bydd y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd sy'n arwain y byd yn cael ei gynnwys fel rhan o hyn. 

Roedd ystyriaethau allweddol gan y ddwy Lywodraeth o ran dyfarnu Parthau Buddsoddi yn cynnwys y dystiolaeth eglur o botensial economaidd, potensial arloesi, sefydliadau angori gwybodaeth cryfion a chryfderau penodol i glystyrau a sectorau cydnabyddedig yn y Rhanbarth.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, am y cyhoeddiad:  "Mae hyn yn newyddion i'w groesawu'n fawr iawn i'r Rhanbarth ac i Gaerdydd.  Mae ein prifysgolion yn cynnal galluoedd ymchwil o safon byd, mae gennym sector technoleg ffyniannus, ac mae trefniadau partneriaethau sylweddol eisoes ar waith.  Golyga hyn ein bod wedi'n paratoi, ein bod yn barod ac yn gallu gwneud y defnydd gorau o'r cyfle hwn.  Caerdydd yw'r sbardun ysgogi economaidd y tu cefn i Gymru, a bydd rôl Caerdydd yn y parthau buddsoddi newydd hyn yn sicrhau bod y Rhanbarth, a Chaerdydd, yn elwa o'r pecyn llywodraethol ar y cyd hwn am flynyddoedd i ddod."

Darllenwch fwy yma