·
Cyngor Mae
Rhentu Doeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru i
gyflwyno cwrs rheoli llifogydd hanfodol
·
Gwaith
Adnewyddu Cartref Cŵn Caerdydd ar y gweill ar ôl ymdrech codi arian gwerth
£500,000
·
Cyngor
Caerdydd yn ymrwymo i fod yn Gyflogwr sy’n Ystyriol o Endometriosis
·
Ysgol
Glan Morfa yn dathlu adroddiad canmoladwy gan Estyn
Mae Rhentu Doeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth â
Chyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno cwrs rheoli llifogydd hanfodol
Mae Rhentu Doeth Cymru wedi lansio hyfforddiant Rheoli Llifogydd newydd ar gyfer landlordiaid ac asiantiaid, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r cwrs Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn rhad
ac am ddim ac mae bellach ar gael ar wefan Rhentu Doeth Cymru.
Gydag 1 o bob 7 cartref a busnes yng Nghymru mewn perygl o lifogydd, a chyda'r argyfwng hinsawdd yn dod â thywydd mwy eithafol, mae'n bwysicach nag erioed bod pobl yn gwybod ac yn deall eu perygl o lifogydd.
Gwaith Adnewyddu Cartref Cŵn Caerdydd ar y gweill ar ôl
ymdrech codi arian gwerth £500,000
Mae gwaith adnewyddu wedi dechrau'n swyddogol yng
Nghartref Cŵn Caerdydd, gan nodi cam mawr ymlaen o ran gwella cyfleusterau ar
gyfer cŵn coll a chŵn y cefnwyd arnynt yng Nghaerdydd.
Mae'r gwaith adnewyddu yn bosibl diolch i ymdrechion codi
arian gwych The Rescue Hotel, elusen gofrestredig a sefydlwyd yn 2020 i gefnogi
Cartref Cŵn Caerdydd.
Wedi'i lansio gan gyn-gapten rygbi Cymru a chennad The
Rescue Hotel, Sam Warburton, cododd eu hymgyrch codi arian dros £500,000 i
uwchraddio'r cytiau. Mae hyn yn cynnwys rhodd hael o £180,000 gan y
Pets Foundation.
Cyngor Caerdydd yn ymrwymo i fod yn Gyflogwr sy’n
Ystyriol o Endometriosis
Cyngor Caerdydd yw'r sefydliad diweddaraf i wneud addewid i gefnogi cydweithwyr y mae endometriosis yn effeithio arnynt, drwy ymuno â'r cynllun Cyflogwyr sy’n Ystyriol o Endometriosis.
Gyda 14,800 o staff, dyma'r corff llywodraeth leol mwyaf i wneud yr ymrwymiad
hwn, a dim ond yr ail yng Nghymru i wneud hynny, ar ôl Cyngor Sir Powys.
Trwy'r cynllun, sy'n cael ei redeg gan yr elusen Endometriosis UK, bydd Cyngor Caerdydd yn gwella ei gefnogaeth i'r rhai y mae’r clefyd cyffredin hwn yn effeithio arnynt, yn ogystal â chwalu’r tabŵ a’r stigma ynghylch iechyd mislif.
Ysgol Glan Morfa yn dathlu adroddiad canmoladwy gan Estyn
Yn ystod arolwg diweddar gan Estyn, mae Ysgol Glan Morfa
yn y Sblot wedi cael ei chanmol am ei gwerthoedd cryf, ei hethos cynhwysol a'i
hymrwymiad i les a chynnydd disgyblion.
Tynnodd arolygwyr sylw at y safonau uchel sy'n cael eu
gosod gan arweinwyr yr ysgol, yn ogystal â gweledigaeth glir, gynhwysfawr sy'n
rhoi cynnydd a lles disgyblion wrth ei chalon. Mae'r adroddiad yn canmol
partneriaethau cryf yr ysgol gyda rhieni, llywodraethwyr, a'r gymuned ehangach,
sy'n helpu i ddarparu cyfleoedd dysgu diddorol ac ystyrlon.
Rhoddwyd canmoliaeth arbennig i waith yr ysgol wrth
ddatblygu dealltwriaeth bersonol, gymdeithasol a moesol disgyblion, a'i
hymrwymiad i ddathlu a pharchu amrywiaeth ddiwylliannol.
Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod gwaith gwych Ysgol Glan
Morfa yn hyrwyddo'r Gymraeg a rôl ganolog yr iaith ym mywyd bob dydd yr ysgol.
Mae'r ysgol yn falch o feithrin siaradwyr Cymraeg hyderus sy'n cyfrannu at dwf
a phwysigrwydd parhaus yr iaith yn y gymuned leol.