Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 28 Tachwedd 2023

Dyma'r diweddaraf, gan gynnwys:

  • Cynyddu'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yng Nghaerdydd - Ymgynghoriad Cyhoeddus ar agor nawr ar gynlluniau ledled y ddinas
  • Y prentisiaid a 'syrthiodd mewn cariad â'r swydd' bellach yn gofalu am barciau Caerdydd
  • Camlas gyflenwi'r dociau Ffordd Churchill - nodwedd newydd yng nghanol y ddinas ar agor nawr
  • Gofyn i gymuned Butetown 'alw heibio' i rannu ei barn am ddyfodol Parc y Gamlas

 

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar agor nawr ar gynlluniau ledled y ddinas i gynyddu'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol

Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i rannu eu barn ar gynigion cynhwysfawr i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghaerdydd a allai olygu y bydd dros 200 o leoedd newydd yn cael eu darparu ledled y ddinas.

Fis Gorffennaf, cytunodd Cabinet y Cyngor i fwrw ymlaen â dau ymgynghoriad ar ystod o gynlluniau i fynd i'r afael â'r cynnydd yn y galw am leoedd arbenigol cynradd, uwchradd ac arbennig, gan gydnabod y boblogaeth gynyddol o ddysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth, cyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth ac anghenion iechyd a lles emosiynol.

Mae cyfres o sesiynau galw heibio a chyfarfodydd cyhoeddus wyneb yn wyneb ac ar-lein wedi'u trefnu. Ewch i:  Darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) (caerdydd.gov.uk)  am fwy o wybodaeth.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 19 Ionawr 2024.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd: "Rydym yn deall yn iawn wrth i gymhlethdod anghenion dysgwyr dyfu bod gofyniad angenrheidiol am fwy o ddarpariaeth arbenigol ar draws y ddinas ac mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud i dyfu'r cymorth, y sgiliau a'r cyfleusterau cynhwysol sydd ar gael mewn ysgolion.  Er enghraifft, mae Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) Caerdydd yn cael ei ehangu, gan gynyddu ei gapasiti i 180 o leoedd i gefnogi dysgwyr sydd ag ystod o anghenion iechyd a lles emosiynol."

Darllenwch fwy yma

 

Y prentisiaid a 'syrthiodd mewn cariad â'r swydd' bellach yn gofalu am barciau Caerdydd

Mae prentis ifanc a 'syrthiodd mewn cariad â'r swydd ar unwaith' wedi dod yn un o'r recriwtiaid parhaol diweddaraf sy'n gweithio i Gaerdydd ym mharciau eiconig y ddinas.

Ymunodd Morgan â Chyngor Caerdydd yn wreiddiol yn 2019 ar brentisiaeth 'caeau chwaraeon' pedair blynedd ac mae bellach yn cael ei gyflogi'n barhaol yn cynnal a chadw lawntiau bowlio, caeau rygbi, criced, pêl-droed a hyd yn oed caeau croquet y ddinas.

Wrth gofio cael cynnig ei hyfforddiant cychwynnol, dywedodd Morgan: "Ro'n i wrth fy modd a meddyliais, dyma fi nawr, ac wedyn o'n i jest yn gwthio a gwthio, yn gwneud popeth o'n i'n gallu. Roedd gen i fentoriaid da o'm cwmpas, ac fe ddangoson nhw'r drefn i fi, ac yna gadael i fi fwrw ‘mlaen. Datblygais brofiad a gwybodaeth, ac nid wyf wedi edrych yn ôl ers hynny."

"Rwyf wrth fy modd yn gweithio ar fy mhen fy hun neu fel rhan o dîm a chyflawni'r gwaith. Pan fyddwch yn gweithio yng nghanol yr haf mewn siorts a chrys-t yn gynnar yn y bore, mae'n eich gwneud yn hapus, bod yn yr amgylchedd ac yn gweithio ym mharciau eiconig Caerdydd, Parc y Rhath, Parc Bute, holl hanes Caerdydd, bod yn rhan o hynny."

"Parc y Rhath yw un o fy ffefrynnau, oherwydd ar adeg pan nad oeddwn hyd yn oed yn gwybod fy mod yn mynd i wneud y rôl hon, roeddwn i'n arfer cerdded heibio'r Gerddi Pleser, gan edrych ar y lawnt fowlio a dymuno gallu bod yn rhan o hynny ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, dyma fi."

Nid Morgan yw'r unig un sy'n elwa o Raglen Pobl Parciau, Chwaraeon, Awdurdod Harbwr a Hamdden Caerdydd. Ers 2016/17, mae Parciau Caerdydd wedi croesawu 450 o bobl ar leoliadau profiad gwaith, hyfforddiant a phrentisiaethau, 71 o'r rheiny yn ystod hanner cyntaf eleni. Nid ef yw'r unig un sydd wedi syrthio mewn cariad â'r swydd chwaith.

