Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli (11 Mai)


11/05/20 - Gwaith i fynd rhagddo ar gam 2 yr Uwchraddiad i Lwybr Beicio Heol y Gogledd

Bydd contractwr y Cyngor, Horan Construction Ltd, yn ail-ddechrau gwaith ar Gam 2 Uwchraddio Llwybr Beicio Heol y Gogledd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23828.html

 

11/05/20 - Daliwch eich tir a daliwch i faethu!

Mae Cyngor Caerdydd yn dathlu Pythefnos Gofal Maeth, yn dechrau heddiw, drwy anfon neges glir i ddarpar ofalwyr maeth yn y ddinas - 'Mae eich angen chi o hyd!'

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23836.html

 

12/05/20 - Cyhoeddi'r Datganiad Caethwasiaeth Fodern Blynyddol

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei ddatganiad caethwasiaeth fodern blynyddol, sy'n nodi ei ymrwymiadau i sicrhau nad oes lle i gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn ei gadwyni busnes a chyflenwi.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23842.html

 

12/05/20 - COVID-19: Clod i ysgolion uwchradd Caerdydd am gyfrannu Cyfarpar Diogelu Personol

Mae ysgolion uwchradd Caerdydd wedi bod yn cefnogi gweithwyr iechyd rheng flaen ar draws y ddinas trwy ddarparu miloedd o eitemau o Gyfarpar Diogelu Personol (CDP) yn ystod argyfwng COVID-19.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23846.html

 

12/05/20 - Parciau Caerdydd yn talu teyrnged i'r GIG ar lawntiau Neuadd y Ddinas

Ymddangosodd y 'GIG' mewn llythrennau saith metr ar y lawntiau y tu allan i Neuadd y Ddinas fel rhan o deyrnged gan dîm parciau Cyngor Caerdydd i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23849.html

 

13/05/20 - COVID-19; Dull partneriaeth yn cefnogi plant agored i niwed Caerdydd

Mae gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth o dimau iechyd, addysg a gwasanaethau plant wedi dod at ei gilydd i sicrhau bod plant ag anableddau ac anghenion meddygol cymhleth yn gallu parhau i gael y cymorth sydd ei angen arnynt, yn ystod COVID-19.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23854.html

 

13/05/20 - Y canwr o warchodwr yn perfformio yng Nghastell Caerdydd yn ystod y cloi mawr

Manic Street Preachers, Nile Rodgers, The Killers, Paul Weller - mae'r rhestr o'r cerddorion chwedlonol sydd wedi chwarae gigs gerbron miloedd o gefnogwyr brwd yng Nghastell Caerdydd yn eithaf trawiadol, ond gyda'r Castell ar gau ar hyn o bryd i ymwelwyr mae bellach yn cynnal cyfres o gigs byrfyfyr yn ystod y cloi mawr, a berfformir gan un o weithwyr Cyngor Caerdydd yn ystod seibiannau ar ei shifftiau nos fel gwarchodwr.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23856.html

 

15/05/20 - COVID-19: Caerdydd yn mynd i'r afael ag amddifadedd digidol

Mae Cyngor Caerdydd yn darparu miloedd o ddyfeisiau digidol a donglau band eang drwy Gronfa Prosiect Technoleg Addysg Llywodraeth Cymru i gefnogi plant yng Nghaerdydd sydd wedi methu â dysgu ar-lein tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23871.html

 

15/05/20 - Caiff mesurau ymbellhau cymdeithasol eu gosod ar Stryd y Castell ddydd Sul

Caiff y lôn draffig ger Castell Caerdydd, ar Stryd y Castell, ei chau ddydd Sul yma, 17 Mai, er mwyn ymestyn y palmant i'r heol i'w ddefnyddio gan gerddwyr a beicwyr.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23873.html

 

15/05/20 - Ffeithlun COVID-19 4: Ymateb Cyngor Caerdydd mewn rhifau

Dros gyfnod argyfwng COVID-19, rydym wedi bod yn cynhyrchu cyfres o ffeithluniau, gan nodi ymateb Cyngor Caerdydd mewn rhifau. Dyma'r diweddaraf o'r ffeithluniau hyn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23878.html

 

15/05/20 - Cyfnod cloi COVID-19 yn costio £29m i Gyngor Caerdydd

Yn ôl adroddiad, gallai'r ymateb i'r argyfwng Covid-19 gostio £29m i Gyngor Caerdydd wrth iddo wario mwy o arian a cholli refeniw yn nhri mis cyntaf y flwyddyn ariannol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23879.html

 

15/05/20 - Bydd ymagwedd ‘Un Ddinas' yn ein helpu i drechu COVID meddai arweinydd Cyngor Caerdydd

Cafodd ymagwedd ‘un ddinas' Caerdydd i fynd i'r afael â COVID-19 ei chanmol gan arweinydd Cyngor Caerdydd sy'n dweud bod rhaid i'r ddinas ‘barhau i weithio gyda'n gilydd' i sicrhau bod prifddinas Cymru'n gwella o effeithiau'r pandemig.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23882.html