Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 3 Hydref 2023
03/10/23

Dyma eich diweddariad ar gyfer dydd Mawrth, yn cynnwys:
 

·       Ymweliad tywysog a thywysoges Cymru â Chaerdydd heddiw

·       Cau Neuadd Dewi Sant am gyfnod hirach

·       Tîm Wardeiniaid newydd Canol y Ddinas

·       Gardd ‘Annwyl Mam’ ym Mynwent y Gorllewin yn ennill aur mewn gwobrau cenedlaethol.

Tywysog a thywysoges Cymru yn ymweld â Chaerdydd heddiw i ddathlu Mis Hanes Pobl Ddu

Mae tywysog a thywysoges Cymru yn ymweld â Phafiliwn y Grange ac Ysgol Uwchradd newydd Fitzalan heddiw i nodi dechrau Mis Hanes Pobl Ddu ac i ddathlu 75 mlynedd ers i’r HMT Empire Windrush gyrraedd y DU. 

Yn y cyntaf o ddau ymrwymiad yn y ddinas, ymwelodd eu huchelderau brenhinol â Phafiliwn y Grange yn Grangetown lle daeth disgyblion o Ysgolion Cynradd Howardian, Grangetown a Sant Paul at ei gilydd i'w cyfarch.

Gwnaeth eu huchelderau brenhinol gwrdd ag aelodau o Hynafiaid Windrush Cymru, Hanes Pobl Ddu Cymru 365 a Fforwm Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig Cymru i glywed am y cyfraniad anhygoel mae cenhedlaeth Windrush wedi'i wneud at gymunedau Cymru a dysgu am sut mae unigolion ifanc o leiafrifoedd ethnig yn creu newid cadarnhaol yng Nghymru.

Cyfarfu'r ddau hefyd â phobl ifanc sy'n gysylltiedig â'r Fforwm Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig, panel cynghori ieuenctid ar gyfer Race Council Cymru, pobl ifanc leol o’r gymuned Somalïaidd ac aelodau o Cysylltiadau Ieuenctid Somaliland Cymru a Chlwb Pêl-droed Cardiff Bay Warriors.

Yna aeth y pâr brenhinol i Ysgol Uwchradd newydd Fitzalan lle clywsant gan ddisgyblion am y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud ar hanes pobl ddu a dysgu am y cyrsiau galwedigaethol a'r cyfleoedd sydd ar gael yn yr ysgol. 

Ym mis Medi 2023 agorodd yr adeilad ysgol newydd, sydd werth £64m, ei ddrysau i ddisgyblion am y tro cyntaf. Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, dyma gynllun diweddaraf Caerdydd o dan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sy’n darparu ystod o gyfleusterau o'r radd flaenaf i helpu disgyblion i gyflawni eu potensial.

Mae nifer o ddisgyblion yn yr ysgol yn berthnasau uniongyrchol i Hynafiaid Windrush Cymru ac yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd diwylliannol gyda 70% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel ail iaith.

Yn ystod eu hymweliad, clywodd eu huchelderau brenhinol gan ddisgyblion chweched dosbarth sy’n gweithio ar wahanol feysydd pwnc Safon Uwch ac astudiaethau galwedigaethol, cyn ymweld ag ystafell drochi newydd sbon yr ysgol lle gwnaethant wrando ar wers hanes yn edrych ar fywyd yn Tiger Bay, ardal allweddol a oedd yn gartref i Genhedlaeth Windrush, a phwysigrwydd dysgu am eu treftadaeth ddiwylliannol.

Gwnaeth y tywysog a'r dywysoges gwrdd ag athrawon a disgyblion sy'n gweithio ar draws nifer o brosiectau yn yr ysgol, gan gynnwys y prosiect garddio sy'n ceisio annog disgyblion ifanc i ddysgu sut i dyfu planhigion a bwyd.

Yn olaf, cafodd eu huchelderau brenhinol weld y gât fynediad newydd a ddyluniwyd mewn partneriaeth â'r dylunydd o Lundain, Lara Sparey a disgyblion o'r ysgol i ymgorffori 'Beth mae Fitzalan yn ei olygu i ni?' gydag amrywiaeth o symbolau a gwaith celf i gynrychioli'r ysgol a Chymru.

Roedd Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik, yn bresennol ar gyfer yr ymweliad brenhinol ag Ysgol Uwchradd Fitzalan. Wrth edrych yn ôl ar y diwrnod dywedodd: "Mae wedi bod yn anrhydedd croesawu tywysog a thywysoges Cymru i Gaerdydd heddiw, gan arddangos rhai o'r prosiectau cymunedol gwych sy'n helpu i lunio dyfodol Caerdydd.

“Roedd eu hymweliad â chartref newydd sbon Ysgol Uwchradd Fitzalan yn gyfle i daflu goleuni ar yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblion yn yr ysgol a'r gwaith gwych sy'n cael ei gyflawni drwy gwricwlwm yr ysgol ar Fis Hanes Pobl Ddu a chenhedlaeth Windrush."

Ychwanegodd y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd: "Fel Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Gydraddoldeb, rydw i wrth fy modd bod tywysog a thywysoges Cymru wedi nodi dechrau Mis Hanes Pobl Ddu yma yng Nghaerdydd a dathlu’n gyhoeddus gysylltiad y ddinas â chymuned Windrush a’i gwerthfawrogiad iddi.