Darllenwch fwy yma

 

Camlas Gyflenwi'r Dociau ar Ffordd Churchill ar agor i'r cyhoedd nawr

Agorodd Camlas Gyflenwi'r Dociau ar Ffordd Churchill - sy'n rhedeg o ben Ffordd Churchill i Stryd Ogleddol Edward - i'r cyhoedd ddydd Gwener, 24 Tachwedd, gyda band pres a diddanwyr stryd yno i nodi dechrau gweledigaeth ar gyfer ardal fywiog newydd yng nghanol y ddinas.

Agor Camlas Gyflenwi'r Dociau yw cam cyntaf prosiect adfywio ehangach, gyda chynlluniau i ymestyn y gamlas ar hyd Ffordd Churchill i gysylltu Camlas Gyflenwi'r Dociau i'r de o Stryd Tyndall. Gallai'r datblygiad newydd hwn agor y potensial i ddarparu ardal drefol newydd gan gynnwys adfywio Stryd y Bont, Heol David, Heol Charles, Stryd Tredegar, Cilgant Guildford, a Lôn y Barics.

Bydd ailymddangosiad Camlas Gyflenwi'r Dociau hefyd yn darparu cynefin dŵr newydd yng nghanol y ddinas, gan greuman cyhoeddus gyda gerddi glaw i reoli dŵr wyneb, seddi awyr agored, ardal berfformio amffitheatr a dwy bont droed i groesi'r dŵr.

Yn y 1830au, roedd camlas gyflenwi'r dociau yn rhedeg o Afon Taf yn y Gored Ddu i lawr i Ddociau Caerdydd i gynnal lefelau'r dŵr yn Noc Bute Caerdydd. Roedd hyn yn caniatáu i'r doc weithredu 24 awr y dydd, hyd yn oed ar lanw isel, gan wasanaethu Camlas Morgannwg 25 milltir o hyd o Ferthyr Tudful i Gaerdydd i ddod â dur a haearn i lawr i'r ddinas.

Gorchuddiwyd Camlas Morgannwg rhwng 1948 a 1950 a gorchuddiwyd Camlas Gyflenwi'r Dociau ar Ffordd Churchill gyda thrawstiau concrit ac adeiladwyd y lôn gerbydau drosti. Nawr bod 69 o'r trawstiau concrit 7.5 tunnell wedi cael eu symud, gellir gweld Camlas Gyflenwi'r Dociau unwaith eto yn ei holl ogoniant i'r cyhoedd ei mwynhau.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Mae dau brif bwrpas i agor Camlas Gyflenwi'r Dociau ar Ffordd Churchill, yn gyntaf fel ffordd effeithiol iawn o reoli dŵr wyneb ac yn ail fel cam cyntaf cynllun adfywio, i weithio gyda buddsoddwyr preifat i gyflawni datblygiad defnydd cymysg dwysedd uchel llwyddiannus, gan ddenu cartrefi, gwestai, lletygarwch, swyddfeydd o ansawdd uchel, hamdden, ac unedau manwerthu.

Darllenwch fwy yma

 

Gofyn i gymuned Butetown 'alw heibio' i rannu ei barn am ddyfodol Parc y Gamlas

Gofynnir i drigolion Butetown helpu i ddatblygu uwch gynllun newydd ar gyfer Parc y Gamlas drwy rannu eu barn am y parc mewn sesiwn galw heibio a gynhelir ym Mhafiliwn Butetown.

Cynhelir y sesiwn, a fydd yn nodi lansiad ymgynghoriad cymunedol, ddydd Mercher 29 Tachwedd, rhwng 3pm a 7pm.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:   "Mae hwn yn fan gwyrdd pwysig i'r gymuned leol ac rydym wir eisiau clywed beth sydd ganddynt i'w ddweud am sut maen nhw'n defnyddio'r parc nawr, a sut maen nhw am ei ddefnyddio yn y dyfodol.

"Dyma gyfle'r gymuned i ddylanwadu ar y dyluniadau yn gynnar yn y broses a byddwn yn annog cynifer o bobl â phosib i gymryd rhan naill ai drwy fynd i'r sesiwn hon, neu drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein pan fydd yn cael ei lansio."

Cynhelir y sesiwn galw heibio, yr ymgynghoriad a'r ymarfer uwch gynllunio ehangach gan The Urbanists, tîm o Ddylunwyr Trefol, Penseiri Tirlunio a Chynllunwyr sydd wedi'u comisiynu gan Gyngor Caerdydd i baratoi'r uwch gynllun ar gyfer Parc y Gamlas.

Gall trigolion nad ydynt yn gallu bod yn bresennol yn y sesiwn galw heibio gymryd rhan yn yr ymgynghoriad o hyd.  Bydd arolwg ar-lein ar gael ar ôl y digwyddiad galw heibio.