Mae Caerdydd yn adnabyddus am ei pharciau a'i mannau gwyrdd hardd ac eleni mae Caeau Llandaf wedi dod yn 21ainsafle sy'n cael ei reoli gan Gyngor Caerdydd i gyflawni'r safonau uchel sy'n ofynnol i chwifio Baner Werdd.
Bellach yn ei thrydedd ddegawd, mae Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli'n dda mewn 20 o wledydd ledled y byd. Gwneir gwobrau ar sail ymdrechion amgylcheddol, cyfleusterau ymwelwyr, a chyfranogiad cymunedol.
Gwasanaethau Chwarae Plant yn lansio gwefan newydd i gefnogi cyfleoedd chwarae i deuluoedd Caerdydd
Mae Gwasanaethau Chwarae Plant Cyngor Caerdydd wedi
lansio gwefan newydd sbon i wneud cyfleoedd chwarae ledled y ddinas yn fwy
hygyrch i deuluoedd.
Mae'r wefan newydd – https://gwasanaethauchwaraeplantcaerdydd.co.uk/ – yn dod â gwybodaeth ynghyd am yr ystod eang o
sesiynau chwarae mynediad agored a chaeedig, rhaglenni cynhwysol, adnoddau a
mentrau dan arweiniad y gymuned sydd ar gael i gefnogi lles a datblygiad plant
trwy chwarae.
Mae datblygiad y wefan gan Wasanaethau Chwarae, sy’n rhan o Wasanaethau Plant, yn cyd-fynd â gweledigaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach y Cyngor – gan gefnogi'r nod o wneud Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu drwy wneud cyfleoedd chwarae'n fwy hygyrch, cynhwysol a chynaliadwy.
Grantiau wedi'u dyfarnu i glybiau chwaraeon cymunedol yng Nghaerdydd
Mae pedwar ar ddeg o glybiau chwaraeon cymunedol gan gynnwys timau pêl-droed, pêl-fasged, athletau anabl, beicio a rygbi, wedi elwa o grantiau Cyngor Caerdydd i wella eu cyfleusterau.
Mae cyfanswm o £200,000 wedi'i ddyfarnu drwy'r cynllun, a ddarparwyd mewn partneriaeth â Chwaraeon Met Caerdydd. Mae'r prosiectau a ariannwyd yn cynnwys gwelliannau i gyfleusterau cae a newid, trac beicio mynydd pob tywydd newydd, bws mini newydd, a gosod llifoleuadau i alluogi hyfforddiant yn y gaeaf.
Dyddiad i’r dyddiadur: Diwrnod Chwarae Cenedlaethol Caerdydd 2025
Gwahoddir teuluoedd ledled Caerdydd i ymuno yn nathliad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2025 ym mis Awst.
Bydd y digwyddiad am ddim eleni yn cael ei gynnal ar gaeau chwarae Canolfan Hamdden y Dwyrain ddydd Mercher 6 Awst, 1 – 4pm a'r thema yw Mannau i Chwarae.
Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ledled y DU ar ddydd Mercher cyntaf mis Awst. Mae'r thema eleni yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol mannau hygyrch a chynhwysol lle mae plant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd i chwarae'n rhydd, treulio amser a chysylltu â ffrindiau – a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o'u cymuned.
Wedi'i drefnu gan dîm Gwasanaethau Chwarae'r Cyngor o fewn Gwasanaethau Plant, mewn partneriaeth â thimau eraill y cyngor a phartneriaid cymunedol, gall ymwelwyr y digwyddiad ddisgwyl prynhawn llawn profiadau chwarae anniben, creadigol ac egnïol i blant o bob oed.