Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 01 Rhagfyr 2023

Diweddariad Dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Treial Fareshare Cymru i gynhyrchu ‘prydau parod' o fwyd dros ben
  • Gwelliannau cerdded a beicio: Heol y Sanatoriwm, Stryd Lydan, Heol Lansdowne a Grosvenor Street, Treganna
  • Academi Atgyweiriadau yn helpu i dyfu gweithlu medrus y Cyngor

 

Treial Fareshare Cymru i gynhyrchu ‘prydau parod' o fwyd dros ben

Bydd Fareshare Cymru yn dechrau treial chwe mis i gynhyrchu prydau parod iach a chynaliadwy a wneir o fwyd dros ben ar ôl symud yn llwyddiannus i gam nesaf Her Bwyd Cynaliadwy.

Nid yw'r elusen, sy'n ail-ddosbarthwr mwyaf Cymru o fwyd dros ben o'r diwydiant bwyd, yn gallu defnyddio'r holl fwyd sydd ar gael iddyn nhw ar hyn o bryd. Nawr, ar ôl profi bod y syniad yn ymarferol, maent yn partneru yn ystod cam cyntaf yr Her â Choleg Caerdydd a'r Fro (CAVC) i gynyddu cynhyrchiant yn ystod cyfnod 'arddangos' 12 mis.

Dywedodd Katie Padfield, Pennaeth Datblygu FareShare Cymru: "Nid yw'r Her Fwyd fel unrhyw beth rydyn ni wedi'i gwneud o'r blaen. Rydym yn gyffrous iawn i allu dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni".

Bydd y gwaith cynhyrchu yn 'Redistribution Wales Kitchen' yn dechrau un diwrnod yr wythnos, yn y ceginau a'r cyfleusterau ychwanegol yn CCF, gyda'r nod o gynyddu hyd at dri diwrnod yr wythnos yn nes ymlaen. Bydd y prydau bwyd a gynhyrchir i gyd yn cynnwys dau o'ch ‘pum ffrwyth a llysieuyn y dydd' a byddant oll yn brydau sy'n addas i lysfwytawyr. Byddwn yn darparu bwyd i 10 prosiect bwyd i ddechrau, gyda'r nod o gynyddu hyn i 30 wrth i'r broses gynhyrchu gynyddu.

Mae tri math gwahanol o becynnu cynaliadwy hefyd yn cael eu treialu fel rhan o'r cyfnod Her hwn, gyda metel amldro, plastigau amldro a phecynnu y gellir eu compostio i gyd yn cael eu rhoi ar brawf.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb, "Mae gan y prydau iach, maethlon hyn y potensial i leihau gwastraff bwyd a llenwi bwlch o ran darparu bwyd i sefydliadau cymunedol ac elusennau sy'n cefnogi rhai o'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Mae'n brosiect cyffrous ac arloesol iawn ac rwy'n edrych ymlaen at weld y broses gynhyrchu'n cynyddu dros y chwe mis nesaf."

Darllenwch fwy yma

 

Gwelliannau cerdded a beicio: Heol y Sanatoriwm, Stryd Lydan, Heol Lansdowne a Grosvenor Street, Treganna

Mae'r cynllun yn rhan o brosiect teithio llesol ar gyfer Treganna sy'n cael ei ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru.  Ei nod yw gwneud gwelliannau i bobl sy'n teithio ar droed, ar sgwter ac ar feic i ysgolion lleol a mannau eraill.   Bydd yn gwneud rhai o'r newidiadau sydd wedi digwydd ar y coridor hwn yn ystod y ddwy neu dair blynedd diwethaf yn barhaol ac yn eu hymestyn.  Cynhaliwyd  ymgynghoriad cyhoeddus   ar y cynllun rhwng 08/08/2021 a 15/09/2021.

Mae newidiadau'n cael eu gwneud i droedffyrdd a chyffyrdd i wella teithiau cerdded a beicio.  Gweler y map am fanylion. Mae'r newidiadau'n cynnwys:

 

  • Bydd troedffyrdd yn cael eu hailwynebu.
  • Bydd y droedffordd a ehangwyd ar ochr orllewinol Heol y Sanatoriwm yn parhau i gael ei rannu gan gerddwyr a beicwyr.
  • Bydd y llwybr mwdlyd ger Park Vets sy'n dilyn y 'llwybr a ffefrir' ar gyfer cerddwyr yn cael ei darmacio i greu troedffordd.
  • Bydd cyffyrdd â signalau Heol y Sanatoriwm gyda Heol Lansdowne a Stryd Lydan yn cael eu haildrefnu a gosodir croesfannau lletraws, a reolir gan signalau ar gyfer cerddwyr fel bod croesfannau yn haws ac yn fwy diogel.
  • Bydd newidiadau'n cael eu gwneud i gyffyrdd ffyrdd ymyl (Gorllewin a Dwyrain Heol Lansdowne a Brunswick Street) i'w gwneud yn haws i gerddwyr groesi.
  • Bydd 'gerddi glaw' yn cael eu plannu i wella ymddangosiad a helpu gyda draenio dŵr wyneb.
  • Bydd Grosvenor Street yn barhaol unffordd tua'r gogledd ar gyfer yr holl draffig gyda beiciau yn unig yn cael eu caniatáu tua'r de.

Darllenwch fwy yma

 

Academi Atgyweiriadau yn helpu i dyfu gweithlu medrus y Cyngor

Mae un o fentrau cyflogaeth allweddol Cyngor Caerdydd yn profi ei werth wrth helpu'r rhai sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau mewn crefftau newydd gan gymryd camau breision ar hyd eu llwybr gyrfa.

Sefydlwyd yr Academi Atgyweiriadau Ymatebol y llynedd gyda'r nod o 'dyfu' gweithlu cynnal a chadw y Cyngor ei hun. Mae wedi cyflogi nifer o hyfforddeion a phrentisiaid sydd, ar ôl hyfforddiant mewn crefftau gwahanol a gweithio gyda mentoriaid cymwys, wedi dewis arbenigo mewn meysydd fel gwaith coed, plymio, paentio ac addurno, a phlastro.

Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor chwe phrentis, ynghyd â phum person sydd ar hyfforddeiaeth dwy flynedd a all arwain at gwrs rhan-amser pedair blynedd wedi'i noddi yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro i ennill cymhwyster proffesiynol. Mae rheolwyr y Cyngor yn gobeithio cyflogi mwy o recriwtiaid newydd y flwyddyn nesaf ar gyflog cychwynnol o tua £19,100. Dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth/swyddi gwag.

Mae'r gwasanaeth Atgyweiriadau Ymatebol yn cynnal stoc dai'r Cyngor (tua 14,000 o gartrefi), gan gynnwys atgyweirio drysau a ffenestri, gosod ceginau a chynnal a chadw trydanol. Y llynedd, cyflawnodd y gwasanaeth tua 50,000 o dasgau, ynghyd â 5,700 arall y tu allan i oriau.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, ei bod yn falch iawn bod yr Academi Atgyweiriadau Ymatebol yn profi i fod yn gymaint o lwyddiant. "Rydym wedi ymrwymo i 'dyfu ein gweithlu ein hunain'," meddai. "Mae'r Academi yn cefnogi hyfforddeion a phrentisiaid a gweithwyr cynnal a chadw i ddod yn grefftwyr cymwysedig - mae'n ffordd wych o ddod â chyfleoedd i bobl ar draws ein cymunedau."

Darllenwch fwy yma