Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 22 Mawrth 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Cloc y Pierhead wedi'i adfer i'w hen ogoniant
  • Cerddoriaeth fyw i ddarparu trac sain y ddinas y penwythnos hwn
  • Cynlluniau diwygiedig Canolfan Hamdden Pentwyn i'w cyflwyno i'r gymuned
  • Am y tro cyntaf yng Nghaerdydd, siop gafodd ei dal yn gwerthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon yn cael ei chau gan y cyngor

 

Cloc y Pierhead wedi'i adfer i'w hen ogoniant

Mae Cloc y Pierhead, un o dirnodau enwog Caerdydd, wedi cael ei adfer yn llawn ac mae'n cael ei ailosod yn ei flwch gwydr amddiffynnol ar Heol Eglwys Fair Isaf yn ddiweddarach heddiw (18 Mawrth).

Bydd casin y cloc hefyd yn cynnwys goleuadau newydd i'w oleuo gyda'r nos fel y gall pawb ei fwynhau.

Adeiladwyd y cloc ym 1896 ar gyfer Adeilad Dociau Bute ym Mae Caerdydd, a elwir bellach yn Adeilad y Pierhead, a gwblhawyd ym 1897. Cafodd y gloch yn y cloc ei chreu gan y Whitechapel Bell Foundry, yr un cwmni a greodd y Liberty Bell hanesyddol yn Efrog Newydd.

Wedi'i ddylunio gan y pensaer enwog Williams Fame, Adeilad y Pierhead oedd pencadlys Cwmni Dociau Bute, a chwaraeodd ran hanfodol yn natblygiad Dociau Caerdydd, lle allforiwyd glo o Gymoedd De Cymru i gyrchfannau ledled y byd.

Roedd Adeilad y Pierhead yn dirnod enwog i Forwyr a wyddent eu bod wedi cyrraedd adref yn ddiogel ar ôl gweld y twr.

Yn fwy diweddar, prynwyd y cloc, a elwir hefyd yn Gloc y Mwnci, gan gasglwr Americanaidd, Alan Heldman, a gadwodd y cloc yn ei weithdy am 30 mlynedd nes i'r Cyngor ddod â'r cloc yn ôl i Gaerdydd yn 2005.

Darllenwch fwy yma

 

Cerddoriaeth fyw i ddarparu trac sain y ddinas y penwythnos hwn

Dychmygwch glywed trac sain cerddoriaeth ar draws y ddinas. Dinas lle mae sŵn hip-hop a drwm a bas yn rymblan dros waliau castell 2,000 o flynyddoedd oed, lle mae jazz sipsiwn i'w glywed o falconi arcedau Fictoraidd, a siopwyr yn cael eu serenadu gan bedwarawdau llinynnol a cherddoriaeth werin hamddenol Americanaidd. Caerdydd yw'r ddinas honno, y penwythnos hwn.

Bydd artistiaid lleol gan gynnwys Rona Mac, Pigeon Wigs, Keys Collective, Kitty, Junior Bill a Siglo 6 i gyd yn perfformio ar lwyfannau dros dro ledled canol y ddinas, ynghyd â bandiau pres, perfformwyr gwerin a chlasurol Cymraeg, fel rhan o ddigwyddiad 'Trac Sain y Ddinas' a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.

Mae'r digwyddiad, a gynhelir o hanner dydd i 4pm ddydd Sadwrn, 23 Mawrth a dydd Sul, 24 Mawrth, yn rhan o waith datblygu strategaeth gerdd Caerdydd.

Trac Sain y Ddinas yw'r digwyddiad cerddorol cyntaf o lawer sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y misoedd nesaf, y mae pob un ohonynt wedi'u cynllunio i arddangos rhai o'r cerddorion dawnus sy'n byw yng Nghaerdydd, ac yn rhoi cerddoriaeth wrth wraidd datblygiad Caerdydd.

