Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
Cau ffyrdd ar gyfer gorymdaith Pride Cymru ar Fehefin 21
Mae Pride Cymru yn ôl gyda gŵyl ddeuddydd wedi'i threfnu yng nghanol dinas Caerdydd ar 21 a 22 Mehefin.
Bydd yr orymdaith yn digwydd ar 21 Mehefin gyda ffyrdd yn cau i sicrhau y gellir cynnal yr orymdaith yn ddiogel.
Am 11am, bydd pobl yn ymgynnull ar Heol y Porth, cyn y bydd yr orymdaith yn dechrau ei thaith 2 filltir ar hyd Stryd y Castell gan symud i'r Stryd Fawr, ymlaen i Heol Eglwys Fair, yn ôl i'r Ais, ymlaen i Heol Eglwys Ioan, ar hyd Heol y Frenhines, i fyny Plas y Parc, yn ôl ar hyd Heol y Brodyr Llwydion, ymlaen i Ffordd y Brenin a gorffen ar Stryd y Castell.
I hwyluso'r digwyddiadau, bydd y ffyrdd canlynol ar gau yn ystod yr amseroedd canlynol ar 21 Mehefin.
Gwaith ar y gweill i archwilio opsiynau i sicrhau dyfodol Plasty Hanesyddol Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd wedi dechrau'r broses o edrych ar opsiynau perchnogaeth amgen ar gyfer Y Plasty yn y ddinas, gan sicrhau dyfodol yr adeilad dinesig.
Mae'r symudiad yn dilyn adroddiad a gymeradwywyd gan aelodau o Gabinet y Cyngor ym mis Tachwedd 2024 a oedd yn cynnwys argymhelliad i gynnal ymarfer marchnad agored i archwilio opsiynau perchnogaeth ar gyfer yr adeilad.
Unwaith y bydd yr ymarfer marchnad agored wedi'i gwblhau, mae disgwyl i Gabinet y Cyngor gyfarfod eto yn yr Hydref i benderfynu ar yr opsiwn a ffefrir ar gyfer yr adeilad.
Er bod Cyngor Caerdydd wedi gallu gwneud atgyweiriadau hanfodol, mae angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol ar yr eiddo i fynd i'r afael â phroblemau gyda ffabrig ac adeiladwaith yr adeilad, a'i systemau mecanyddol a thrydanol.
Byddai'r lefel o fuddsoddiad sy'n ofynnol, yn ôl adroddiad mis Tachwedd, "ond yn cael ei gyfiawnhau pe byddai gan y Cyngor ddefnydd gweithredol hirdymor ar gyfer yr eiddo" ond yn anffodus, oherwydd ei gyfyngiadau, nid yw'r Cyngor wedi gallu canfod defnydd amgen addas. Nododd yr adroddiad hefyd fod yr adeilad Rhestredig Gradd II ar hyn o bryd yn cael ei "danddefnyddio gyda'r llawr cyntaf yn anaml yn cael ei ddefnyddio a'r ail lawr wedi'i gau oherwydd ei gyflwr gwael", sydd wedi bod yn wir am dros chwarter canrif. I'r perwyl hwnnw, nid yw'n rhan o anghenion y Cyngor.
Dathlu cerrig milltir pwysig yn nhwf y Gymraeg a gwasanaethau dwyieithog
Mae Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg Cyngor Caerdydd ar gyfer 2024/25 yn dangos cynnydd sylweddol o ran hyrwyddo'r Gymraeg ar draws y brifddinas.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gyflawniadau allweddol ym meysydd hyfforddi'r gweithlu, addysg, ac ymgysylltu â'r cyhoedd, gan atgyfnerthu uchelgais Caerdydd i fod yn ddinas wirioneddol ddwyieithog.
Mae'r llwyddiannau allweddol hynny'n cynnwys:
Cynnydd o 10% yn nifer y staff sy'n siarad Cymraeg, gyda 1,480 o gyflogeion y Cyngor bellach yn adrodd bod sgiliau Cymraeg ganddynt - sy'n cynrychioli bron i 19% o weithlu'r Cyngor.
Mae dros 1,400 o staff wedi derbyn hyfforddiant Cymraeg, gan ragori ar darged y Cyngor ar gyfer 2027 ddwy flynedd yn gynt na'r disgwyl.
Cyfieithwyd dros 13.8 miliwn o eiriau gan dîm Caerdydd Ddwyieithog, gan gefnogi gwasanaethau mewnol a phartneriaid allanol.
Darparwyd 689 awr o gyfieithu ar y pryd i gefnogi 252 o ddigwyddiadau a chyfarfodydd dwyieithog.
Mae 17.7% o ddisgyblion dosbarth derbyn a chynnydd i 19.7% o blant meithrin wedi cofrestru mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Mynychodd dros 700 o fyfyrwyr ffair yrfaoedd Gyrfa Gymraeg, gan hyrwyddo llwybrau gyrfa Cymraeg.
Tyfodd cyrhaeddiad cyfryngau cymdeithasol Cymraeg i bron i 5,000 o ddilynwyr, gan gynhyrchu dros 450,000 o argraffiadau.
Estyn yn Canmol Ysgol Y Berllan Deg am ei hethos gofalgar a'i hymrwymiad i addysg Gymraeg
Mae Ysgol Y Berllan Deg yn Llanedern wedi cael ei chanmol yn ei harolygiad diweddaraf gan Estyn gyda chydnabyddiaeth i arweinyddiaeth gref yr ysgol, ei chymuned gynhwysol a'i hymroddiad i feithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol trwy gyfrwng Cymraeg.
Wrth wraidd llwyddiant yr ysgol, canfu'r arolygwyr bod arweinyddiaeth bwrpasol a thîm staff ymroddedig sy'n ymrwymedig i greu awyrgylch gofalgar, ysbrydoledig a pharchus. Mae'r pennaeth a'r tîm arwain wedi gosod cyfeiriad strategol clir, gan feithrin cymuned ysgol hapus a chynhwysol sy'n gwerthfawrogi parch a hunaniaeth Gymraeg.
Mae'r adroddiad yn nodi bod disgyblion yn dangos ymddygiad aeddfed, parchus ac ymdeimlad cryf o gymuned. Mae amgylchedd feithringar yr ysgol yn sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel ac yn cael ei gefnogi, gyda'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da gydol eu hamser yn yr ysgol. Mae disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi'n arbennig o dda, gan elwa o gydweithrediad agos rhwng staff a gwasanaethau allanol.
Mae staff wedi cael eu canmol am ddarparu profiadau dysgu diddorol a chreadigol, gan gynnwys ymweliadau addysgol a phrosiectau celfyddydau perfformio a nodwyd bod gwersi ysgogol yn darparu ar gyfer ystod eang o alluoedd wedi cael eu cynllunio. Mae'r ymdrechion hyn yn arwain at ddisgyblion sydd yn dangos agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu a balchder yn eu hysgol.