11/12/20 - Adolygiad o Ardal Gadwraeth Llandaf i wella cadwraeth yr ardal hanesyddol
Gallai adolygiad gan Gyngor Caerdydd o Ardal Gadwraeth hanesyddol Llandaf arwain at gadw treftadaeth unigryw'r ardal yn well, ac ymestyn yr ardal a ddiogelir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25433.html
11/12/20 - Adroddiad yn amlinellu cynigion ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays newydd
Bydd adroddiad sy'n argymell cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i ehangu ac ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cathays yn mynd i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 17 Rhagfyr 2020.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25430.html
11/12/20 - Cynigion i ad-drefnu ysgolion cynradd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd
Bydd adroddiad sy'n argymell cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i ad-drefnu a buddsoddi mewn darpariaeth ysgolion cynradd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd yn cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cwrdd ddydd Iau 17 Rhagfyr.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25428.html
11/12/20 - Hwb i Fae Caerdydd wrth i uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd gael ei ddatgelu
Datgelwyd uwchgynllun newydd ar gyfer Glanfa'r Iwerydd, sy'n nodi sut y bydd 30 erw o dir ym Mae Caerdydd yn cael ei ailddatblygu er mwyn helpu i drawsnewid Bae Caerdydd yn atyniad ymwelwyr rheng uchaf yng ngwledydd Prydain.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25437.html
11/12/20 - Partneriaid yn rhybuddio bod Caerdydd a'r Fro yn wynebu argyfwng Covid
Mae sefydliadau Caerdydd a Bro Morgannwg sydd ar reng flaen yr ymateb i Covid-19 wedi dod at ei gilydd i rybuddio eu bod yn wynebu sefyllfa o argyfwng wrth i nifer yr achosion gofnodwyd o Covid-19 yn y rhanbarth gyrraedd y lefel uchaf erioed.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25435.html
11/12/20 - Cynlluniau ar gyfer cartrefi a chyfleusterau cymunedol newydd yn Nhreganna a Glanyrafon
Mae cynlluniau cyffrous wedi eu datgelu i ailddatblygu cyfleuster cymunedol yn Nhreganna yn ardal o dai deniadol a hygyrch i bobl hŷn a chyfleusterau cymunedol cynaliadwy a gwell.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25425.html
10/12/20 - Y wybodaeth ddiweddaraf - Safbwynt Caerdydd ar ddyddiadau Nadolig ysgolion Cynradd ac Uwchradd
Heddiw, ddydd Iau 10 Rhagfyr, cyhoeddodd Gweinidog Addysg Cymru y bydd ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun, 14 Rhagfyr fel rhan o 'ymdrech genedlaethol i leihau trosglwyddo coronafeirws'.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25421.html
09/12/20 - Tîm Gwasanaethau Profedigaeth yn cyrraedd rowndiau terfynol gwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'r tîm Gwasanaethau Profedigaeth penigamp yng Nghyngor Caerdydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus 2020, yn y categori 'Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaeth Mynwentydd ac Amlosgfeydd.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25410.html
09/12/20 - Cynllun i hyrwyddo urddas mislif wedi'i estyn i'r gwyliau Ysgol
Bydd cynllun i ddarparu nwyddau mislif am ddim i ddisgyblion ysgol trwy gydol gwyliau'r Nadolig yn cael ei gyflwyno'r wythnos hon.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25404.html
08/12/20 - Dug a Duges Caergrawnt yn dod i Gastell Caerdydd
Bydd myfyrwyr o dair prifysgol yn Ne Cymru yn cwrdd â Dug a Duges Caergrawnt yng Nghastell Caerdydd y bore yma.
Darllenwch fwy yma: