Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 25 Awst 2023

Dyma'r diweddaraf gennym ni, sy'n cynnwys:

  • Mae'r canlyniadau i mewn - mae disgyblion Caerdydd wedi perfformio'n well na'r cyfartaledd yng Nghymru ar gyfer TGAU.
  • Neuadd y Ddinas i gau dros dro - bydd yr adeilad ar gau dros y gaeaf ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol.
  • Arolwg Addysg Oedolion - Estyn yn canmol y ddarpariaeth addysg gymunedol.
  • Caeau criced newydd - pum cae cymunedol pob tywydd newydd ar draws y ddinas, gyda mwy wedi'u cynllunio dros y ddwy flynedd nesaf.

 

Canlyniadau Arholiadau TGAU yng Nghaerdydd yn uwch na chyfartaledd Cymru

Yn seiliedig ar y canlyniadau dros dro a gyhoeddwyd heddiw, mae 29.3% o ganlyniadau TGAU ar gyfer 2023 wedi'u graddio A* i A yn arholiadau CBAC, o'i gymharu â ffigur Cymru o 21.7%.

70.9% yw canran y cofrestriadau TGAU sy'n arwain at raddau C, sy'n uwch na ffigwr Cymru o 64.9%.

Ar gyfer ceisiadau sydd wedi ennill graddau A* i G, ffigur 2023 ar gyfer Caerdydd yw 97%, o'i gymharu â ffigur Cymru o 96.9%. Gwelodd Caerdydd dros 33,000 yn cynnig ar gyfer TGAU CBAC eleni.

Y darlun cenedlaethol ar draws Cymru yw bod y canlyniadau yn disgyn yn fras hanner ffordd rhwng y rhai a ddyfarnwyd yn 2019 a 2022.  Mae hyn yn golygu, ar gyfer pob pwnc, bod canlyniadau ar lefel genedlaethol yn uwch nag yr oeddent yn 2019, ac yn is nag yr oeddent yn 2022 lle rhoddwyd mesurau ychwanegol ar waith. Ni ellir cymharu canlyniadau â blynyddoedd blaenorol.

Eleni yw'r ail flwyddyn i ddysgwyr gwblhau arholiadau ac asesiadau ffurfiol ers 2019, gan symud tuag at ddychwelyd i drefniadau arholiadau cyn y pandemig. Mae CBAC wedi ystyried y tarfu y mae dysgwyr wedi'i brofi wrth benderfynu ffiniau graddau ac mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau dull cenedlaethol o ymdrin â chanlyniadau yn hytrach na phenodol i ysgol.

Dwedodd Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd: "Hoffwn longyfarch holl ddisgyblion Caerdydd sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw.

"Wrth i Gaerdydd a gweddill Cymru bontio'n raddol yn ôl i raddio cyn y pandemig, dyma'r ail flwyddyn yn unig y mae arholiadau ac asesiadau ffurfiol wedi dychwelyd ers y pandemig, mae'n bwysig cydnabod y garfan hon am y ffordd y gwnaethant barhau i addasu, gan ddangos gwytnwch a phenderfyniad er gwaetha'r heriau a'r tarfu y gallent fod wedi'u hwynebu yn ystod blynyddoedd diwethaf eu haddysg yn yr ysgol.

"Mae'n wych gweld bod graddau cyffredinol Caerdydd yn uwch na chyfartaledd Cymru a chlywed cymaint o straeon am lwyddiant o bob rhan o'r ddinas.  Mae diwrnod canlyniadau TGAU yn garreg filltir wirioneddol i'n pobl ifanc ac rwy'n dymuno'r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol."

Mae cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill ar gael mewn un lle ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd sy'n ystyried eu camau nesaf cyn diwrnod canlyniadau'r arholiadau yr wythnos hon.

Darllenwch fwy yma

 

Neuadd y Ddinas i gau yn y gaeaf ar gyfer gwaith cynnal a chadw

Bydd Neuadd y Ddinas eiconig Caerdydd yn cau dros dro y gaeaf hwn er mwyn galluogi gwaith seilwaith hanfodol ar yr adeilad rhestredig Gradd I a'i gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Wedi'i adeiladu o garreg Portland a'i agor yn 1906, yr adeilad hwn oedd pencadlys cyntaf y cyngor i gael ei adnabod fel Neuadd y Ddinas - yn dilyn dyrchafiad Caerdydd i statws dinas yn 1905 - ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi cael ei ddefnyddio fel swyddfa gofrestru ac ar gyfer dathliadau priodas a digwyddiadau preifat eraill. Mae disgwyl i lawer o'r isadeiledd yn yr adeilad hanesyddol gael ei uwchraddio, ac fel rhan o'r gwaith dros y gaeaf bydd system wresogi ac awyru newydd yn cael ei gosod.

Pan fydd ar gau, a disgwylir iddo fod ar gau tan Gwanwyn 2024, bydd priodasau'r Swyddfa Gofrestru yn cael eu cynnal yng Nghwrt Insole, sydd yr un mor hanesyddol, tra bydd holl ddigwyddiadau eraill y swyddfa gofrestru yn cael eu cynnal yn adeilad Archifau Morgannwg ger Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd trefnwyr digwyddiadau'n cael cynnig lleoliadau amgen ar gyfer eu digwyddiadau, a chynhelir cyfarfodydd misol y cyngor llawn, sydd fel arfer yn cael eu cynnal yn Siambr Neuadd y Ddinas, yn Neuadd y Sir. Bydd staff yn swyddfeydd Neuadd y Ddinas hefyd yn cael eu hadleoli dros dro.

