Back
Y Diweddariad: 27 Mehefin 2025

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Diweddarwyd: Cyngor teithio ar gyfer Cyngherddau'r Haf yn Stadiwm Principality
  • Prentis parciau Caerdydd yn ennill Gwobr 'Seren Ddisglair'
  • Casglu dŵr glaw yn gwneud parciau Caerdydd yn wyrddach
  • Hyb Hanes Lleol Newydd yn Lansio yng Nghaerdydd i ddod â straeon y ddinas i ystafelloedd dosbarth a chymunedau

 

Diweddarwyd: Cyngor teithio ar gyfer Cyngherddau'r Haf yn Stadiwm Principality

Bydd cyfres o gyngherddau yn cael eu cynnal yn Stadiwm Principality yr haf hwn, o 19 Mehefin hyd at 1 Awst.

Er mwyn sicrhau bod pawb sy'n mynychu'r cyngherddau yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel, bydd ffyrdd o amgylch Stadiwm Principality yn cau ar yr adegau canlynol ar gyfer y cyngherddau sy'n weddill:

Oasis - 4 Gorffennaf a 5 Gorffennaf - 12 hanner dydd tan hanner nos

Stereophonics - 11 a 12 Gorffennaf - 3pm tan hanner nos

Kendrick Lamar - 19 Gorffennaf - 3pm tan hanner nos

Catfish and the Bottlemen - 1 Awst - 3pm tan hanner nos

Bydd y giatiau i'r stadiwm yn agor am 5pm ar gyfer y cyngherddau hyn.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn ar gyfer y cyngherddau hyn - felly cynlluniwch ymlaen llaw - i osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn y maes parcio ger Arena Vindico ar Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon - CF11 0JS.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a'r cefnffyrdd, ewch  i wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Cynghorir yn gryf i unrhyw un sy'n mynd i'r cyngherddau hyn i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig ar  principalitystadium.wales, yn enwedig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Prentis parciau Caerdydd yn ennill Gwobr 'Seren Ddisglair'

Mae prentis parciau Caerdydd wedi ennill Gwobr 'Prentis y Flwyddyn Seren Ddisglair'.

Dywedodd Morgan, a ddechreuodd ei yrfa parciau yn 2019 gyda Phrentisiaeth Sylfaen Cynnal a Chadw Tyweirch Chwaraeon cyn mynd ymlaen i gwblhau prentisiaeth Lefel 3 a sicrhau rôl llawn amser fel rhan o'r tîm sy'n gofalu am gaeau chwaraeon Caerdydd: "Dwi'n falch iawn o fod wedi ennill y wobr gan ei fod yn gydnabyddiaeth o fy ngwaith caled yn ystod y saith mlynedd diwethaf."

Mae'r gwobrau'n cael eu rhoi i unigolion sydd wedi rhagori yn eu prentisiaethau ond sydd hefyd wedi dangos ymrwymiad eithriadol, gwytnwch, ac angerdd gwirioneddol am ddysgu a gwasanaeth cyhoeddus. Ar ôl brwydro yn erbyn problemau iechyd difrifol fel plentyn, ac yn fwy diweddar goresgyn tiwmor yr ymennydd, mae Morgan yn ymgorffori'r holl rinweddau hyn a mwy.

Darllenwch fwy yma

 

Casglu dŵr glaw yn gwneud parciau Caerdydd yn wyrddach

Mae system casglu dŵr glaw newydd bellach yn cyflenwi hyd at 60% o'r dŵr sydd ei angen i ofalu am y 350,000 o blanhigion sy'n cael eu tyfu mewn tai gwydr ym Mharc Bute bob blwyddyn.

Wedi'i gosod fel rhan o ymateb 'Caerdydd Un Blaned' Cyngor Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd, mae'r system yn cynnwys dau danc storio sy'n gallu dal cyfanswm o 48,000 litr. Yn seiliedig ar ddata glawiad diweddar, mae gan y system y potensial i gasglu 1738m3o ddŵr glaw bob blwyddyn.

Cyn cael ei bwmpio yn ôl i'r tai gwydr, mae'r dŵr yn mynd drwy hidlydd UV i ladd unrhyw bathogenau, gan sicrhau bod y planhigion yn cael eu gofalu amdanynt cyn cael eu plannu mewn parciau ledled Caerdydd, eu defnyddio yn y basgedi crog a'r blychau plannu sy'n addurno canol y ddinas, neu eu gwerthu'n uniongyrchol i'r cyhoedd o siop y Blanhigfa yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Bute.

Darllenwch fwy yma

 

Hyb Hanes Lleol Newydd yn Lansio yng Nghaerdydd i ddod â straeon y ddinas i ystafelloedd dosbarth a chymunedau

Mae menter newydd yn lansio yr hydref hwn yng Nghaerdydd i helpu pobl ifanc i ddarganfod a dathlu hanes lleol cyfoethog y ddinas.  Fel rhan o gynllun peilot ledled y Deyrnas Gyfunol, mae Caerdydd wedi'i dewis fel un o bum ardal yn unig fydd yn croesawu Hyb Hanes Lleol, prosiect dan arweiniad athrawon sydd wedi'i gynllunio i gysylltu ysgolion, safleoedd hanesyddol, a sefydliadau cymunedol drwy adrodd straeon a dysgu sydd wedi ei seilio ar leoedd.

Mae canolfan Caerdydd yn cael ei arwain gan Elizabeth Berry, Pennaeth Ysgol Gynradd Bryn Celyn, a'i nod yw gwneud hanes yn fwy hygyrch, cynhwysol ac ystyrlon i ddysgwyr a'u cymunedau.

Meddai Elizabeth Berry, Pennaeth Ysgol Gynradd Bryn Celyn: "Rwy'n falch iawn o fod yn arwain Hyb Hanes Lleol Caerdydd yn Ysgol Gynradd Bryn Celyn! Mae'n gyfle cyffrous i archwilio treftadaeth gyfoethog ein dinas a dod â hanes yn fyw.  Bydd cydweithio gydag ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill yn gwneud dysgu yn ystyrlon, yn hwyl ac wedi ei wreiddio yn ddwfn iawn yn ein cymuned leol a'i straeon.

Darllenwch fwy yma