Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 1 Medi 2023

Dyma'r diweddaraf gennym ni, sy'n cynnwys:

  • Gweithredu Diwydiannol - amhariad posib ar wasanaethau o ddydd Llun
  • Grand Prix Speedway - yn Stadiwm Principality yfory
  • Caerdydd 10k - mae'r digwyddiad poblogaidd yn dychwelyd ddydd Sul
  • Her bwyd cynaliadwy - ceisio cynyddu'r bwyd a dyfir yn lleol

 

Newidiadau posib i gasgliadau gwastraff cartref Caerdydd oherwydd Gweithredu Diwydiannol - 4 Medi i 18 Medi

Mae gweithredu diwydiannol, dros ddyfarniadau cyflog sy'n cael eu trafod yn genedlaethol, yn cael eu cynllunio ledled y DU ym mis Medi gan Undeb Unite.

Mae Cyngor Caerdydd yn disgwyl i hyn effeithio ar rai o'i wasanaethau gwastraff ac ailgylchu rhwng dydd Llun 4 Medi a dydd Gwener 15 Medi, ond rydym am i chi wybod ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau unrhyw effaith arnoch chi.

Er mwyn sicrhau y gall y cyngor barhau i gasglu'r rhan fwyaf o'ch biniau du a'ch bagiau du, gwastraff bwyd, ac ailgylchu, mae trefniadau casglu newydd yn cael eu paratoi rhag ofn y bydd eu hangen yn ystod y streic.

Mae hefyd yn bosibl y bydd yn rhaid cyhoeddi newidiadau eraill yn ystod y gweithredu diwydiannol oherwydd aflonyddwch annisgwyl pellach.

Oherwydd hyn, ac oherwydd y gallai'r sefyllfa newid yn ddyddiol, gofynnwn i chi anwybyddu unrhyw hysbysiadau casglu yr ydych wedi cofrestru â nhw rhwng dydd Llun, 4 Medi, hyd at a gan gynnwys dydd Gwener, 15 Medi.

Yn lle hynny, ar ddiwrnod eich casgliad, gwiriwch y calendr casglu naill ai ar ein gwefan yma, Gwiriwch fy nyddiadau casglu (caerdydd.gov.uk),  neu drwy Ap Caerdydd Gov, neu drwy ddefnyddio Bobi, ein SgyrsBot. Byddwn hefyd yn diweddaru ein cyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol.  Rhannwch y newyddion gyda'ch teulu, ffrindiau a chymdogion sy'n byw ar eich stryd.

Efallai y bydd yn rhaid gwneud y newidiadau canlynol i gasgliadau. 

Darllenwch fwy yma

 

Gwybodaeth am gau ffyrdd a chyngor teithio ar gyfer y Speedway Grand Prix ddydd Sadwrn, Medi 2

Bydd un o ddigwyddiadau chwaraeon moduro dan do mwyaf poblogaidd Prydain yn rhuo'n ôl i Gaerdydd ddydd Sadwrn, Medi 2, pan fydd FM British Speedway Grand Prix yn dod â rhai o feicwyr gorau'r byd i Stadiwm Principality.

Cau ffyrdd

Bydd Heol y Porth a Stryd Wood, sy'n ffinio â'r stadiwm, ar gau yn eu cyfanrwydd rhwng 2.30pm a 9.30pm gyda'r ffyrdd canlynol hefyd ar gau yn llwyr:

  • Stryd y Cei  
  • Plas y Neuadd
  • Y Gwter
  • Gerddi Despenser
  • Sgwâr Canolog
  • Heol Scott
  • Stryd Havelock
  • Heol y Parc
  • Stryd Wood (o Arglawdd Fitzhammon drwodd i gyffordd Heol  Eglwys Fair â Lôn y Felin (bar Walkabout)
  • Stryd Tudor (o'r gyffordd â Heol Clare)

Yn ogystal, bydd y Ganolfan Ddinesig yng Nghaerdydd ar gau o 5am ddydd Sadwrn gyda mynediad yn cael ei ganiatáu ar gyfer parcio diwrnod yn unig, a bydd parcio i gymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat yn gyfyngedig. Mae'r ffyrdd sydd wedi'u heffeithio'n cynnwys:

  • Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd

 

Darllenwch fwy yma

 

Cau ffyrdd a chyngor teithio ar gyfer digwyddiad 10k Caerdydd, Ddydd Sul 3 Medi

Mae disgwyl i filoedd o redwyr droedio ar hyd strydoedd y brifddinas Ddydd Sul, 3 Medi, gydag atgyfodi ras 10k poblogaidd Caerdydd.

Mae'r ras, sydd wedi'i hychwanegu at bortffolio Run 4 Wales o ddigwyddiadau cyfranogiad torfol o'r radd flaenaf, yn denu'r athletwyr gorau, yn ogystal â rhedwyr parciau a rhai sy'n loncian elusen, gan fydn â'r rhedwyr ar lwybr heibio rhai o olygfeydd mwyaf poblogaidd Caerdydd.

Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, Afon Taf, Gerddi Sophia, y Ganolfan Ddinesig fawreddog a pharcdir gwych Caeau Llandaf a Phontcanna.