"Mae gan Gaerdydd gyfoeth o gymunedau amlddiwylliannol ac mae'n ddinas sy'n ymfalchïo mewn cynhwysiant ac amrywiaeth. Heddiw mae nifer o grwpiau cymunedol a phobl leol wedi rhannu eu profiadau a'r gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod gan bobl o wahanol gefndiroedd berthnasoedd cadarnhaol, sy'n mynd tuag at helpu ein dinas i ffynnu.

"Bydd Mis Hanes Pobl Ddu yn cael ei ddathlu ledled y ddinas drwy gydol mis Hydref wrth i ni ddathlu a myfyrio ar hanes pobl ddu, gan ddysgu o'r gorffennol i wella'r dyfodol."

Mae Pafiliwn y Grange yn brosiect partneriaeth rhwng Prosiect Pafiliwn y Grange, Grangetown Community Action, Prifysgol Caerdydd a Chyngor Caerdydd a arweiniodd at ailddatblygu hen bafiliwn bowls yn gyfleuster cymunedol. Mae'r gofod yn cynnig caffi cymunedol, cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ac mae wedi dod yn fan cyfarfod allweddol ar gyfer Fforwm Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig Cymru, Hynafiaid Windrush Cymru a Hanes Pobl Ddu Cymru 365.

Sefydlwyd Hynafiaid Windrush Cymru yn 2017 fel rhan o Race Council Cymru sy'n anelu at hyrwyddo dealltwriaeth o bryderon ac anghenion hynafiaid lleiafrifoedd ethnig tra hefyd yn dathlu cyfraniadau Cenhedlaeth Windrush a phobl o dras Affricanaidd yng Nghymru.

Ymestyn y cyfnod y mae’n rhaid cau Neuadd Dewi Sant dros dro

Mae'r cyngor wedi bod yn ymwybodol o CAAD yn Neuadd Dewi Sant a'r angen i'w reoli o safbwynt iechyd a diogelwch ers 2021, ac mae bob amser wedi dilyn canllawiau a chyngor y llywodraeth i sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel.

Mae strategaeth rheoli adeiladau ac iechyd a diogelwch wedi bod ar waith yn y lleoliad am y deunaw mis diwethaf.  Roedd hyn yn cynnwys archwiliadau rheolaidd gan beirianwyr strwythurol annibynnol gydag arbenigedd CAAD penodol.

Trwy gydol y cyfnod hwn ni chodwyd unrhyw faterion am gyflwr CAAD yn yr adeilad ac nid oedd tystiolaeth o ddirywiad - ac mae hyn yn wir o hyd.

Fodd bynnag, mae'r Cyngor wedi parhau i ymgysylltu â'i yswirwyr a'i beirianwyr strwythurol arbenigol ac, yn seiliedig ar gyngor a dderbyniwyd gan yr arbenigwyr hynny, credwn ei bod yn ddoeth ac yn gyfrifol i gynnal arolygon manwl i roi sicrwydd pellach i'n hunain a'r cyhoedd ar ddiogelwch y Neuadd. Bydd hyn yn gofyn am ddrilio i baneli i gadarnhau eu gwneuthuriad mewnol ac i benderfynu a oes angen unrhyw waith pellach i sicrhau diogelwch parhaus.

Darllenwch fwy yma    

Tîm Wardeniaid Newydd Canol y Ddinas

Mae tîm newydd o swyddogion yn patrolio strydoedd canol y ddinas i weithio gyda Heddlu De Cymru a phartneriaid eraill i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 Gyda phum swyddog yn gweithio ar bob shifft bob dydd, mae'r tîm yn gweithio'n agos gydag awdurdodau eraill i fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi a'u riportio, gan gynnwys gweithio gyda'r Tîm Allgymorth i helpu pobl sy'n cysgu allan; atal pobl rhag beicio mewn ardaloedd lle na chaniateir hynny, a rhoi gwybod i'r heddlu am unrhyw weithgarwch troseddol.

Er mwyn sicrhau y gall staff y cyngor gyflawni eu dyletswyddau o ddydd i ddydd yn ddiogel, bydd pob swyddog yn gwisgo camera corff, a fydd ond yn cael ei actifadu os bydd digwyddiad yn codi.

Dylai staff, lle bo hynny'n bosibl, gyhoeddi ar lafar eu bod wedi dechrau'r recordiad er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n cael eu recordio gan lens y camera a'r meicroffon yn ymwybodol eu bod nawr yn cael eu recordio.

Darllenwch fwy yma    

Gardd 'Annwyl Mam' ym Mynwent y Gorllewin yn ennill aur mewn gwobrau cenedlaethol

Mae gardd fynwent yng Nghaerdydd, sy'n adrodd hanes llygoden ifanc o'r enw Dorasy'n dymuno y gallai ddweud wrth ei mam faint mae hi'n ei cholli hi, wedi ennillGwobr Cymuned Brofedigaethus aur yng ngwobrau blynyddol Mynwent y Flwyddyn.

Cafodd Mynwent Draenen Pen-y-graig wobr arian yn y categori 'Tir Claddu Mawr' yn y seremoni wobrwyo fawreddog hefyd.

Wedi'i dylunio ihelpu plant ifanc i ymdopi â cholli anwylyd a rhoi lle i rieni sydd wedi colli babi ei gofio, yr ardd unigryw hon ym Mynwent y Gorllewin yn ardal Trelái y ddinas yw'r cyntaf o'i bath yn y DU.

Darllenwch fwy yma