Back
Y newyddion gennym ni - 25/03/24

Image

21/03/24 - Bydd partner dylunio ac adeiladu newydd yn cael ei benodi ar gyfer Cledrau Croesi Caerdydd

Mae cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd wedi cymryd cam ymlaen heddiw - gyda'r newyddion y bydd partner dylunio ac adeiladu yn cael ei benodi, i gyflwyno'r dyluniad manwl ar gyfer cam cyntaf y cynllun o Gaerdydd Canolog i Orsaf Drenau Bae Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

21/03/24 - Am y tro cyntaf yng Nghaerdydd, siop gafodd ei dal yn gwerthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon yn cael ei chau gan y cyngor

Mae Kermashan Mini Market, 136 Clifton Street, Caerdydd, wedi cael ei chau gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar ôl cwynion ynghylch gwerthu tybaco anghyfreithlon a thuniau ocsid nitraidd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

21/03/24 - Datgelu cynllun Caerdydd i wella llwybrau bysiau allweddol

Mae cynllun newydd i wella chwe llwybr bysiau allweddol i ganol dinas Caerdydd, a gynlluniwyd i roi hwb i nifer y teithwyr a chynnig amseroedd teithio cyflymach, wedi'i ddatgelu.

Darllenwch fwy yma

 

Image

20/03/24 - Cynlluniau diwygiedig Canolfan Hamdden Pentwyn i'w cyflwyno i'r gymuned

Bydd cynlluniau diwygiedig ar gyfer Canolfan Hamdden Pentwyn cael eu cyflwyno i'r gymuned leol mewn dau ddigwyddiad galw heibio yr wythnos nesaf.

Darllenwch fwy yma

 

Image

20/03/24 - Dechrau sgwrs yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth

Dechreuodd sgyrsiau am sut i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n deall niwrowahaniaeth ddoe mewn digwyddiad arbennig yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

20/03/24 - Contractwr wedi'i ddewis i ddarparu adeilad newydd ar gyfer 'Ysgol Cynefin' a alwyd yn Ysgol y Court gynt

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi mai Kier sydd wedi cael ei ddewis fel y cynigydd a ffefrir i adeiladu adeilad newydd ar gyfer 'Ysgol Cynefin', a alwyd yn Ysgol y Court gynt.

Darllenwch fwy yma

 

Image

18/03/24 - Cloc y Pierhead wedi'i adfer i'w hen ogoniant

Mae Cloc y Pierhead, un o dirnodau enwog Caerdydd, wedi cael ei adfer yn llawn ac mae'n cael ei ailosod yn ei flwch gwydr amddiffynnol ar Heol Eglwys Fair Isaf yn ddiweddarach heddiw (18 Mawrth).

Darllenwch fwy yma