Back
Y newyddion gennym ni - 09/10/23

Image

06/10/23 - Murluniau newydd wedi'u hysbrydoli gan hanes a threftadaeth gerddorol Caerdydd

Mae murlun newydd a ysbrydolwyd gan dreftadaeth gerddorol Caerdydd ac a gynlluniwyd gan Unify Creative, yr artistiaid y tu ôl i 'Mona Lisa Butetown', wedi ymddangos mewn tanffordd yng nghanol dinas Caerdydd o dan Boulevard de Nantes.

Darllenwch fwy yma

 

Image

06/10/23 - Newidiadau i'r Gwasanaethau Cofrestru yng Nghaerdydd

Bydd y Gwasanaethau Cofrestru yng Nghaerdydd yn newid dros dro dros y gaeaf, gyda chofrestriadau genedigaethau, priodasau a phartneriaethau sifil i symud o Neuadd y Ddinas tra bod yr adeilad ar gau yn ystod gwaith cynnal a chadw hanfodol.

Darllenwch fwy yma

 

Image

05/10/23 - Cydnabod addysg treftadaeth yng Nghastell Caerdydd yn 'rhagorol'

Gyda 2,000 o flynyddoedd o hanes yn ymestyn yn ôl i'r Rhufeiniaid, mae llawer i ymwelwyr ei ddysgu yng Nghastell Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

03/10/23 - Tywysog a thywysoges Cymru yn ymweld â Chaerdydd heddiw i ddathlu Mis Hanes Pobl Ddu

Mae tywysog a thywysoges Cymru yn ymweld â Phafiliwn y Grange ac Ysgol Uwchradd newydd Fitzalan heddiw i nodi dechrau Mis Hanes Pobl Ddu ac i ddathlu 75 mlynedd ers i'r HMT Empire Windrush gyrraedd y DU.

Darllenwch fwy yma

 

Image

03/10/23 - Tîm Wardeniaid Newydd Canol y Ddinas

Mae tîm newydd o swyddogion yn patrolio strydoedd canol y ddinas i weithio gyda Hedd Mae tîm newydd o swyddogion yn patrolio strydoedd canol y ddinas i weithio gyda Heddlu De Cymru a phartneriaid eraill i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Darllenwch fwy yma

 

Image

03/10/23 - Gardd 'Annwyl Mam' ym Mynwent y Gorllewin yn ennill aur mewn gwobrau cenedlaethol

Mae gardd fynwent yng Nghaerdydd, sy'n adrodd hanes llygoden ifanc o'r enw Dora sy'n dymuno y gallai ddweud wrth ei mam faint mae hi'n ei cholli hi, wedi ennill Gwobr Cymuned Brofedigaethus aur yng ngwobrau blynyddol Mynwent y Flwyddyn.

Darllenwch fwy yma

 

Image

02/10/23 - Ymestyn y cyfnod y mae'n rhaid cau Neuadd Dewi Sant dros dro - Datganiad Cyngor Caerdydd

Mae'r cyfnod y mae'n rhaid cau Neuadd Dewi Sant dros dro wedi cael ei ymestyn i ganiatáu mwy o amser i gwblhau'r gwiriadau ychwanegol ar y paneli Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth yn yr adeilad, ac i gymryd y camau nesaf angenrheidiol.

Darllenwch fwy yma

 

Image

29/09/23 - Gwefan newydd i gefnogi pobl hŷn yng Nghaerdydd i fyw'n dda

Mae gwefan newydd sy'n dda i bobl hŷn wedi'i lansio yng Nghaerdydd, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn blynyddol y Cenhedloedd Unedig (1 Hydref).

Darllenwch fwy yma

 

Image

29/09/23 - Croeso i Ffos y Faendre: tai cyngor newydd yn Llaneirwg

Bydd 13 o aelwydydd Caerdydd yn galw datblygiad tai newydd yn nwyrain cartref y ddinas yn gartref yn fuan, ar ôl i'r eiddo gael eu trosglwyddo i'r Cyngor heddiw.

Darllenwch fwy yma

 

Image

28/09/23 - Gwaith i ddechrau ar Ardal Chwarae newydd yn Drovers Way

Disgwylir i'r gwaith o ailwampio ardal chwarae 'ar thema dŵr' yn Drovers Way yn Radur ddechrau ar 2 Hydref, ar ôl cwblhau'r gwaith i ddatrys problemau draenio ar y safle.

Darllenwch fwy yma

 

Image

27/09/23 - Ci wedi'i adael yw'r diweddaraf i gael ei recriwtio gan Heddlu De Cymru

Mae ci wedi'i adael a ddarganfuwyd yn crwydro strydoedd Llaneirwg yng Nghaerdydd ac yna'i dderbyn gan Gartref Cŵn Caerdydd, wedi dod yn un o recriwtiaid newydd Heddlu De Cymru.

Darllenwch fwy yma