Darllenwch fwy yma

 

Darpariaeth Dysgu Oedolion yn cael ei chanmol gan arolygwyr addysg

Mae darpariaeth dysgu oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg wedi cael ei galw'n "hynod effeithiol" ar ôl arolwg swyddogol.

Roedd yr arolwg gan Estyn yn archwilio'r gwasanaeth a ddarperir gan Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Caerdydd a'r Fro, grŵp sy'n cynnwys Cyngor Caerdydd, Coleg Caerdydd a'r Fro, Cyngor Bro Morgannwg ac Addysg Oedolion Cymru.

Gyda'i gilydd, mae ei 193 aelod o staff addysgu rhan amser a 43 llawn amser yn cynnig cyrsiau i bron i 6,000 o ddysgwyr.

Mewn adroddiad cadarnhaol, dywedodd arolygwyr Estyn fod gan y bartneriaeth "weledigaeth glir ar gyfer ei diben, ei chyfeiriad a'i darpariaeth", gan ychwanegu:  "Mae'r weledigaeth wedi'i gwreiddio yn ei hymrwymiad i wella cyfleoedd bywyd dysgwyr sy'n oedolion yn ei chymunedau amrywiol."

Mae'r adroddiad yn ei wneud yn glir bod y Bartneriaeth yn cynnig llawer mwy nag addysg.  Mae dysgwyr yn adrodd bod dysgu yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau, drwy eu helpu i gael gwaith, dysgu sgil newydd, cefnogi bywydau eu plant neu gyfoethogi eu bywydau eu hunain trwy weithgareddau artistig a chymdeithasol.  Dyfynnwyd yn yr adroddiad un dysgwr yn dweud bod y cwrs wedi helpu i roi mwy o hyder a hunan-barch iddi, yn ogystal â rhoi'r cyfle i gwrdd â phobl newydd.  Mae hi nawr yn mwynhau gweithio fel cynorthwy-ydd addysgu yn ysgol ei phlant.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc, fod yr adroddiad yn dangos pa mor galed yr oedd staff y Bartneriaeth wedi gweithio a dangos ei bod yn darparu gwasanaeth gwych i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y rhanbarth.

"Ar lawer o'r cyrsiau, mae pobl yn caffael sgiliau newydd sydd nid yn unig yn eu helpu i gael gwaith neu symud ymlaen i astudio ymhellach ond sydd hefyd yn datblygu eu sgiliau personol i gefnogi eu plant neu aelodau eraill o'r teulu."

Darllenwch fwy yma

 

Sêr Criced yn tanio brwdfrydedd am fenter chwaraeon cymunedol newydd

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan gyfres ddiweddar y Lludw ac eisiau rhoi cynnig ar griced - neu'n syml ailddarganfod eich cariad at ein chwaraeon haf cenedlaethol - yna mae gan Gyngor Caerdydd newyddion cyffrous i chi.

Gyda chefnogaeth KP Snacks, mae'r Cyngor wedi cefnogi gosod pum cae cymunedol pob tywydd newydd ledled y ddinas, gyda mwy i ddod dros y ddwy flynedd nesaf.

Yn lansiad swyddogol y fenter, ar Gaeau Llandaf, roedd sêr o dîm Cant y Tân Cymreig wrth law i helpu pobl i fynd i'r afael â'r gêm a phrofi bod criced i bawb.

Ymunodd Alex Hartley, sy'n rhan o dîm Lloegr a enillodd Gwpan y Byd 2017 ac sydd bellach yn serennu i'r Tân Cymreig yn y Cant, â'i gyd-aelodau yn y tîm, Steve Eskinazi, Alex Griffiths a Tom Abell i arddangos y cae newydd. "Mae hwn yn gyfnod mor gyffrous i griced llawr gwlad ledled Caerdydd," meddai.  "Gall cael cyfleusterau o'r radd flaenaf fel hyn ysgogi mwy o bobl i roi cynnig ar griced a bod yn egnïol yn y broses."

Yn ogystal â datblygiad Caeau Llandaf, mae wedi ariannu pedwar cae arall sy'n newydd neu wedi'u hadnewyddu ledled Caerdydd a fydd yn cael eu cynnal a'u rhedeg gan Gyngor Caerdydd:

  • Caeau'r Gored Ddu, oddi ar Ffordd y Gogledd
  • Caeau Pontcanna
  • Parc y Tan yn Grangetown, a
  • Parc y Mynydd Bychan/Ysgol Uwchradd Cathays 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:   "Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn dod â chymaint o fanteision i iechyd a lles unigolion a chymunedau, a bydd y buddsoddiad yn y caeau di-laswellt newydd hyn yn ein helpu i gael hyd yn oed mwy o bobl i chwarae criced ym mharciau Caerdydd, hyd yn oed pan nad yw'r tywydd yn ffafriol."

Darllenwch fwy yma