Back
Y newyddion gennym ni - 27/11/23

Image

24/11/23 - Bydd casgliadau gwastraff yng Nghaerdydd yn dychwelyd i weithrediadau arferol o'r wythnos nesaf

Daw gweithredu diwydiannol presennol Unite i ben ddydd Sul, 26 Tachwedd, felly o ddydd Mawrth, 28 Tachwedd, bydd casgliadau gwastraff yng Nghaerdydd yn dychwelyd i weithrediadau arferol.

Darllenwch fwy yma

Image

24/11/23 - Camlas Gyflenwi'r Dociau ar Ffordd Churchill yn agor i'r cyhoedd ddydd Gwener, 24 Tachwedd

Bydd Camlas Gyflenwi'r Dociau ar Ffordd Churchill - sy'n rhedeg o ben Ffordd Churchill i Stryd Ogleddol Edward - yn agor i'r cyhoedd ddydd Gwener, 24 Tachwedd

Darllenwch fwy yma

Image

23/11/23 - Ymgynghoriad Cyhoeddus ar agor nawr ar gynlluniau ledled y ddinas i gynyddu'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol

Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i rannu eu barn ar gynigion cynhwysfawr i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghaerdydd a allai olygu y bydd dros 200 o leoedd newydd yn cael eu darparu ledled y ddinas.

Darllenwch fwy yma

Image

22/11/23 - Mae Parth Buddsoddi ar ei hynt i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd

Cyhoeddwyd £160 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn Natganiad yr Hydref i gynorthwyo twf economaidd dwys yn Ne-ddwyrain Cymru.

Darllenwch fwy yma

Image

21/11/23 - Bydd diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched yn dechrau pan fyddwn yn #NewidyStori

Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn blynyddol yn cael ei gynnal ledled y byd y penwythnos hwn, gan roi cyfle i fyfyrio ar heriau goresgyn trais dynion yn erbyn menywod a merched.

Darllenwch fwy yma

Image

21/11/23 - Mae arena Dan Do newydd Caerdydd yn symud i'r cam datblygu

Disgwylir i waith galluogi ardal dan do newydd 15,000 o gapasiti Caerdydd ddechrau ym mis Ionawr 2024 - wrth i'r prosiect symud i'r cam cyflawni - gyda dyddiad agor wedi'i bennu tua diwedd 2026.

Darllenwch fwy yma

Image

21/11/23 - Datblygiad Ysgol Uwchradd Willows: Dweud eich dweud

Mae cynlluniau i adleoli ac ailadeiladu Ysgol Uwchradd Willows ar agor ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Darllenwch fwy yma

Image

20/11/23 - Ar Ddiwrnod Plant y Byd mae Caerdydd yn myfyrio ar ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF gyntaf erioed y DU

I gyd-fynd â Diwrnod Plant y Byd, bydd baner Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF yn cael ei hedfan o fastiwn yng Nghastell Caerdydd

Darllenwch fwy yma