Cynhelir perfformiadau yng Nghastell Caerdydd, Ffordd Churchill, Arcêd y Castell, Marchnad Caerdydd (mynedfa Heol Eglwys Fair), Gorsaf Drenau Caerdydd/Sgwâr Canolog a'r Ais/Lôn y Barri.

Darllenwch fwy yma

 

Cynlluniau diwygiedig Canolfan Hamdden Pentwyn i'w cyflwyno i'r gymuned

Bydd cynlluniau diwygiedig ar gyfer Canolfan Hamdden Pentwyn cael eu cyflwyno i'r gymuned leol mewn dau ddigwyddiad galw heibio yr wythnos nesaf.

Bydd y digwyddiadau'n cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn ar ddydd Mawrth 26 a Dydd Mercher 27 Mawrth rhwng 10am a 6pm.

Mae'r cynlluniau, sydd wedi eu diwygio yn dilyn penderfyniad diweddar Rygbi Caerdydd i dynnu'n ôl o'r ganolfan, yn cynnwys pwll nofio 25 metr.

Bydd y pwll yn cynnwys llawr symudol y gellir ei addasu i ganiatáu i ddyfnder y dŵr amrywio. Mae'r nodwedd hon yn galluogi'r pwll i gael ei ddefnyddio ar gyfer ystod eang o weithgareddau nofio a 'sblasio', yn ogystal â lleihau'r ynni sydd ei angen i gynhesu'r dŵr. Bydd y sleid bresennol hefyd yn cael ei chadw.

Bydd y neuadd chwaraeon bresennol a'r cae 3G bach awyr agored yn cael eu cadw a bydd cyfleusterau'r stiwdio a'r gampfa yn cael eu hailagor.  Bydd yr ystafelloedd newid hefyd yn cael eu hailwampio'n llawn.

Bydd perfformiad ynni'r ganolfan yn cael ei uwchraddio trwy baneli solar wedi'u gosod ar y to a phwmp gwres ffynhonnell aer i gynhesu'r pwll. Gyda'i gilydd, bydd y buddsoddiadau hyn yn helpu i leihau cost weithredol rhedeg y ganolfan a gwella perfformiad carbon yr adeilad. 

Darllenwch fwy yma

 

Am y tro cyntaf yng Nghaerdydd, siop gafodd ei dal yn gwerthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon yn cael ei chau gan y cyngor

Mae Kermashan Mini Market, 136 Clifton Street, Caerdydd, wedi cael ei chau gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar ôl cwynion ynghylch gwerthu tybaco anghyfreithlon a thuniau ocsid nitraidd.

Dyma'r tro cyntaf i bwerau gorfodi gael eu defnyddio fel hyn gan Gyngor Caerdydd.

Bydd y siop ar gau am o leiaf dri mis, am werthu cyffuriau Dosbarth C a chynhyrchion anghyfreithlon a pheryglus eraill i'w chwsmeriaid.

Mae'r 'Gorchymyn Cau', a osodwyd gan Lys Ynadon Caerdydd heddiw (21 Mawrth) yn golygu bod yn rhaid i'r siop gau ar unwaith a gallai unrhyw fasnachu am dri mis wedi hynny arwain at y perchennog yn derbyn tri mis yn y carchar, dirwy neu'r ddau.

Daeth yr achos i'r amlwg pan gafwyd cwynion fod y siop yn gwerthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon a thuniau Ocsid Nitraidd. 

Dechreuodd  Safonau Masnach ymchwiliad a gwnaed profion prynu.  Dangosodd y canlyniadau fod y siop yn gwerthu tybaco ffug, fêps anghyfreithlon, sigaréts di-doll wedi'u smyglo i'r DU ac Ocsid Nitraidd. Roedd 50g o dybaco Amber Leaf ffug yn cael ei werthu am gyn lleied â £5 pan mai £40 yw'r pris manwerthu cyfartalog fel arfer.

Darllenwch fwy yma