Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
Goleuo Castell Caerdydd yn goch wrth i'r ddinas nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop eleni gyda phicnic dathlu, partïon stryd, ac arddangosfa 'Dyddiau Buddugoliaeth'
Bydd Castell Caerdydd yn cael ei oleuo'n goch wrth i Gaerdydd nodi pen-blwydd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn 80 oed, gyda phicnic dathlu arbennig ar dir y Castell, partïon stryd dan ofal preswylwyr y ddinas, ac arddangosfa 'Dyddiau Buddugoliaeth' yn Amgueddfa Caerdydd yn dangos sut gwnaeth trigolion y ddinas ddathlu diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Picnic Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop
Bydd y picnic, sy'n cael ei drefnu gan Gyngor Caerdydd a'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gynnal ym man agored cyhoeddus y Castell rhwng 11am a 5pm ar Ddydd Llun Gwyl Banc 5 Mai.
Bydd y digwyddiad, sy'n addas i deuluoedd, yn cynnwys adloniant amrywiol am ddim. Bydd cerddoriaeth o'r llwyfan bandiau, diddanwyr yn crwydro'r maes yn perfformio sioeau syrcas a sioeau pypedau, a gweithgareddau crefft i blant.
Bydd Amgueddfa Firing Line Gwarchodlu Dragŵn Y Frenhines a'r Gatrawd Frenhinol Gymreig hefyd yn cymryd rhan yn y dathliadau gydag arddangosfa o arteffactau o'r Ail Ryfel Byd a thanciau bach wedi'u rheoli o bell i chwarae gyda nhw.
Goleuo'r Castell
Bydd waliau allanol Castell Caerdydd yn cael eu goleuo'n goch dros ar nos Fawrth 6 Mai, yn rhan o raglen genedlaethol i nodi'r pen-blwydd.
Arddangosfa 'Dyddiau Buddugoliaeth'
Mewn arddangosfa arbennig yn Amgueddfa Caerdydd, bydd atgofion trigolion a gwrthrychau fel baneri bach fu'n cyhwfan dros Llandaf a rhaglen dathliadau Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop Parc y Mynydd Bychan, yn dangos sut gwnaeth Caerdydd ddathlu'r Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gwreiddiol a'r Diwrnod Buddugoliaeth yn Japan gwreiddiol 80 mlynedd yn ôl.
Partïon stryd
Mae trigolion nifer o strydoedd preswyl hefyd wedi trefnu partïon stryd cymunedol ar Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.
I feithrin ymdeimlad o undod ac ysbryd cymunedol, cynigiwyd cyfle i breswylwyr gyflwyno ceisiadau i gynnal partïon stryd ar Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop dros Benwythnos Gŵyl y Banc.
Cyllid cyfalaf yn cael ei ddarparu i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghaerdydd
Mae lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghaerdydd wedi derbyn bron i £200,000 trwy gronfa lleoliadau llawr gwlad a sefydlwyd gan Gyngor Caerdydd.
Mae'r grantiau wedi galluogi lleoliadau cerddoriaeth fyw gan gynnwys Clwb Ifor Bach, Porters, Canolfan Gelfyddydau'r Chapter, The New Moon, Paradise Garden, Acapela, Tiny Rebel a The Canopi i wneud gwelliannau a phrynu offer newydd hanfodol.
Mae'r cyllid yn rhan o waith Dinas Gerdd Caerdydd yr awdurdod lleol i ddiogelu a datblygu sector cerddoriaeth y ddinas sydd hefyd wedi gweld cynllun datblygu talent newydd yn cael ei lansio yn ysgolion y ddinas, lansio 'Academi' newydd ar gyfer cerddorion ifanc, a chynnal yr Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gyntaf erioed.
Addewid i Blant sy'n Derbyn Gofal yn cael sylw yn yr adroddiad blynyddol
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol y Cyngor yn tynnu sylw at ymrwymiad cryf Caerdydd i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i blant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal yn y ddinas.
Mae'r Pwyllgor yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o sectorau gan gynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, Addysg, ac asiantaethau statudol eraill, i hyrwyddo cyfrifoldeb ar y cyd am les plant sy'n derbyn gofal. Gyda'i gilydd, eu nod yw amddiffyn buddiannau'r bobl ifanc hyn a chreu'r cyfleoedd gorau posibl ar gyfer eu llwyddiant mewn bywyd.
Mae Adroddiad Blynyddol 2024/2025 yn tynnu sylw at yr ystod o fentrau a ymgymerwyd gan y Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn nodi nifer o weithgareddau a gwelliannau allweddol:
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn dangos cynnydd cadarnhaol yn dilyn arolygiad diweddar
Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg wedi cael ei harolygu yn ddiweddar gan Estyn. Ar adeg yr arolygiad, roedd y pennaeth wedi bod yn y swydd ers 16 wythnos ar ôl ymddiswyddiad ei ragflaenydd. Yn ystod y cyfnod hwn, cyflwynwyd nifer o welliannau i helpu i lywio'r ysgol i gyfeiriad cadarnhaol, gan osod y sylfaen ar gyfer cynnydd pellach - datblygiad a nodwyd gan Estyn.
Rhoddodd Estyn ganmoliaeth i'r ysgol am nifer o ganlyniadau cadarnhaol a chynnydd cyflym yn ei hadroddiad arolygu.
Dywedodd y Pennaeth Gweithredol Claire Cook: "Hoffwn i ddiolch i'n staff am eu gwaith caled a'u hymrwymiad diwyro i'r ysgol. Maen nhw wedi cofleidio'r newidiadau diweddar gyda brwdfrydedd, ac mae eu hymroddiad i welliant parhaus yn ganmoladwy. Mae ymdrechion ein staff addysgu a chymorth yn ganolog i'r cynnydd rydyn ni'n ei wneud, ac rwy'n falch o'r ffordd maen nhw wedi gweithio'n ddiflino i addasu ac arloesi er budd gorau ein plant."