Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 20/12/21

 

17/12/21 - Dweud eich dweud ar gynigion i ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch

Mae'r cyhoedd yn cael cyfle i roi eu barn ar gynigion ar gyfer Ysgol Gynradd Pentyrch, a allai gynyddu nifer y lleoedd cynradd ar gyfer gogledd-orllewin Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28224.html

 

17/12/21 - Y garreg filltir nesaf i'r ysgol gynradd gyntaf i gael ei hadeiladu dan Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd

Heddiw, dyfarnwyd y contract i adeiladu ysgol gynradd newydd gwerth £6 miliwn i'w lleoli yn natblygiad Sant Edern.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28222.html

 

17/12/21 - Datblygiad Fflatiau Cyngor a Hyb Trafnidiaeth Newydd Wedi'i Gymeradwyo

Cymeradwywyd datblygiad cynllun defnydd cymysg cynaliadwy fydd yn cynnwys tai newydd, manwerthu a chyfnewidfa fysus ar Heol Waun-gron  gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd yr wythnos hon, yn amodol ar gais galw i mewn a chytundeb cyfreithiol gan y datblygwr ar yr amodau a bennwyd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28217.html

 

16/12/21 - Hwb mawr i gyflenwad tai fforddiadwy'r ddinas

Caiff bron i 500 o dai fforddiadwy newydd eu hadeiladu yng Nghaerdydd, yn dilyn penderfyniadau gynllunio ar gyfer tri datblygiad yn rhaglen uchelgeisiol y Cyngor i adeiladu tai.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28215.html

 

15/12/21 - Golau gwyrdd cynllunio i gam cyntaf gwaith adfywio mawr ar ystâd

Mae'r gwaith o greu cymuned wedi'i hadfywio, yn darparu cartrefi newydd ac amgylcheddau gwell i drigolion presennol yn ne'r ddinas, wedi cymryd cam mawr yn ei flaen heddiw.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28209.html

 

15/12/21 - Gwaith gwella sylweddol ar y gweill ar gyfer Parc Maendy (Stryd Gelligaer) yn y Flwyddyn Newydd

Bydd gwaith gwella sylweddol yn cael ei wneud yn un o barciau Cyngor Caerdydd yn y Flwyddyn Newydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28205.html

 

15/12/21 - Caniatâd cynllunio ar gyfer cartrefi Byw yn y Gymuned

Mae cynllun tai sy'n rhan o raglen adeiladu newydd uchelgeisiol Cyngor Caerdydd - sy'n darparu llety hyblyg, cynaliadwy, carbon isel i drigolion hŷn er mwyn helpu i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain am fwy o amser - wedi cael sêl bendith heddiw.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28203.html

 

13/12/21 - Ymgyrch plannu coed ledled Caerdydd yn nodi Wythnos Coed Genedlaethol

Mae dros 400 o goed wedi'u plannu mewn digwyddiadau arbennig ym mharciau Caerdydd yn ystod Wythnos Coed Genedlaethol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28195.html

 

13/12/21 - Ymgynghoriad - Cynigion i wella dilyniant gyrfa Cynorthwywyr Addysgu

Mae ymgynghoriad sy'n gwahodd Cynorthwywyr Addysgu ledled y ddinas i ddweud eu dweud ar nodau ar gyfer eu gyrfa, bellach ar agor.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28191.html