Er mwyn helpu'r ras i redeg yn esmwyth, mae rhaglen o gau ffyrdd treigl i'w gweithredu ar hyd y llwybr o 9am tan ddim hwyrach na 1pm:

  • Heol y Gogledd  o'r gyffordd â Heol Colum i'r gyffordd â Boulevard de Nantes  Bydd mynediad i'r Gored Ddu drwy Plas-y-Parc/Heol Corbett a mynediad i Sgwâr y Frenhines Anne yn cael ei reoli drwy Heol Colum/Heol Corbett a gellir dod allan drwy Heol Corbett ar i Heol Colum
  • Heol y Gogledd  i'r de o'r gyffordd â Boulevard de Nantes i'r gyffordd â'r A4161
  • Yr A4161  o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Ffordd y Brenin
  • Ffordd y Brenin  o'r gyffordd â'r A1461 i'r gyffordd â Heol y Dug
  • Heol y Dug a  Stryd y Castell  ar eu hyd
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen  o'r gyffordd â Stryd y Castell i'r gyffordd â Heol y Gadeirlan
  • Boulevard De Nantes  o'r gyffordd â Phlas-y-Parc/Stuttgarter Strasse i'r gyffordd â Heol y Gogledd
  • Y Brodordy a Gerddi'r Brodordy, Heol y Porth, Stryd Wood, Y Gwter, Plas y Neuadd, Stryd y Cei, Sgwâr Canolog, Heol Scott, Stryd Havelock, Stryd y Parc
  • Heol Eglwys Fair  o'r gyffordd â Lôn y Felin drwodd i Blas y Neuadd
  • Y Stryd Fawr  o'r gyffordd â Stryd y Castell i'r gyffordd â Phlas y Neuadd
  • Stryd Tudor  o'r gyffordd â Clare Road
  • Arglawdd Fitzhamon, Stryd Despenser, Despenser Lane, Despenser Place, Plantagenet Street, Beauchamp Street, Stryd Clare, Heol Isaf y Gadeirlan, Brook Street, Mark Street, Green Street, Teras Coldsteam
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen  o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Stryd Neville/Stryd Wellington
  • Stryd Neville  o'r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i'r gyffordd â Heol Isaf y Gadeirlan
  • Stryd Wellington o'r gyffordd â heol Lecwydd (tuag at ganol y ddinas)
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen  o'r gyffordd â Heol y Brenin
  • Heol y Gadeirlan  o'r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i'r gyffordd â Heol Penhill
  • Pob ffordd ochr  sy'n dod allan ar Heol y Gadeirlan
  • Hamilton Street, Talbot Street, Clos Sophia, Sophia Walk, Ffordd Feingefnyng Ngerddi Sophia,Plasturton Place, Dyfrig Street, Kyveilog Street, Sneyd Street, Dogo Street, Berthwin Street, Teilo Street, Gileston Road, Meldwin Street, Fairleigh Road, Fields Park Road, Denbeigh Street, Fairleigh Court a Heol Wilf Wooler.
  • Heol Penhill  o'r gyffordd â Heol Llandaf/Caerdydd (tuag at ganol y ddinas yn unig)
  • Bydd lôn ar gau ar  Rodfa'r Gorllewin  o'r gyffordd â Heol Excelsior hyd at y gyffordd â Lôn y Felin.
  • SYLWER: Bydd y troi i'r dde gwaharddedig o Heol Colum i Heol Corbett yn cael ei ddirymu i hwyluso mynediad i Sgwâr y Frenhines Anne yn unig. Bydd hyn yn cael ei reoli gan stiwardiaid rheoli traffig.

Darllenwch fwy yma

 

Her bwyd cynaliadwy ar agor ar gyfer ceisiadau

Mae her bwyd cynaliadwy, sy'n chwilio am atebion arloesol a allai gynyddu cynhyrchiant bwyd a dyfir yn lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi agor ar gyfer ceisiadau.

Nod yr Her, sy'n bartneriaeth rhwng Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Llywodraeth Cymru, a Chanolfan Ragoriaeth MYBB (Menter Ymchwil Busnesau Bach), yw dod o hyd i fusnesau a sefydliadau eraill sydd â syniadau sy'n canolbwyntio ar un o'r meysydd canlynol:

Her 1 - Dulliau o annog a gwella gwybodaeth mewn ysgolion am y manteision iechyd o gael bwyd o gadwyni cyflenwi bwyd lleol.

Her 2 - Offer masnachu integredig deinamig sy'n optimeiddio'r broses o gyflenwi a dosbarthu cyflenwadau bwyd lleol.

Her 3 - Sicrhau'r cynhyrchiant ynni adnewyddadwy mwyaf posibl a defnydd lleol o asedau fferm (a thyfu) tra'n cynnal cynnyrch amaethyddol.

Her 4 - Arferion ffermio arloesol i leihau allyriadau carbon a chynyddu'r cnwd.

Cynhelir yr her, sy'n agor ar gyfer ceisiadau heddiw (Awst 29 2023), mewn dau gam. Bydd cam un yn gam 'arddangos' lle bydd hyd at £800,000 fesul prosiect ar gael i sefydliadau llwyddiannus i'w galluogi i ddangos bod eu syniad yn gweithio ac yn ymarferol. Anogir ymgeiswyr i ystyried prosiectau ar amrywiaeth o opsiynau cyflenwi a chyllidebau hyd at y ffigur uchaf hwn.

Darllenwch fwy yma